Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

funtauna

funtauna

Nid ambell i donc a thinc gwladaidd a glywyd yn codi oddi wrth Alp Funtauna, fodd bynnag, ond corganu cyfoes cannoedd o heffrod a lloeau heb boen yn y byd am orbori a gorgynhyrchu.

Funtauna (ffynhonnau) ydyw enw'r alp eang, gwastad, a'r hafoty uchaf ichwi ei gyrraedd ar ochr ddeheuol y bwlch.

Uniaith Almaeneg - iaith y visitors - oedd y rhybudd llefrith-ar-werth yn ymyl hafoty Funtauna, ond y bwlch ydyw'r ffin rhwng tai pren Davos a thai carreg yr Engadin, rhwng Almaeneg unigryw y Walseriaid a'r ffurf ar Reto-romaneg a elwir mor briodol yn Lladin.

Man cyfarfod tri chwm yw Funtauna mewn gwirionedd ac y mae gwastadedd cudd Val Funtauna ei hun yn ymestyn am filltir dda tua'r gorllewin, yn null yr Hengwm ym mlaen Cwm Cynllwyd, braidd.