Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fudr

fudr

Wedi ymladdfa ddofn ac araf, llysywen fawr, felen, fudr a dynnodd i'r lan.

Doedd yr un weithred fudr gan aelodau'r hil ddynol yn ei synnu ef bellach.

Yn llong fudr mewn môr a pha hwyliau oedd hi yn eu cario orau mewn tywydd mawr?

Gwelai ei gŵr yn taflu ei hances boced fudr o'i boced ac yn cymryd un lân o'r drôr, a'i esgidiau yn twymo ar y ffender, yn ddu am heddiw ar fore Llun, wedi eu hiro â saim, a hwnnw heb sychu yn nhyllau'r careiau, ac yn chwysu yng ngwres y tân.

Roedd un Llandudno fel stryd gefn o'i gymharu a hwn a ymestynnai o'r naill ochr i'r llall yn un lein ddillad hir, ddi-ben- draw gyda phob math o geriach yn rhyw fudr symud uwch ei ben.

Cyn gollwng y rhaff i'r pydew dyna fo'n taflu hen garpiau a hen fudr fratiau i lawr ac yn dweud wrth Jeremiah am roi'r rheiny o dan 'i geseiliau rhag i'r rhaff 'i frifo fo wrth 'i godi.

Serch hynny, at ei gilydd, argraff o dref fudr, brysur, chwyslyd, afler, drofannol a gefais, gyda'r Taj Mahal ac ati ar yr ymylon yn rhywle.