Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fuddsoddi

fuddsoddi

Mae'n rhaid trafod y peth 'fel busnes' nawr a daw geiriau fel 'cynyddu' ac 'elw' a 'chredyd' ac 'ail-fuddsoddi' yn rhan o'u siarad beunyddiol.

Roedd - - yn teimlo fod angen edrych ar beth yw gwobr cwmni wrth fuddsoddi mewn sgriptiau a syniadau.

Yn yr un modd ag y bu ein hadran ddrama yn gosod sylfeini creadigol cryf ar gyfer y dyfodol trwy fuddsoddi'n helaeth yn natblygiad dawn ysgrifennu, rydym hefyd wedi meithrin talent yn y byd adloniant, gan fuddsoddi'n helaeth mewn projectau comedi newydd ar gyfer radio a theledu ac, ar yr un pryd, yn denu cynulleidfaoedd anferth i berfformwyr cyfarwydd megis Max Boyce, Peter Karrie ac Owen Money.

Mae i hyn oblygiadau ar ddatblygu economaidd, a cheir dadl gref dros fuddsoddi mewnol sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, am ei fod yn dileu rhwystrau ffisegol pellter a all atal buddsoddi.

Fe fyddai hi'n anodd iawn i hyd yn oed y cwmniau mwyaf i fuddsoddi ar y lefel hon heb fod rhyw fath o warant.

Yn fras, rhaid symud y pwyslais oddi wrth fuddsoddi o'r tu allan i fuddsoddi cynhenid, a sicrhau bod hynny o fuddsoddi o dramor a ddenir o well ansawdd na'r swyddi cyflog isel, sgiliau rhoi-pethau-at-ei-gilydd a welsom yn ystod yr wythdegau.

Cynhelir momentwm y broses ehangu dros y flwyddyn sydd i ddod, wrth i'r BBC baratoi i wynebu cystadleuaeth i gryfder ei arlwy arlein, parhau i fuddsoddi yn y dalent syn angenrheidiol i gynnal twf, ac atgoffa rhaglenni o'r cyfleoedd ardderchog a gynigir drwy gyfrwng arlein.

Neu ei fuddsoddi mewn busnes arall?

Ag yntau mewn coblyn o gyfyng-gyngor, daw Mona ato gyda'r bwcedaid o fadarch a brifiodd yn gnwd addawol a pherswadia'r llo a'r golwg 'Be wnai?' ar ei wep i fuddsoddi mewn rhagor o fwcedi a'u dodi i dyfu yn nhwllwch rhynllyd yr hen sinema wag.

Bydd rhaid i'r ail fuddsoddi fod yn: a) gyflym - i sicrhau gwirddewis; b) ddoeth/gofalus - gan na ellir rhagdybio beth fydd dewis-batrymau'r defnyddiwr yn y dyfodol; c) yn eofn, - er mwyn magu hyder.

Cynhelir momentwm y broses ehangu dros y flwyddyn sydd i ddod, wrth i'r BBC baratoi i wynebu cystadleuaeth i gryfder ei arlwy arlein, parhau i fuddsoddi yn y dalent sy'n angenrheidiol i gynnal twf, ac atgoffa rhaglenni o'r cyfleoedd ardderchog a gynigir drwy gyfrwng arlein.