Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

frysiog

frysiog

Ar ôl bwyta brecwast yn frysiog, eisteddodd i lawr i feddwl.

Arafodd prysurdeb y dorf ar unwaith, ac aeth pawb i'r ochr yn frysiog.

Ar y ail chwythiad o'r corn roedd pawb yn tanio'r fuse ac yn mynd yn bur frysiog at y dynion eraill i wardio.

Nid yn frysiog a difeddwl y ffurfiwyd polisi'r Blaid, ond wedi llawer iawn o drafod pwyllog.

Llithrai'r cymylau yn frysiog ar draws yr awyr lwyd.

Yna caeodd hi'n frysiog wrth weld robot yn sefyll i'w gwylio yn y cysgodion.

Gallwn yn awr edrych yn frysiog ar y prif weithgareddau y paratoir cyllidebau ar eu cyfer.

'...A'r polîs yn dweud ei fod yn beryglus dros ben,' ebe Tudur gan godi ar ei draed yn frysiog a dechrau llenwi gweddill y twll â'r pridd a'r tyweirch.

Dyn ar 'i linia, gefn dydd gola.' Cydiodd Obadeia Gruffudd ym mraich y setl, yn ffrwcslyd, a thynnu'i hun i godi mor frysiog â phosibl.

Sychodd ei lewys yn frysiog gyda'i law.

Syrthiodd defnyn o boer i'i cheg ar y darnau, ac, yn frysiog, rhedodd i nôl y dystar i'w glanhau.

"Ydach chi wedi trafod hyn efo Breiddyn?" gofynnais, braidd yn ofnus yn frysiog.

Yna trodd at Robaits ac ychwanegu'n frysiog, 'Mae'n hen bryd i ni ei chychwyn hi oddi yma.