Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fuarth

fuarth

Disgrifir yr helynt ar fuarth Pen y Bryn gyda chryn afiaith, yn enwedig y modd y caiff yr arwerthwr a'r Saeson eu hannos gan y dorf.

Cofiai Myrddin Tomos am ddefaid yn pryfedu; am eu dwyn i fuarth y fferm, eu dal, torri'r gwlân o amgylch y cynrhon a oedd wedi ymgladddu yn y cnawd, eu pigo allan â'r gwellau a rhwbio pridd melyn yn y man pryfedig.

Yr oedd cyfarwyddiadau Emli'n burion: tro ar y chwith wedi mynd heibio'r eglwys, yna, ymhen tua dwy filltir, dyma'r Tarw Du i'r golwg, lle pur boblogaidd a barnu wrth nifer y ceir a oedd yn ei fuarth.

Credaf mai ein tŷ ni a'r tŷ nesaf i lawr oedd y tai hynaf yn y stryd, a'u cefnau'n wynebu ar ryw fuarth a stabal ar gyfer hanner dwsin o geffylau.

Ro'n i'n gallu gweld rhan o fuarth yr ysgol a chefn yr adeilad o ystafell wely y genod felly yno y byddwn i'n sefyll yn cadw llygaid amdani ar ei ffordd.

Y pnawn hwn roedd gwers neu ddwy eto rhyngddynt a'r gloch pan glywsant swn car yn nesa/ u at fuarth yr ysgol.

Ar ddiwedd y newyddion y cyrhaeddodd Anna Cartwright fuarth Maes Môr.

Yn sydyn, torrwyd ar y sgwrs gan lais cras yn galw o fuarth yr ysgol.