Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fuddugoliaeth

fuddugoliaeth

Heb os amddiffyn gwych ddaeth â'r fuddugoliaeth hon i Gaerdydd.

Cafodd Y Llewod eu hail fuddugoliaeth o'u taith yn Awstralia, eto gyda sgôr uchel.

Ac i'r glowyr, oedd wedi brwydro mor hir ac mor ddygn yn erbyn eu meistri, yr oeddynt ar drothwy'r fuddugoliaeth fawr.

Fe gafodd Aranwen Jones (Cadeirydd), Buddug Jones a Derfel Roberts fuddugoliaeth nodedig tra'n trafod y testun 'Fod yn rhaid i'r Eglwysi newid ffurf eu gwasanaeth os am ddenu'r cynulleidfaoedd yn ôl.' Dyfarnwyd araith Buddug Jones, Dolgellau yr orau yn y gystadleuaeth.

Hon oedd ail fuddugoliaeth Caerdydd yn olynol dan Alan Cork.

Bu gan droellwr Morgannwg, Robert Croft, ran amlwg yn y fuddugoliaeth.

Wedi llwyddo i gyrraedd man dewisol rhoddodd un morgrugyn bigiad da i ddathlu ei fuddugoliaeth a dyna'r eiliad y gollyngodd Odo lond dwrn o dai yn strim-stram-strellach ar hyd y rhos.

Cafodd Abertawe y fuddugoliaeth gyffyrddus yr oedd pawb yn ei ddisgwyl yn Cross Keys neithiwr, buddugoliaeth all olygu y byddan nhw'n dathlu ennill Pencampwriaeth Cynghrair Rygbi Cymru a'r Alban ddydd Sadwrn.

Yr oedd hi'n fuddugoliaeth ddigon cyffyrddus ond fe allai fod yn fwy.

Roedd hon yn fuddugoliaeth bwysig i Gaerfyrddin, un sy'n cadw'u gobeithion yn fyw am le yn wyth ola'r Cwpan.

Cafodd Arsenal fuddugoliaeth gyffyrddus, 4 - 0, dros Manchester City.

Y fuddugoliaeth fawr

Roedd yn fuddugoliaeth mewn llawer ystyr, roedd fel pe bai mwy na bygythiad Ffasgaeth wedi'i ddileu, oherwydd fe gyneuwyd gobaith newydd drwy'r byd yn gyfan gwbl, gobaith y gellid dechrau adeiladu'r byd newydd hwnnw y bu cymaint o aros amdano.

Roedd Wrecsam ar eu ffordd i fuddugoliaeth bwysig.

Roedd hi'n fuddugoliaeth hawdd iddyn nhw ar ôl i'r gêm fel gornest wirioneddol ddod i ben mor gynnar a'r wythfed munud.

Yn ystod yr wythnos olaf honno yn Jerwsalem yr oedd y ddinas yn llawn o'r disgwyliad am fuddugoliaeth y Meseia.

Emile Heskey, gyda gôl dair munud o'r diwedd, roddodd fuddugoliaeth i'r tîm cartref.

Mae'n hen bryd i Garmon a Bleiddian ddychwelyd i'n plith a'n harwain i fuddugoliaeth ddeublyg heddychlon - ar yr hunan-serch sy'n dryllio'n ffydd ac yn erbyn estroniaid sy'n peryglu'n hetifeddiaeth.

Yr un oedd nawr yn bygwth tanseilio'r fuddugoliaeth fawr trwy ymuno yn y gwrthryfel newydd yma.

Roedd yn fuddugoliaeth haeddiannol i dîm Arsene Wenger.

Gyda Chunedda yr oedd ei wyth mab, ac wedi'r fuddugoliaeth rhannodd ef y tiriogaethau a goncrwyd rhyngddynt.

Cofir am Bryn yn dathlu ei fuddugoliaeth yng nghanol y dici bows a'r gwydrau gwin, ei grys ar agor a pheint ewynnog yn ei law.

Yr un yw record Casnewydd a Phontypridd - dwy fuddugoliaeth allan o bedair.

Ond y pwyntiau pwysicaf oedd y tri phwynt am fuddugoliaeth sy'n cynnal sialens Abertawe ar frig y cynghrair.

Yn Adran Gyntaf Cynghrair Rygbi Cymru neithiwr, cafodd Merthyr fuddugoliaeth 21 - 20 dros Cwins Caerfyrddin.

Cafodd fuddugoliaeth o ddwy set i ddim dros Shinya Otsuka o Japan.

Go brin fod y dorf enfawr fu'n cymeradwyo ei fuddugoliaeth fel arlywydd yn sylweddoli gwir ystyr yr araith fer o falconi'r Casa Rosada 'Rwy'n eich gwahodd i enedigaeth cyfnod newydd, cyfle newydd, a all fod yr un olaf a'r pwysicaf yn ein hanes,' meddai.

Erbyn hyn, mae apêl yn erbyn y dyfarniad hwnnw wedi ei glywed (ddau fis yn ôl) gan y Tribiwnlys Apêl yn Llundain; ac yn yr apêl hwnnw, Cyngor Gwynedd a orfu þ roedd hi'n fuddugoliaeth fawr.

Os caiff Penybont un fuddugoliaeth yn eu tair gêm ola fe fyddan nhw ym mhrif gystadleuaeth Ewrop am y tro cynta erioed.

Rhoddodd goliau Francesco Totti a Stefano Fiore fuddugoliaeth o ddwy gôl i ddim i'r Eidalwyr dros Wlad Belg ym Mrwsel, neithiwr.

Cafodd Belarus fuddugoliaeth, 2 - 1, yn erbyn Armenia a chollodd Norwy gartre, 1 - 0, yn erbyn Ukraine.

Roedd yn fuddugoliaeth i'r wasg ar un wedd, ond roedd yn fuddugoliaeth bwysicach i genedl y Cwrdiaid.

Roedd blas melysach o lawer ar y fuddugoliaeth o'r herwydd, ac roedd yn werth aro~s~ amdani ers colli flwyddyn ynghynt.

Roedd hi'n fuddugoliaeth ryfedd gan fod Hann wedi gorfod chwarae yn nhraed ei sanau.

Roedd yn fuddugoliaeth bwysig a gobeithion Aberystwyth am le yn yr Intertoto a gêm yn Sweden yn dal yn fyw.

meddylier am yr holl dyndra rhwng gwahanol grefyddau yn ystod rhyfel y gwlff, a chofier am thatcher yn mynd i'r eglwys i wasanaeth i ddiolch am y fuddugoliaeth !

Cafodd Morgannwg fuddugoliaeth yn eu gêm Cynghrair Undydd yn erbyn Essex ar Erddi Sophia neithiwr.

Ledled y byd mae dwsinau o frwydrau o'r fath, a phobl ar bob cyfandir yn ymladd am fuddugoliaeth i'r diwylliant 'gorau'.

Yn dilyn y fuddugoliaeth yn Ffrainc, Mawrth 17, mae Cymru ar i fyny unwaith eto a gallwch chwithau sgorio gyda chyfeillion trwy ddefnyddio'r egardiau rygbi BBC Cymru'r Byd.

Roedd hon yn fuddugoliaeth i roi gwên ar wynebau cefnogwyr Aberystwyth.

Cofeb i fuddugoliaeth heb dywallt gwaed yw cofeb Maes Garmon.

A chan ddilyn cyffelybiaeth a grybwyllwyd gan Iestyn Ferthyr ychwanegodd, "yr hyn a gaethiwodd y forwyn Efa drwy ei hanghrediniaeth, hynny a ryddhaodd Mair drwy ffydd." Drwy ufudd-dod llwyr enillodd Crist y fuddugoliaeth, a thrwyddo ef, fuddugoliaeth i'r ddynolryw.

Wedi'r fuddugoliaeth gorweddodd Leighton Phillips a minne yn y bath am hydoedd yn ceisio credu'r hyn oedd newydd ddigwydd ac yn meddwl tybed beth oedd yn mynd trwy feddwl Mike Smith druan.

Hyd yn oed os bydd Caerdydd yn ennill ar Barc y Strade bydd eisiau record byd o fuddugoliaeth arnyn nhw.

Gyda Patrick Horgan fel corgi wrth eu sodlau roedd y llwyfan wedi ei osod am fuddugoliaeth.

Roedd hi'n fuddugoliaeth arbennig, yr un ore falle erioed i dîm Steve James ar y Sul.

Cafodd Penybont, sydd yn gyfartal gyda Chasnewydd a Chaerdydd ar frig y Cynghrair, fuddugoliaeth hawdd dros Cross Keys ar Gae'r Bragdy.

Roedden nhw ychydig bach yn lwcus yn erbyn Yr Almaen ond ar ôl disgwyl 35 mlynedd am fuddugoliaeth dros yr Almaenwyr, maen debyg fod hawl gan Loegr i ddathlu.

Fel y clywe aelode o Glwb Caerdydd am y paratoi rhyfeddol yma, daethant i'r casgliad mai adlewyrchiad o banic ar y Strade oedd hyn i gyd, a bod hyn yn cadarnhau eu cryfder nhw fel tîm oedd yn siwr o fuddugoliaeth.

Er gwaetha'r gwynt a'r glaw cafodd tîm rygbi'r gynghrair Cymru fuddugoliaeth ysgubol yn erbyn Ynysoedd Cook.

Llwyddodd Graham Thorpe i lywio cricedwyr Lloegr i fuddugoliaeth annisgwyl yn y drydedd gêm brawf yn erbyn Pakistan yn Karachi.

Hawliodd y Gymdeithas fuddugoliaeth yn ei hymgyrch o blaid Deddf Eiddo ym mis Rhagfyr pan gyhoeddodd y Swyddfa Gymreig ddrafft o Nodyn Cyngor Technegol (NCT) ar `Yr Iaith Gymraeg -Cynlluniau Datblygu Unedol a Rheoli Cynllunio'. Drafftiwyd y canllawiau newydd yn sgil pwysau oddi wrth y Gymdeithas a nifer o awdurdodau cynllunio lleol am ddiwygio'r canllawiau cyfredol a gyhoeddwyd fel `Cylchlythyr 53/88' ym 1988.

Mae dwy flynedd eto cyn yr Etholiad Cyffredinol ac mae'r modd y mae'r Toriaid ymhen dwyawr ar ôl eu curfa yn Ewrop wedi troi eu methiant yn fuddugoliaeth yn awgrymu y byddan nhw'n sicr o dynnu cyn hynny sawl sgwarnog liwgar o'r sach.

Ac i Bantycelyn y peth trawiadol yw fod a wnelo dioddefaint Crist â ni a bod ei fuddugoliaeth Ef yn fuddugoliaeth i ninnau.

Cipiodd Paul Roberts gôl i Fangor cyn i beniad Glyndwr Hughes selio'r fuddugoliaeth bedair munud cyn y diwedd.

Yna bydd Ffrainc ar Iseldiroedd, sydd eisoes drwodd yn Grwp D, yn chwaraei gilydd tra bydd y Weriniaeth Czech a Denmarc yn gobeithio am fuddugoliaeth cyn troi am adre.

Dyma'i fuddugoliaeth gynta ar gylchdaith Ewrop ers saith mlynedd - a honno, hefyd, oedd Pencampwriaeth Portiwgal.

Bydd pencampwr chwech o'r saith mlynedd ddiwetha yn Wimbledon, Pete Sampras, yn parhau i chwarae yn y gystadleuaeth er bod sgan yn dangos ei fod wedi anafu tendon yn ei ffer yn ystod ei fuddugoliaeth dros Karol Kucera ddoe.

Ond methwyd cyflawnu hyd yn oed hynny wrth i Sri Lanka hwylio'n hamddenol i fuddugoliaeth o ddeg wiced.

'Gobeithio cawn ni'r fuddugoliaeth honno yng Nghaerffili 'fory.

Ond neithiwr cafodd fuddugoliaeth mewn gêm aeth i bum set.