Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

frwydr

frwydr

Mae nifer ohonynt wedi eu cadw yn y ddalfa ers 3 mlynedd yn aros i'r heddlu a'r barnwr Laurence Le Vert, sydd â'i harbenigedd ym maes y frwydr yn erbyn ETA, gasglu tystiolaeth.

Felly, mae brwydr y Gymraeg yn rhan o'r frwydr ehangach i geisio creu byd sydd yn fwy teg a chyfartal.

Eiliad arall ac roedd hi'n frwydr wyllt a'r eira'n chwyrlio yn ôl a blaen wrth i'r côr ymwahanu'n ddwy garfan.

Un o brif ddigwyddiadau newyddion y flwyddyn oedd ymddiswyddiad Ron Davies yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, y'r amgylchiadau a arweiniodd at ei ymddiswyddiad a'r frwydr a ddilynodd dros arweinyddiaeth y blaid Lafur yng Nghymru.

Felly, mae yna frwydr ddiddorol iawn yn ein haros.

Mae Derby wedi pellhau o'r frwydr ar y gwaelod ar ôl curo Caerlyr 2 - 0 ac enillodd Newcastle, hefyd, 2 - 1 yn erbyn West Ham.

Dywedodd un tyst wrtho fod y Cymry o'r bryniau a aeth i ymuno gyda Siartwyr Frost yn credu mai cyrchu Llundain oedd eu nod, ymladd yno un frwydr fawr ac ennill teyrnas.

Yn ystod y blynyddoedd cyn hynny, hyd yn oed, roedd The Times yn cael gwybodaeth well na'r llywodraeth ei hun ac fe gyhoeddodd y papur newyddion am frwydr Trafalgar ddeuddydd cyfan cyn i'r Swyddfa Dramor gael gwybod dim.

Fel llawer un ar ei ôl, er hynny, fentrodd Robinson ddim yn agos iawn at feysydd y frwydr ond roedd y datblygiad yn arwyddocaol ynddo'i hun - rhan o grefft newyddion tramor yw llwyddo i gael yr adroddiadau yn ôl at ddarllenydd neu wyliwr.

Bwriad y penwythnos oedd rhoi cychwyn ar ymgyrch fawr gynta'r mileniwm - sef y frwydr dros ddeddf iaith newydd.

Anghofiwn y sylw roddwyd i'r datganiad 'mae'r frwydr drosodd' oherwydd celu datblygiad llawer mwy brawychus y mae hynny.

Ond y maent yn blino gan lymder y frwydr.

Ond yr oedd wedi bod yn weinidog prysur mewn eglwysi mawr am ormod o flynyddoedd i wybod faint oedd hi o'r gloch reit ar ffrynt y frwydr i'm tyb i.

'Wedi'r frwydr, aeth pawb ar chwâl.

Cadwai Achilles draw o'r frwydr am na châi'r gaethferch groenwen; dug y bugail bradwrus Helen dros y môr gwineuddu i gartrefi Pergamos, a gorfu iddo, am ei weithred, gnoi'r pridd a llychwino ei lywethau godinebus yn y llwch; bwriodd ymerawdwyr ymaith eu teyrnwiail a'u coronau, esgobion eu hesgobaethau a dynion eu clod, eu cyfoeth a'u rhinweddau er mwyn cael syllu ar yr wyneb "a fedrai ddwyn eilwaith yn ôl i'r byd eilun-addoli%.

Bellach mae'r holl bobl oedd yn ffurfio unrhyw fath o 'ffrynt' dros y Gymraeg yn ystod yr 80au wedi penderfynu mai'r ffordd orau o barhau â'r frwydr yw trwy geisio dwyn eu darn bach o rym oddi fewn i'r drefn bresennol.

Yn gyffredinol fe ellid dweud mai'r 'darnau mawr' lleiaf eu gwerth sy'n cael eu taflu i faes y frwydr yn gyntaf.

Go anaml y bydd chwaraewyr da yn mentro â'r Frenhines i ganol berw'r frwydr yn gynnar yn y gêm.

Yn awr mae'r frwydr yn twymo am i'r un peth ddigwydd yn Llundain.

Dymuna Cymdeithas yr laith Gyrnraeg ddatgan ei chefnogaeth Iwyr i frwydr

Bu ef, wrth gwrs, ar ochr angel Talsarn yn y frwydr fawr yn erbyn Uchel- Galfiniaeth.

A thrwy gydol y flwyddyn 1971 bu erthyglau nerthol y misolyn Barn yn gefn mawr i'r frwydr hon gan Gymdeithas yr Iaith dros urddas dyn yng Nghymru.

Y frwydr hon yw brwydr galetaf Cymdeithas yr Iaith.

Mae rhai o'r trigolion yn meddwl fod y frwydr am Stanley eisoes yn mynd ymlaen.

Canys dwyn yr wyf yn fy nghorff nodau'r frwydr hon.

Fel hyn y mae sicrhau 'incentives' i bobl ymuno yn y frwydr a chwyddo nifer y cefnogwyr.

Eisoes y mae'r gair 'troedle' wedi'i 'garnu' ganddo i ddisgrifio ein lleoliad yn y frwydr i barhau mewn bod, ac y mae paragraff olaf yr ysgrif yn rhapsodig: "Eto tra'r erys i ni droedle yn ein tir ni dderfydd gobaith.

Ddywedwn ni fod 'y frwydr' drosodd.

Ac yntau'n Rhyddfrydwr o argyhoeddiad, roedd ganddo ddiddordeb byw yn achos y bobl dduon - y Niggers chwedl ef - ac yn y frwydr tros ryddid iddyn nhw.

Bydd y Gymdeithas yn pwyso nes ennill y frwydr hon — er mwyn pentrefi Cymru.

A bellach yr oedd y Presbyteriaid yn ymarfogi i'r frwydr.

Wrth gwrs, achosodd hyn flinder a phenbleth i'r Pwyllgor Addysg, ac 'r oedd yn amlwg ei fod yn of ni i'r un math o frwydr ddechrau eto.

Doedden nhw ddim yn hoff iawn o'r Israeliaid ac roedden nhw am ddangos i ni y llefydd oedd wedi'u dinistrio - fel y stadiwm athletaidd arbennig o hardd a chwalwyd gan y frwydr.

Ar ymylon y frwydr rhwng y ddau gawr hyn y mae Culhwch ac Olwen.

Mae'n dod i'r pen yn y frwydr am y pumed safle yng Nghwpan Heineken y tymor nesa.

Mae tamed bach o frwydr bersonol rhyngddon ni oherwydd am mai Neil wisgodd y crys coch yng ngêm ddwetha Cymru yn erbyn De Affrica, meddai.

Yr oedd y Rhyfel Degwm yn frwydr economaidd yn y bon, wrth gwrs, oherwydd y sbarc a gynheuodd y tan oedd y dirwasgiad amaethyddol ar ddechrau wythdegau'r ganrif ddiwethaf.

Y bore yma yn Anfield mae'n frwydr rhwng Lerpwl a Leeds am y trydydd safle a'r prynhawn yma bydd Bradford - sydd ar y gwaelod - yn wynebu Charlton.

Wrth ddewis ymdrin a llipryn o brif gymeriad, clwtyn llestri o ragrithiwr a neidiodd ar wagen y Rhyfel Degwm er mwyn taflunio delwedd arwrol ohono'i hun i dwyllo cymdeithas hygoelus a ffug-barchus, yr oedd Tegla fel petai'n ensynio'n anuniongyrchol mai tan siafins oedd y frwydr wleidyddol, ac nad oedd yr holl helyntion ond rhyw ddrama ddisylwedd.

Dyna ydi dialectig y frwydr — bod ni'n herio syniadau pobl ac yn peri i newid digwydd.

Fe fydd rhaid ymdrechu ymdrech galed i gyflawni'r agenda syml 'da ni wedi'i osod i ni'n hunain -- wn i ddim ydych chi am ei galw hi yn frwydr ai peidio, ond fe fydd rhaid gwneud y gwaith beth bynnag da chi am ei alw fo.

Cofnodir yno am ddeuddeg buddugoliaeth a enillwyd ganddo, a'r frwydr ym Mynydd Baddon, in monte Badonis, yn olaf.

Rydyn ni'n gwneud ein gore, ond mae llawer ohonyn nhw'n colli'r frwydr.'

Yn y drydedd adran bydd y frwydr i aros yn y Cynghrair Pêl-droed yn parhau tan y diwrnod olaf.

Hanes chwerw a adroddir ym Meini Gwagedd - hanes dau deulu sydd wedi colli corff ac enaid yn y frwydr ddiddiwedd yn erbyn eu hamgylchfyd.

Iawn, mae'n hollol amlwg ers tro byd bod Dafydd Êl wedi hen flino ar 'frwydr yr iaith'. Brwydrau pobl eraill ar draws y byd dros ryddid a chyfiawnder -- dim problem; rhaid yn wir iddo ddangos cefnogaeth (darllener ei genadaethau eangfrydig a thrawswladol yn ei golofn wythnosol yn yr Herald Gymraeg). Ond, jyst am fod Dafydd Êl wedi penderfynu ei fod am optio allan o'r broses drafferthus honno o greu trefn newydd yng Nghymru a 'hyrwyddo' chwyldro yn hytrach na bocsys te dwyieithog, yna does bosib bod disgwyl i'r gweddill ohonom lyncu gweledigaethau ffantasïol a thra cyfnewidiol y cyn-gefnogwr streiciau dros hawliau gweithwyr a chym-unedau a symudiadau ymgyrchol/protestgar cyffelyb.

Mae'n colli'r frwydr yn gyflym iawn, mae arna i ofn.'

Na, ni chymer y nofel y frwydr o ddifrif o gwbl.

Mae'r frwydr rhyngddo ef a Thomas Jones Dinbych ar raddfa eang: 'P'run ai fo ai Mr Jones, Dinbych ddaw i'w Waterlŵ yfory?' A yw'r dehongliad hwn yn gorliwio'r sefyllfa sy'n gwestiwn arall: y pwynt yw ei fod yn argyhoeddi fel celfyddyd.

Ni thwyllwn ein hunain y bydd hon yn frwydr hawdd.

Pe bawn i'n mynd fyddai dim rhaid i mi feddwl am fwyd, a doedd beth bynnag oedd yn gymorth yn y frwydr fythol yn erbyn ennill pwysau ddim yn ddrwg i gyd.

Onid tasg gyntaf Wigley a'i gydAelodau Seneddol felly ydi mynnu bod y cyfryngau a'r papurau dyddiol ac wythnosol yng Nghymru yn rhoi lle priodol i'r frwydr etholiadol yma yng Nghymru fel bod cyfle felly i'r Blaid gael ei phig i mewn i'n haelwydydd?

Cyn bo hir yr oedd William yng nghanol y frwydr rhwng y ddwy blaid.

Wrth i'r frwydr i gael gwared ar yr unben, yr Arlywydd Mohammed Siad Barre, ledaenu drwy'r wlad, roedd carfan wedi troi'n erbyn carfan a llwythau wedi troi ar eu cymdogion, gan ddifa ffermydd, tir ffrwythlon prin ac, yn waeth fyth, cymunedau cyfan.

Gydol ei oes gyhoeddus, hefyd, dadleuodd bod anufudd-dod dinesig yn anorfod yn y frwydr genedlaethol yng Nghymru.

Gofynnwyd i Dafydd Iwan, sydd nid yn unig yn un o gantorion ysgafn mwyaf blaenlalaw Cymru ond hefyd wedi bod yn flaenllaw yn y frwydr genedlaethol, ganu yn y cyngerdd yn y Bae ond ni allai dderbyn oherwydd iddo gytuno i ganu mewn noson Gymraeg yng Nghaerfyrddin.

Awdl ragorol am y ddeuoliaeth ym myd natur, am y frwydr barhaus rhwng goleuni a thywyllwch.

Gobeithiwn y bydd yr argraffiad newydd hwn yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth newydd o Gymry i weithio dros eu cenedl a'u hiaith, a gobeithiwn y bydd yn rhoi hwb i eraill ail-afael yn y frwydr.

Ac os oedd unrhyw arwyddocâd i gymal neithiwr fe fydd hi'n frwydr gyffrous rhwng y ddau.

Hyd yn oed ym mis Rhagfyr fe allai'r gêm hon fod yn hollbwysig yn y frwydr am y bencampwriaeth eleni.

Wedi sicrhau rhyw fath o ddyfodol i'r ysgol, edrychai'n fwy nag amlwg i rai ohonom y byddai'r un frwydr yn ein hwynebu eto ymhen pump, deg neu efallai bymtheng mlynedd, os na fyddai nifer y disgyblion yn cynyddu yn hytrach na lleihau.

O hynny ymlaen, roedd hi'n frwydr barhaus i reoli rhagfarnau.

Ceir yn yr adran ddatguddio ffeithiau dadlennol am rai o'r prif gymeriadau yn y frwydr honno.

Yn aml, bydd y frwydr i achub ysgol yn bywiogi pentref ac yn sbarduno gweithgarwch cymdeithasol mawr ac y mae hyn ynddo'i hun yn dangos pwysigrwydd ysgol i bentref.

Mi fydd hi'n frwydr yng nghanol y cae gyda chwaraewyr o safon Eirik Bakke ac Erik Mykland yn nhîm Norwy.

Tyfodd degau o fudiadau a grwpiau bychan, oll â syniadau gwahanol ynglŷn â sut i barhau'r frwydr.

Dwi'n meddwl mai cyfraniad Cymdeithas yr Iaith i'r frwydr boliticaidd ydi cynhyrfu'r dyfroedd.

Ac efallai oherwydd hyn, ymddengys mai tuedd oedd i'r rhan fwyaf o aelodau ifanc y Gymdeithas symud i ffwrdd nid yn unig o weithredu fel ffordd o gadarnhau eu cefnogaeth i frwydr yr iaith ond i ymbellhau oddi wrth y mudiad ei hun wrth iddynt ymbarchuso.

Wedi ennill y frwydr yn yr awyr, daeth y rhan fwyaf o filwyr Prydain yn ôl yn ddiogel o Dunkirk.

Yr oedd y frwydr hir yn dechrau troi o blaid y Cymry blaenllaw hynny a fu'n pwyso mor daer ar yr awdurdodau i gydnabod arwahanrwydd cenedlaethol y Cymry y tu fewn i gyfundrefn radio'r Deyrnas Unedig.

Ond mae'n edrych yn debyg y bydd 'na frwydr anferth i adhawlio Stanley.

Efallai i Who Wants to be a Millionaire ennill y frwydr am lygaid yn erbyn pennod olaf Victor Meldrew.

Chastell Nedd fydd yn herio Casnewydd ac fe fydd hi'n frwydr ddiddorol, yn arbennig rhwng y ddau hyfforddwr.

Nid yw'n ymestyn i rannau helaeth o'r sector gyhoeddus e.e. ni ellir cofrestru genedigaethau a marwolaethau yn y Gymraeg er i'r frwydr hon gael ei hymladd gyntaf bron i ddeugain mlynedd yn ôl.

Sicrhawyd Esgob Tyddewi y gallai'r dyddiau penodedig o weddi%o fod yn fendithiol, ac er mwyn i'r Eglwys gyflawni ei dyletswydd ym mlynyddoedd y Rhyfel yr oedd yn ofynnol iddi fod yn gwbl argyhoeddedig fod y frwydr yn un yn erbyn galluoedd y tywyllwch.

Dyma'n ddiamau ddefnydd crai'r adroddiad yn Rhys Lewis am frwydr y gweithwyr dros eu hiawnderau dan arweiniad Bob Lewis.

Ond fy ateb oedd, "Nawr mae'r frwydr yn dechrau!" Diamau i mi gael siom aruthrol, oherwydd, erbyn Cynhadledd y Cilgwyn, 'roeddwn fel Job gynt, yn llawn cornwydydd, ond nid ataliodd hyn ddim ar y gweithgareddau na'r brwdfrydedd.

Fe fu'r frwydr hon yn un faith ac anodd, hyd yn oed cyn belled â hyn.

O'm profiadau gyda Chymdeithas yr Iaith, roeddwn i wedi cymeryd bod y frwydr am driniaeth deg wedi'i ennill, o leiaf, yn y llysoedd.

'Does 'na ddim sy'n fwy poenus na'r ddadl a'r frwydr ddiddiwedd honno ynghylch cyflwr y Gymraeg yn ei gwlad ei hun.

Ynddo defnyddid gweledigaethau hynod, arwyddion a delweddau dirgel, rhifau cyfrin, a disgrifiadau nerthol i ddynodi chwerwder y frwydr rhwng y wladwriaeth a phobl Dduw; a'r sicrwydd hefyd mai gan Dduw oedd yr oruchafiaeth ac mai Iesu a gyhoeddid yn y diwedd Yn Frenin brenhinoedd ac Arglwydd arglwyddi.

Llanwyd ei ffroenau ag oglau gwlydd a phridd, a gwenodd wrth feddwl iddi ennill y frwydr i beidio â'u golchi.

Siawns nad ydym wedi ennill y frwydr honno bellach.

Calon y frwydr tros Gymru yw'r frwydr i sicrhau inni ein llywodraeth ein hunain.

Am ran o eiliad, safai'r dwblwr a'r senglen gyferbyn â'i gilydd, yn frwydr rhwng nerth corff a metel poeth.

Mehefin 1999. Yr angen am frwydr newydd i ddatblygu ysgolion gwledig fel canolfannau addysg i gymunedau lleol. Llawlyfr Deddf Eiddo

Yr ydym wedi dangos gêm eisoes lle mae'r Frenhines yn cael ei herlid o bant i bentan am iddi fentro i faes y frwydr yn rhy fuan.

Ond, er gwaetha'r cynlluniau datblygu, mae'r bobl hyn yn colli'r frwydr yn erbyn dirywiad y tir; does yna ddim digon o fuddsoddiad tramor.

Bydd hi'n frwydr hanesyddol rhwng Serena a Venus Williams yn rownd gyn-derfynol Wimbledon yfory ar ôl i Venus guro Martina Hingis mewn tair set a Serena drechu Lisa Raymond mewn modd tipyn mwy cyffyrddus.

Yn gyntaf, y mae'n arolygu'r frwydr genedlaethol tros yr hanner canrif diwethaf.