Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fudd

fudd

Byddai pawb yn derbyn y cynnydd yma a'r arian ar gael drwy gael gwared ar £2bn o fudd-daliadau sy'n cael eu targedu gan Lafur tuag at y pensiynwyr tlotaf.

Mae yna fudd mewn dal ati.

Ymateb cyffredinol oedd eu bod o fudd mawr ac wedi hwyluso gwaith trwy'r ysgol i gyd: creu polisi ysgol gyfan; hwyluso gwaith HMS

Mae llawer o fudd mewn datblygu lloches newydd gyda chymdeithas tai, boed yn fater o adfer hen adeilad neu adeiladau o'r newydd.

Bu dysgwyr o sawl rhan o Geredigion yn cymryd rhan a chawsant fudd mawr wrth baratoi'r cystadlaethau ysgrifenedig ac eitemau llwyfan.

Gan fod Waunfawr, pentref genedigol Gwynn Davies, eisoes wedi bod yn gefn mawr i'r Gymdeithas, awgrymwyd y byddai'r pentref yn le addas ar gyfer menter a fyddai'n rhoi cyfle i bobol â nam meddyliol i ddatblygu fel unigolion ac a fyddai, hefyd, o fudd i'r pentref.

Cafodd dau brosiect sefydliedig fudd o dderbyn dulliau hyblyg o Gymorth-daliadau Gofal yn y Gymuned o'r Swyddfa Gymreig.

Ran fynychaf, digon di-fudd yw eu cynnwys ond yn awr ac yn y man gwelir cyfle i ymhelaethu arnynt.

Maent yn rhy ifanc i gael unrhyw fudd-dal ac yn methu cael fflatiau.

Cwis er mwyn darganfod a fyddai ychydig o hyfforddiant o fudd i chi.

Mae tynnu dirwyon o fudd-dal yn gam newydd gan y Wladwriaeth ac yn dangos nad oes gan berson di-waith yr hawl hyd yn oed i wrthod talu dirwy.

Gellid datblygu hyn fwy fyth trwy ddefnyddio'r papurau bro nid yn unig i wyntyllu anghenion yr iaith Gymraeg yn eu hardaloedd, ond fel y gwneir mewn rhai papurau, canmol a chefnogi'r gweithredoedd sydd o fudd i'r Gymraeg.

Bydd hyn o fudd nid yn unig i wylwyr a gwrandawyr gwasanaethau BBC Cymru ond hefyd i S4C, gan y byddwn yn ychwanegu at ein cyflenwad presennol o raglenni newyddion a materion cyfoes.

Mae'n sicr bod economeg Keynes wedi bod o fudd mawr i ddeall amryfal droadau'r economi, ac wedi cyfarwyddo aml i bolisi ar gyfer chwyddiant a datchwyddiant.

Ac mae'r diffiniad yna'n bwysig, achos mi ddaw y dydd pan fydd y Bwrdd Iaith ayyb yn galw am hunan-lywodraeth, pan fyddan nhw'n sylweddoli y ca'n nhw lawer mwy o fudd o gael ei rheoli gan Senedd Gymreig.

Ac mi fudd yna fae o hyd yn Nhrearddur.

Dyn sydd gyntaf, a saerniodd iddo iaith er ei fudd ei hun.

Codai'i drwyn ar y fath anifeiliaid di-fudd.

Tystiodd y rhai a fynychodd y penwythnosau uchod iddynt fwynhau eu hunain yn fawr iawn a chael llawer o fudd wrth gymdeithasu yn y Gymraeg a dod yn gyfarwydd ag agweddau newydd ar y diwylliant Cymraeg.

Diolchwyd i Gary Holdsworth o'r Asiantaeth Fudd-Daliadau am ei bresenoldeb.Bu iddo fynychu cyfarfod o'r gweithwyr i annerch cynghorwyr ar y DSS a'r sustem fudd-daliadau.

Bwriedir i'r ffeil hon fod o fudd i chwithau:

Er i John Morris-Jones ymosod yn ddidrugaredd ar yr Orsedd gan ddweud fod 'Cymdeithas yr Orsedd yn ddi-fudd, a'i graddau'n ddiwerth, oherwydd y rhwyddineb y gollyngir pob annheilyngdod iddi.

Ymateb cyffredinol oedd eu bod o fudd mawr ac wedi hwyluso gwaith trwy'r adran i gyd, sef ar gyfer: - cytuno ar bolisi ysgol: help gyda'r Prifathro ac eraill!

Wedi'r ymweliad a'i thŷ breuddwydiasai'i bod hi'n ymddiddori ynddo ac y gallai hynny fod o fudd iddo.

Penderfyniad mainc Caernarfon yn y diwedd oedd tynnu dwy bunt yr wythnos o fudd-dal Rhys.

Yn sicr, byddai ganddynt stori i'w hadrodd, a chyngor i'w rannu a fedrai fod o fudd mawr i mi yn bersonol, ac i'r eglwys yn y gorllewin.

Llosgodd y gannwyll yn ei deupen er mwyn bod o fudd i'w gydwladwyr: '...' .

Un arferiad barbaraidd sy'n gysylltiedig â Dygwyl Steffan yw'r un a seiliwyd ar y gred fod gollwng gwaed o fudd mawr yr adeg yma o'r flwyddyn.

Bu'r profiad hwn o fudd imi yn nes ymlaen wrth geisio trefnu gwaith Canolfan Iacha/ u De Cymru.

o fudd mawr i'r dyfodol: ...fel y daw'r staff yn fwy hyddysg yn y CC..., fel y newidia aelodau'r adran...edrych ymlaen i gyhoeddi'r deunydd terfynol...o'i ddarllen yn hamddenol pan gai gyfle yn y gwaith.

Dyma'r sylwadau a wnaeth y rhai llai na bodlon: Do, ond dim cymaint ar ail iaith ag ar yr iaith gyntaf (Powys); Roedd y ffeil yn wag pan y'i derbyniwyd ac mae'n para'n wag (Dyfed); A bod yn onest ni ches lawer o fudd o'r deunyddiau.

Teimlwn yn llesg ac yn ymwybodol iawn o fod yn hen ddyn diddim, heb fod o unrhyw fudd i'w gymdeithas leol nac i unrhyw gymdeithas arall, chwaith.