Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fryd

fryd

Ac y mae gan waith yr Arglwydd ei drwm a'i ysgafn, ac os oes llwyfannau y mae cyfle i bobl orffwyso wrth y gwaith arnynt, wele maent hwy wedi eu meddiannu eisoes gan rai o gyffelyb fryd.

Efo Mr a Mrs Roberts yn Park Street y lletywn, a'm cydletywr oedd Elfed Davies, bachgen ifanc a oedd â'i fryd ar y weinidogaeth.

Ar gael ci yr oedd ei fryd; am gi y breuddwydiai ac er mwyn prynu ci roedd o'n cynilo pob ceiniog a gâi.

Yr oedd yn wr a'i fryd ar y pethau a gadawodd fwlch ar ei ôl nas llenwir yn rhwydd.

Bu a'i fryd ar fynd i Blackpool ers tro byd.

'Roeddwn yn ifanc, 'roeddwn mewn cariad, ac yr oedd fy holl fryd, felly, ar fiwsig rhamantus megis eiddo Chopin a Schubert.

Mae yma duedd i fewnoli Siôn fel gweddau ar bersonoliaeth ei dad, ei galon, ei fryd, ei nerth, ac yn uchafbwynt ar y cwbl, ei fabolaeth.

Pan ddeuai'r ferch draw i ymweld ag ef, gwelai Sian ei fod yn awr byth a hefyd a'i fryd wedi'i ennill gan y diddordeb annifyr hwn.

Fi sy'n mynd â'i fryd o.

Yn ôl y sôn, yr oedd John Edmunds â'i fryd ar ddod â thipyn o fywyd i Borth Iestyn ac am, ddechrau gwneud hynny trwy ddathlu hanner can mlwydd o ryw lun o hunan-lywodraeth ym mywyd yr harbwr.

Sut bynnag, pan ddaeth yr amser i symud yr oedd y Capten yn un o'r rhai a oedd i ddod gyda ni, ac wrth gwrs rhoesai ei fryd ar fynd â'r soffa gydag ef.

Ond i un yng Nghymru sydd â'i fryd ar lenora, y mae hi'n faen melin am ei wddf.

Yna, tywyllwch dudew, unffurf y nos yn llonyddu'r llygaid yn llwyr, a'r holl fryd yn cael ei ganoli ar seiniau 'soniarus' (gair sydd ynddo'i hun yn soniarus) y gwyddau gwylltion ymhell uwchben yn rhywle.

Miwsig sy'n mynd â'i fryd yn ystod ei amser hamdden yn hytrach nag actio.

Yn achlysurol yn arbennig yn achos y cynlluniau cynharaf, byddai grwpiau bychain o athrawon o'r un fryd yn dod at ei gilydd, i weithio'n annibynnol ar eu cynlluniau eu hunain Dyna'n sicr oedd hanes grwp Caer Efrog - gydweithio gan nifer o athrawon a oedd yn adnabod ei gilydd yn dda.

A'i fryd ar weld Gwalia o anarchwyr yn rhydd.

Gwahanol hefyd yw ei hoff gyrchfannau diwydiannol - hen chwareli sy'n mynd â'i fryd yn hytrach na phyllau glo, er mai'r rheiny oedd agosaf ato yn ystod ei fagwraeth yng Nghaerdydd.

Y blaenwyr Dyfarnwyd pedair cic gosb ar bymtheg gan Gareth Simmonds (yr oedd un o'r llumanwyr o Gaerloyw, sef John Roberts), deuddeg ohonynt i'r Cochion, llai nag arfer am droseddau yn y ryc er bod pob blaenwr â'i fryd ar ennill yr ail feddiant.

'Arna i mae ei fryd o,' meddai gan ddal i weni.

Ond er mor syml y rhediad mae'r manylion a gynhwysir a'r awyrgylch a gre%ir yn cyfrannu at ddatblygiad y stori oherwydd trwyddo rhed llinyn beirniadaeth o gymeriad Geraint yn ei ymagwedd a'r math o ddifyrrwch sy'n mynd â'i fryd.