Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fuo

fuo

HEULWEN: ....fuo rhaid iddo fe gerdded pum milltir.....

'Fuo hi ddim dwyawr yn y tŷ acw na fu raid i mi dorri 'ngwinadd i gyd!

Mi fuo am gyfnod cyn priodi â gwraig weddw ydi hi ar hyn o bryd, a 'dwyt ti'n synnu dim at hynny wedi byw o dan yr un gronglwyd â hi am wsnos - cyn priodi mi fuo'n gwasanaethu hefo rhyw nob a'i wraig - Syr Simon a Ledi Gysta chwedl hitha, ac mae'r rheini wedi troi yn 'i phen byth wedyn.

Mi fuo'r arglwydd Gruffudd yn rhy hir yng ngharchar Degannwy..." "Mab naturiol ein Tywysog..." "O waed pur Cymreig..." "Yn byw fel gwr bonheddig ers chwe blynedd bron yng ngharchar Degannwy a Sinai'n gywely iddo!" Chwerthin amrwd wedyn nes i rywun eu hatgoffa y byddent at drugaredd yr Ymennydd Mawr a'r Gwylliaid pe rhyddheid yr arglwydd Gruffudd.

'Fuo gen i erioed ddim i'w ddweud wrth ddþr.

Mi fuo' nhad yn hynod o garedig efo plant y fro y pryd hynny (a wedyn o ran hynny).

Dydw i ddim yn cofio a oedd Dafydd Elis Thomas yn un ohonyn nhw; ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf mi fuo na sawl un yn cwyno i'r Wasg Brydeinig droi ei chefn ar Gymru.

Mi fuo jest i mi gael fy ngeni yn l.RA, ond trwy ryw drugaredd mi ddaeth fy mam i Benmaenmawr i roi genedigaeth imi.

Daetha 'run ohonyn nhw'n agos i'r bib, ac yr oeddwn i ar fin taflu'r cwbl - fuo fi 'rioed yn chwannog i bys, yn wlych nac yn stwns - ond pwy ddigwyddodd basio ond Wil Robaits.

Lan môr Nefyn?' 'Fuo raid i mi gerddad hannar milltir cyn y gwelis i dy o gwbl.' 'Ty pwy oedd o?' 'Rhyw foi dal cwningod.

Mi fuo'n drwm arnoch chi'r tro yma, yn do?

Yr oedd siocled hefyd, yn beth mor effeithiol i roi cic yn nhin cyneddfau rhywiol pobl y penderfynodd y Sbaenwyr beidio â dweud wrth neb arall amdano fo ac fe fuo nhw'n croesi'r moroedd efo fo am flynyddoedd heb i neb arall sylweddoli beth yn union oedd o.

Yno magwyd fy nhad, ac fe fuo New York ynghlwm yn ei enw ar hyd ei oes.

Mi ddudodd hi y basa'n rhaid i ni gyd gymryd twrn ar ei chario hi - un bob ochr, am ei bod hi'n drwm, a Defi John a Jim fuo raid neud gynta.

''Da chi'n siwr, William Huws, nag ydi'r bitsh hwch 'na ddim yn baeddu'r sêt gynnoch chi?' 'Un o'r hychod glana' fuo acw fawr 'rioed.

Mi fuo yno am flynyddoedd, y pwll tar, a phan oedd hi'n boeth, roedd yna gannoedd o swigod ar ei wynab o, ac mi fyddan ni'n eu clecian nhw hefo piga drain." "Ffendiodd rhywun pwy wnaeth?" "Naddo.

.' Oedodd y capten a syllu i'r môr a'i dduwch: 'Dyna un o'r petha cynta ddeudodd o wrtha i pan fuo ni'n yfed rhyw noson .

'Celwyddgi fuo honno erioed.'

Yr hyn oeddwn i eisiau ei wybod oedd a fuo fon caru y noson cynt.

Roedd yr hen Hugh yn ei ddyddiau cynnar yn eitha' hoff o'i beint, ond clywais Mam yn dweud na fuo hi erioed ar ôl am arian ganddo.

Fuo'n rhaid i mi'i helpu hi hefo'r golchi, ac efo'r manglo wedyn.

Fynna fo ddim ond i mi brynu pacad, ac mi fuo raid i mi setlo am hynny, er fy mod i'n amau'u bod nhw'n rhy fawr i fy mhib i.

'Chlywais i erioed mohono fo'n cwyno hefo dim afiechyd, ac mi fuo'n gweithio yn y chwarel nes cyrraedd oed ymddeol heb golli un munud oddi wrth ei waith.

"Mi fuo agos i mi anghofio.

I gloi'r noson, felly, cafwyd ambell i gân gan Maharishi... wel, pump a dweud y gwir, achos fel mae pawb yn gwybod, bellach, mi fuo na gryn helynt ar y noson am fod rhai aelodau o'r gynulleidfa yn gwrthwynebu i'r hogia ganu'n Saesneg.

Wedyn mi fuo raid i mi ei thurio hi allan hefo gwellan a magnet a phob math.

Mae gan bob malwr ei le ei hun; term y gwaith amdano yw Bargen, ond coeliwch fi fuo erioed enw mwy camarweiniol; colled a llwgfa fu i ugeiniau, fel y dywedodd un ryw dro.