Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

frwd

frwd

roedd ei frawd huw, ddwyflwydd yn iau, yn frwd frwd mi ddylent(taf:ddylen) nhw rasio fel slecs !

Ond er hyn i gyd, ar ôl adrodd ei stori, fe gafodd gymeradwyaeth frwd a churo traed a churo dwylo gan ei gydwladwyr.

Yn y rhaglen Simon Rattle - Moving On cawsom hanes yr arweinydd a chafodd y rhaglen ddogfen ar John Cale, un o sylfaenwyr y grwöp pop Velvet Underground, ganomoliaeth frwd gan y wasg.

Yr adeg honno, fel unrhyw ŵr ieuanc, yr oeddwn yn frwd ac unochrog iawn.

de lamartine, ac roedd ef yn frwd iawn dros gefnogi'r gynhadledd.

Yn rwgnachlyd, derbyniodd yr athro'r disgybl newydd i'r dosbarth, ac ymfwriodd yntau'n frwd i'w astudiaethau.

Oni allai rhieni plant eraill dros Gymru gyfan fod yr un mor frwd dros gael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg i'w plant hwythau?

Roedd croeso'r plant i'w rhieni yn frwd, yn fwy brwd hwyrach i'w tad nag i'w mam.

Ni wyddai Hector druan hyn, ac onibai am archeb anferth Mrs Paton Jones a'i llythyr at y goruchwyliwr yn canmol yn frwd chwaeth a help gwerthfawr 'eich Mr Pennant' ni byddai'r stori hon gennyf i'w chroniclo, gan na chafodd Hector glywed gair am y llythyr.

Pan ddechreuodd Eisteddfodau'r Clybiau bu aelodau Clwb Bryncir yn cystadlu'n frwd yno.

'Mor frwd meddai Puleston Jones yn Y Seren wrth adrodd gweithgareddau'r cyfarfod cyntaf, 'mor frwd ydyw yr yspryd Cymreig yma ar hyn o bryd, fel y dywedir i un brawd o ganol brysurdeb paratoi at ei arholiad ddiweddaf, roi un bore ar ei hyd i astudio prydyddiaeth Gymreig Gwn ddarfod i un arall ddarllen gweithiau barddonol Goronwy i gyd bron mewn un diwrnod" "Chwi synnech', meddai eto wrth adrodd am gyfarfod diweddarach, 'mor gyflawn o addysg ydyw papurau fel hwn (sc.

Bu'n frwd tros roi statws teilwng i'r Gymraeg a bu'n gefn mawr i Dr J.

(Tyrfa enfawr yn dechrau cymeradwyo yn frwd.)

Cefnllech Roberts yn areithio'n frwd am ...Gymru'n deffro ...

Badshah, Moslem wedi troi'n Gristion, i Maulvi Bazaar a chael cefnogaeth frwd gan Pengwern; mynnai Pengwern hyd yn oed ei ordeinio'n weinidog.

cawsant groeso yr un mor frwd ar ôl iddynt gyrraedd frankfort.

Nid oedd f'ymateb y tro hwn lawn mor frwd a phan ddarllenais y llyfr gyntaf dros hanner can mlynedd yn ol, ac eto mae'r stoi'n dal yn un afaelgar, yr hanes am fab i grydd o bentref bach Llangernyw yn gadael ysgol yn ddeuddeg oed ac yn llwyddo i gyrraedd prifysgolion Glasgow a Rhydychen: Ar ol peth trafferth medrodd fy mrawd John a minnau berswadio Mam i adael inni gysgu yn y gwely ym mhen tywyll y gweithdy.

Ond fel ysgolhaig a hynafiaethydd, gwelai werth yn yr iaith er ei mwyn ei hun hefyd, a rhoddodd gefnogaeth frwd i'r offeiriaid hynny a geisiai hyrwyddo'r Gymraeg a'i diwylliant.

Cafwyd trafodaeth frwd ar y pwyntiau uchod yn y cyfarfod ar yr 2il o Chwefror, a phenderfynwyd fod y mater yn haeddu trafodaeth bellach mewn Is-Bwyllgor Ymgynghorol.

Roedd yna groeso arbennig o frwd i'r penderfyniad i wladoli'r prif ddiwydiant yng Nghymru, glo.

Mewn oes pan nad oedd hanner poblogaeth Cymru yn mynychu na chapel nac eglwys, meddai ef: '...' Gellid dadlai mai nai%vete/ a barodd iddo wrthod derbyn yr un ddimai goch o arian y wladwriaeth i gynnal ysgolion yng Nghymru, a breuddwyd gwrach oedd disgwyl i enwadau, yr oedd eu culni a'u heiddigedd o'i gilydd yn ddihareb, ymuno'n frwd â chynllun a fyddai'n cymell gwerinwyr tlawd i gyfrannu swllt y pen bob blwyddyn yn enw addysg grefyddol wirfoddol.

Roedd wedi bod yn frwd o blaid yr SPD, hyd yn oed i'r graddau iddo ysgrifennu areithiau ar gyfer ei gwleidyddion, ynghyd ag, ymhlith eraill, Gudrun Ensslin a oedd yn ddiweddarach yn un o aelodau mwyaf blaenllaw mudiad treisgar yr RAF (Rote Armee Fraktion/Y Fyddin Goch).

Er nad yw mam yn Eglwyswraig Sabothol selog, mae hi'n frwd dros y dathliadau mawr a phe byddai'n bwrw cathod a chŵn, ni chollai Gymundeb Bore Sul y Pasg.

Puw a Watcyn o Feirion yn frwd yn eu cefnogaeth o'r fenter.

Ymatebodd ffermwyr yn frwd i'r anogaeth economaidd hon ac erbyn hyn mae PAC

Diolch bod 'na gymaint o rai yn dysgu ein hiaith, yn cael blas ar ei dysgu ac mor frwd drosti.