Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fwrdd

fwrdd

Sylwodd Anna fod rhyw foi mewn côt ddyffl lwyd ar fwrdd Playmate.

Ond i ryw greadur bach ofnus a swil fel fi, a minnau'n edrych i fyny felly o ddyfnder fy sêt wrth yr organ tuag at ei uchelfan ef yn y Sêt Fawr wrth Fwrdd y Cymun, yr oedd edrych i'w ddwy ffroen aruthrol ar un eiliad fel edrych i ddau dwll blwmars hen ffasiwn yn bochio yn y gwynt.

Mae hi yn cyrraedd at fwrdd swper gyda'r nos a chwpaned o goffi o hyd.

Ym mhen tipyn bach ar ôl hyn, yr oedd "yr hogiau% (yr efrydwyr am y Weinidogaeth felly, i ddweud gair o brofiad wrth Fwrdd y Cymun yn y Cyfarfod Misol, a'r seraff duwiol, y Parchedig Gruffydd Parry y Borth Borthygest felly) yn gwrando ar ein tipyn "Profiadau%, Ni chofiaf y nesaf peth i ddim a ddywedais.

Codai Phil y senglen at fwrdd y shêr, cymhwyso'r ochrau a'i rhoddi dan y gwasgwr.

Mae hefyd yn enghraifft arall o Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn gweithio'n agos gydag asiantaethau eraill i ddatblygu'r defnydd o'r Gymraeg ym maes technoleg gyfoes.

Pan fu Twm farw ar fwrdd y David Clarke ddydd Sadwrn.

Cafodd y ganolfan rodd o fwrdd tenis ac mae llawer o'r bechgyn yn chwarae arno trwy'r dydd ymhob tywydd!

Cawsom ginio yn Amlwch ac wrth gychwyn oddi yno am Gaergybi gwelsom un o longau cwmni y Blue Funnel yn hwylio'n weddol agos i'r arfordir, ac 'roedd gwledd arall yn ein haros yng Nghaergybi, sef cael mynd ar fwrdd y llong Cambria.

Mae'r Ysgrifennydd Addysg yn ystyried ar hyn o bryd argymhellion gan Fwrdd yr Iaith o ran blaenoriaethau datblygu addysg Gymraeg.

Caiff y Cyngor ei gadeirio gan y Llywodraethwr Cenedlaethol, sy'n eistedd ar Fwrdd Llywodraethwyr y BBC.

Gafaelai'r dwblwr mewn un pen o'r llafn a'i ddyblu ar lawr y felin, ac yna ei godi at fwrdd y shêr, ei gymhwyso, ei roi o dan y gwasgwr, ei drin o dan y gyllell, ac yna ei daflu ar draws y felin at y gweithiwr ffwrnais.

Mae ymgyrchydd iaith amlwg wedi galw ar i Fwrdd yr Iaith gynnal cyfarfodydd cyhoeddus a chyhoeddi cylchlythyron newyddio i roi gwybod i bobol Cymru beth sy'n digwydd ynglŷn â'u gwaith.

" dilynodd hi'r gwas at fwrdd yn ymyl y ffenestr.

I'w coginio'n gynt a chadw mwy fyth o'r maeth gellir torri'r betys amrwd yn stribedi mân, eu rhoi mewn sosban gyda'r mymryn lleiaf o ddŵr a llond llwy fwrdd o olew'r olewydden neu flodyn yr haul.

Yn naturiol gallai'r cardiau lithro ar fwrdd o'r fath neu gael eu hadlewyrchu ynddo, dyna pam mae defnydd gwyrdd ar fwrdd cardiau mor boblogaidd.

Cyn hynny, roedd peth tensiwn rhwng aelodau'r hen Fwrdd - a Ron Jones yn arbennig - a'r aelodau newydd.

Dychmygaf rhyw wyddonydd heb ddim gwell i'w wneud yn cyhoeddi nad yw Sion Blewyn Coch yn mwynhau ieir a ffowls a hwyaid Llyn y Felin ar ei fwrdd cinio.

Yn hytrach, yn ogystal â mân swyddi y tu allan i'r tū, byddaf hefyd yn rhoi help llaw i gadw'r lle yn dwt o'r tu mewn, megis dilyn hwfar fel dilyn ci gwyllt, polishio'r darnau pres a rhoi sglein sbesial ar fwrdd a chadair a chwpwrdd.

I'n cyndadau, fodd bynnag, roedd gosod esgid ar fwrdd yn anlwcus oherwydd fod y weithred yn eu hatgoffa o esgidiau am draed y truan oedd yn aros i'w grogi.

Ond clywodd lais o'r tu ol iddo yn ei annog i fwrdd, wedi gofyn rhif ei ystafell.

Roeddem yn ysu am gael gwybod beth oedd wedi digwydd rhyngdi â'i chwaer, ac yn cydymdeimlo'n fawr â hi wrth iddi geisio denu Meic a'i hysfa am i ddyn ei charu ar ôl ei hysgariad o briodas oedd fel "bwyta wrth fwrdd heb le i ddwy benelin".

Y mae hanesion eraill am wragedd ar fwrdd llongau hwyliau ond nid yw pob un yn hanes hapus o bell ffordd.

Llongwyr ar fwrdd y llong ryfel Rwsiaidd Potemkin yn cymryd y llong drosodd, taflu'r swyddogion i'r m“r a chodi'r faner goch.

Llongwyr ar fwrdd y llong ryfel Rwsiaidd Potemkin yn cymryd y llong drosodd, taflu'r swyddogion i'r m"r a chodi'r faner goch.

Gobeithia barhau gyda'i waith ymchwil mewn mathemateg gymhwysol a'i waith ar fwrdd golygyddol Y Gwyddonydd , ysgrifennu ambell adolygiad a dilyn ei ddiddordeb mewn ieithoedd (cyfieithodd un o ddramau Gogol,Yr Archwilydd i'r Gymraeg yn ddiweddar).

Mae'n anlwcus chwarae cardiau mewn stafell os bydd ci yno ac ni ddylid chwarae cardiau ar fwrdd sydd â'i wyneb yn loyw.

Peth anlwcus hefyd yw gadael i'r 'chips' orwedd blith drafflith ar fwrdd.

Ymhen rhyw ugain munud, eisteddai wrth fwrdd llwythog gydag Emrys a'i fam a'i chwaer Gwen, athrawes a oedd newydd gyrraedd adref o ysgol gerllaw.

"Nawr ewch i'r gwely ac aros yno," meddai'n chwyrn, "os cai ychwaneg o drafferth gyda chi heno, fe fydd yn edifar gennych chi." Y bore wedyn, fe'i dihunwyd gan sŵn llestri yn cael eu gosod ar fwrdd y feranda.

Os nad oes tanciau dwr parhaol ar fwrdd eich carafan (a dim ond yn y rhai mwyaf a drutaf y mae'r rheini), yna bydd raid i chi ymuno a gweddill y werin i gario'ch dwr iddi, a chario'r dwr wast yn ol i'r draen pwrpasol.

Anfonwyd copi o'r llythyr at Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Yn yr un modd ceir rhesymau ymarferol hollol paham na ddylid rhoi esgid ar fwrdd, neu agor ambare/ l mewn ty.

150 yn marw mewn tân ar fwrdd y rig-olew Piper Alpha ym Môr y Gogledd.

Yna, wrth fwrdd mwy cyfleus na'r gist geirch sgrifennwn fy llythyrau a chael cryn hwyl wrth y gwaith.

Gwybodaeth gefndir ddefnyddiol am y iaith Gymraeg ac am Fwrdd yr Iaith Gymraeg a'i waith.

Gan na allwn siarad Saesneg yn dda iawn doeddwn i ddim eisiau gadael Cymru am wlad newydd mor bell i fwrdd.

'Roedd y Stiwt yn ganolfan lle y gallai ffrindiau daro i mewn am sgwrs, gem o ddraffts neu wyddbwyll; 'roedd yn rhoi cyfle i greu diddordebau ac yn lle i feithrin talent ar fwrdd draffts, gwyddbwyll a biliards.

Ond cyn iddo dyfu'n dad fel tad plant eraill, fe'i golchwyd oddi ar fwrdd ei long mewn ystorm ym Mae Bombay ac fe'i collwyd.

Yn y pecyn ac ar fwrdd bwletin NVQ Rheoli, bydd cyfle i drafod rhai o'r problemau sy'n codi o ddydd i ddydd ac i glywed am rai atebion posibl i'r problemau hynny.

Daeth Menna ymlaen atom a'n tywys at fwrdd crwn, dipyn o'r neilltu.

Serch hynny, yn groes i'r hyn a gredai'r mwyafrif o bobl, ychydig o garcharorion a fu farw ar fwrdd y llongau carchar a deithiai i Awstralia a 'does dim sail i'r cyhuddiad cyffredin mai diffyg cydymdeimlad ar ran yr awdurdodau fu'n gyfrifol am farwolaethau afraid yn ystod y siwrnai hir.

Oherwydd stori fer o ffilm ydyw gyda'r darnau'n llithro i'w gilydd fel dror i fwrdd, chwedl Kate Roberts.

Hefyd roedd nifer o fasgedi yn cynnwys cig iâr a sglodion ar fwrdd yn y gwesty, yn barod i'w dosbarthu a neb yn cadw llygad arnynt.

Rwy'n cofio diwrnod y te parti yn yr ysgol fod hi wedi ei gwisgo mewn gwisg wen, a roedd yn ferch landeg hefyd, a roedd yn eistedd wrth ryw fwrdd bach ac yn rhoi oren ac afal yn llaw bob plentyn a'r genethod yn rhoi "curtsie% iddi a'r bechgyn yn salwtio.

Yn yr ysgolion y Weinyddiaeth Addysg bellach sy'n cymell y Cymry i dyfu'n genedl ddwy-ieithog, gan ennill y gorau o'r ddau fyd, byd y dec uchaf Seisnig a byd, nid dan yr hatsus yn llwyr, ond ar fwrdd yr ail ddobarth Cymreig.

I'r fan honno roeddwn i'n anelu ar fwrdd hen sgwner anferth, yng nghwmni tua chant o ymwelwyr, i weld llosgfynydd sydd, er yn dal i ffrwtian, yn ddiogel i'w ddringo.

Yn y Dwyrain Canol, mae'r siaradwyr yn llawer mwy tebyg o eistedd wrth fwrdd gwahanol.

Yr oedd hyn yn brofiad newydd iddo, ond ychydig yn unig o'r rhyfel a welodd Phil, oblegid ar un o'i fordeithiau cyntaf cafodd ddamwain erchyll pan ddaliwyd ei droed chwith mewn peirianwaith ar fwrdd y llong a'i malurio'n ddrwg.

Doedd neb ar fwrdd y British Monarch wedi gweld llong arall ers oriau maith, ac roedd y tir agosaf fil o filltiroedd i ffwrdd!

Llymeitiodd ei de wrth fwrdd crwn, diliain gyda strempiau digon budr arno.

'Roedd y bryddest yn cyfeirio at y dioddef a welwyd ar fwrdd y Sir Galahad, ac yn gresynu fod pobl o'r un hil, o Gymru ac o Batagonia, yn tanio ar ei gilydd.

Y broblem, wrth gwrs, ydi nad yw'r cyfryw Fwrdd wedi gwneud dim dros y Gymraeg.

Dringodd nifer o'r morwyr i lawr atynt, penderfynodd y capten ac Ibn eu bod hwythau hefyd ag awydd rhoi troed ar dir sych wedi wythnosau ar fwrdd drewllyd y llong a blas yr heli ar bob dim: 'Lle ydan ni?' Ibn ofynnodd y cwestiwn wrth wylio'r lan yn nesa/ u: 'Tuscani.' Atebodd un o'r morwyr cyn ychwanegu: 'Dwi'n meddwl.' Ond doedd Ibn ddim callach.

Y drefn a barodd fod tren a thacsi a bws yn cribinio darn gwlad o blant, a'u cludo ddegau o filltiroedd i honglaid o ysgol bell i fwrdd.

Cofiais mewn fflach am y lluniau roedden ni wedi eu tynnu ar fwrdd yr Hercules, a'r lluniau o sefydliadau milwrol a dynnwyd drwy ffenestr y bws.

Does gan Fwrdd yr Iaith ddim stondin ar Faes yr Eisteddfod ac, ers misoedd, fe fuon nhw'n dawel iawn.

Rhoddai unrhyw beth i unrhyw un yn awr am gael bod ar fwrdd y llong yn lladd taeogion ar fwrdd chwarae Datini.

Roedd y paced hollbwysig yn dal ar fwrdd y gegin!

Ond roedd yna odreuon arian i'r cwmwl hwnnw oherwydd, yn ôl yr wybodaeth a ddaeth i Blas Nanhoron, roedd Capten Timothy Edwards yn hwylio adref ar fwrdd yr Actaeon ac i gyrraedd Prydain at ddiwedd Awst.

Ystafell fechan, bur dlawd ac anhrefnus yr olwg, oedd hi, â silffoedd llyfrau wrth un mur, ac yn y gongl ddesg uchel, lydan i daro papur newydd arni, ac yn y canol fwrdd a rhai cadeiriau wrtho.

Mynd o'r naill fwrdd i'r llall, a sefyll yno fel mudan.

Mae Sam Hammam wedi cael ei ethol yn aelod o fwrdd Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.

Cawsant hwy ill tri fwrdd yn daclus yng nghornel y stafell arall am fod honno ychydig yn wacach.

Canfu'r bardd y dyluniad beiddgar hwn 'yn fap o Gymru a ymddangosai fel petai wedi hoelio at ei gilydd ddarnau o ddefnydd amrywiol, darnau o bren haenog wedi'u peintio neu ddarnau o fwrdd wedi'u gorchuddio gan frethyn.

Amcan: Sicrhau bod ymateb rhaglenni'r BBC i ddatganoli yn cael ei weithredu'n effeithiol, o fewn y fframwaith y cytunwyd arno gan Fwrdd y Llywodraethwyr.

Deuai'r rhan fwyaf o'r sŵn o un o'r ddwy stafell, yn weiddi a chwerthin a hynny'n gymysg ag ambell bwt o gân yn cael ei tharo mewn gobaith a chlecian achlysurol dominôs ar fwrdd.

Mewn llawlyfr sy'n cael ei gyhoeddi gan Fwrdd y Genhadaeth, mae'n briodol iawn i ninnau fyfyrio ar Iesu fel rhodd Duw i'r byd.

Ond gwnaed lle iddynt wrth fwrdd bychan yng nghongl yr ystafell.