Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fwriad

fwriad

Ei fwriad oedd ei bachu wrth iddi ddod allan, ond yn amlwg roedd madam wedi rhag-weld ei gynlluniau ac wedi gofalu bod ganddi gwmni.

"Beth bynnag am gymhelliant, beth bynnag am fwriad, elli di ddim osgoi'r ffaith fod hyn oll yn newid ein sefyllfa ni."

Cefaist fwy na digon o gynghori a phregethu, a blino cael dy lusgo ar draws gwlad, ond uchel oedd ei fwriad.

Cyn cychwyn, roedd John Griffith - `Y Gohebydd' i ddarllenwyr Y Faner a phawb arall - wedi gosod ei fwriad ar bapur, gyda'i gymysgedd arferol o gyfeiriadau Beiblaidd, ebychiadau Saesneg, a Chymraeg cartrefol, byrlymus.

Un cysur sydd yna, nad oes unrhyw fwriad i ddathlu cychwyn go iawn y mileniwm gyda sbloet fel un y llynedd! A fydd yna ddim ail-agor y Dôm a thrio eto.

Nid oes gan y Gymdeithas unrhyw fwriad i'w cynnwys yn y cynlluniau ar hyn o bryd.

mae'n fwriad gennyf, felly, chwilio cyfleoedd yn ystod y dyddiau nesaf i'w trafod yn anffurfiol gyntaf gyda swyddogion Adran Addysg y Swyddfa Gymreig cyn chwilio dyddiad ar gyfer y cyfarfod ffurfiol hwnnw.

A defnyddiaf y gair 'trafferth' o fwriad, o achos nid bardd ydoedd o gwbl.

Nid yw'n fwriad penodol, felly, i drafod rhagoriaethau a ffaeleddau un sir ond yn hytrach i gyflwyno casgliadau cyffredinol a gododd o'r astudiaeth ac sydd yn berthnasol y tu hwnt i Wynedd, ac mewn rhai achosion, y tu hwnt i Gymru.

Doedd dim byd newydd yn y thema - yn ymhlyg yn y ddeddf a fynnodd gyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg, sydd yn cael y clod am gadw'r iaith, roedd yna fwriad i roi'r Beibl yn Gymraeg i mwyn i ...

Yn y digwyddiad ola' yna y mae arwydd o fwriad ehangach y ddrama gerdd.

Roedd y postman wedi bod, a Mam, ar ben y bwrdd, newydd dynnu llythyr o'r amlen a'i agor ar y lliain ar fwriad o'i ddarllen.

Yr unig fwriad yn y fan hon yw cynnig rhai syniadau sy'n effeithio ar dir yr ysgol.

“Bu Hoff Gerddi Cymru yn syfrdanol o boblogaidd ac y mae'n fwriad gennym gyhoeddi sawl casgliad o gerddi gwahanol er mwyn cael cyfres o lyfrau barddoniaeth y bydd pawb yn mwynhau eu darllen.

Y canlyniad fu'r Welsh Courts Act, 1942, deddf seneddol a ddiystyrodd holl fwriad y ddeiseb ac a adawodd y Saesneg o hyd yn unig iaith swyddogol y llysoedd cyfraith a'r gwasanaethau cyhoeddus oll.

Y mae hi'n fwriad hefyd i drefnu nifer o weithdai arbennig i ieuenctid mewn gwahanol feysydd, ee gweithdai drama, roc, ysgrifennu creadigol, chwaraeon etc.

(c) Mesuriadau Rheoli Trafnidiaeth, Beddgelert CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio ar lythyr a dderbyniwyd gan Gyfarwyddwr Priffyrdd y Cyngor Sir yn rhoddi manylion am fwriad y Cyngor Sir i gyflwyno gorchymyn traffig er gwella'r tagfeydd a rhwystrau a oedd yn bodoli ar rai strydoedd yn y pentref ac yn gofyn am sylwadau'r Cyngor hwn.

Ar ben hynny, prynodd y tri ohonom lyfr yr un er nad oedd yn fwriad gan yr un ohonom i brynu dim pan gyrhaeddom - dim ond edrych.

Ond nid dyna eich unig fwriad.

Fel ffuredau mae rhai o'n sylwebyddion praffaf wedi gafael yn dynn yng ngeiriau Elin H G Jones heb fwriad i'w gadael yn llonydd.

Yn ogystal sefydlwyd canolfannau iaith ar gyfer cymathu'r hwyr-ddyfodiaid ac y mae'n fwriad i sefydlu rhagor ohonynt yn y dyfodol.

Felly, nid balchder yn ei hynafiaid nac unrhyw awydd i sefydlu cyff breiniol iddo ef ei hyn a'i dylwyth o gyfnod Gruffudd ap Cynan ymlaen oedd yr unig fwriad a goleddai Syr John Wynn pan ysgrifennodd ei History of the Gwydir Family.

Nid yw'n fwriad gennyf fi i drafod ei farddoniaeth yma.

Pan fydd arddangos yn digwydd mae'r plentyn yn cael cyfle i fod yn rhan o bwrpas gweithgarwch, i fod yn rhan o fwriad y sawl sy'n arddangos.

Mewn un angladd wrth ddarllen Salm y Bugail, fel hyn y traethodd y doctor: 'le, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf newid' (Pan dery angau, un wedd ar y brofedigaeth yw'r newid sy'n digwydd i'r holl dŷ mewn cegin a pharlwr a llofft, newid sy'n syfrdanu.) Ni wn ai o fwriad ai trwy ddamwain y rhoes y meddyg dro mor annisgwyl i'r gair, ond roedd ei glywed yn gynhyrfus o newydd: 'Nid ofnaf newid.' Roedd Doctor Jones yn ŵr pur grefyddol ei natur, ac ar ambell Sul byddai'n pregethu hwnt ac yma yn eglwysi'r fro.

Wedi'i noddi gan yr Undeb Ewropeaidd, mae Eurolang wedi ei leoli ym Mrwsel, a'i fwriad yw delio a meterion yn ymwneud a lleiafrfiedd diwylliannol Ewrop.

Yn dilyn cyfarfod gyda'r Cyngor, y mae'n fwriad i gynnal cyfres o gyfarfodydd mewn gwahanol ardaloedd i esbonio ac egluro safbwynt Cymdeithas yr Iaith.

Rhesymau addysgol a roddodd y Pwyllgor am ei fwriad i gau'r ysgol a nododd yn ei ddatganiad nad ystyriaethau ariannol a barodd iddo wneud y penderfyniad.

Gyda llaw, dydio ddim yn fwriad gen i ymweld a Sir Fôn yn y dyfodol agos.

(a) Croesfan Rheilffordd Merllyn, Criccieth CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio yr adroddwyd i'r Pwyllgor diwethaf ar fwriad y Rheilffyrdd Prydeinig i gau'r groesfan uchod i drafnidiaeth ond ei chadw'n agored ar gyfer cerddedwyr a hawliau defnydd preifat yn unig.

Ond nid dyma fwriad Morgan Llwyd (a hyn, gyda llaw, yn enghraifft o'r gofal sydd eisiau rhag camddehongli awgrym gair.

A'r miliwnydd a eisteddodd yn sydyn ar y ris uchaf, ond nid arhosodd efe yno; gan mai ei fwriad cyntaf oedd disgyn o'r llawr lle'r oedd ei swyddfa, efe a ddisgynnodd yn wir, ond nid yn y dull a'r modd a oedd yn ei fwriad cyntaf Canys efe a ddisgynnodd ynghynt, ac a darawodd bob un gris fel petai ddrwm.

Ni fu'n rhaid inni erioed dddibynnu ar genhedloedd eraill, ac nid ydyw hi'n fwriad gennym ddechrau'n awr." Amen.

Yn y cyd-destun hwn y mae'n berthnasol i grybwyll hefyd ein gwrthwynebiad i fwriad D^wr Cymru i godi gwaith carthion yn Llanfaes ger bedd Eleanor, gwraig Llywelyn ap Gruffudd a mam Gwenllian.

Y Bwrdd Glo yn cyhoeddi ei fwriad i gau glofeydd y T^wr ond y gweithwyr yn ennill yr hawl i feddiannu'r gwaith.

Mewn ymateb i'r pwysau am ddeddf iaith, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol ei fwriad i sefydlu Bwrdd Iaith Ymgynghorol.

Gwarth o beth yw i rai pobl briodoli iddo gymhellion Seisnig a Saesneg, ar y rhagdybiaeth ei fod yn ddi-Gymraeg, ac mai ei fwriad yw penodi swyddogion yn ei lun a'i ddelw Anghymreig a di-Gymraeg ei hun.

Boed hynny fel y bo, tresmasu y bydda i, ac o fwriad y tro hwn.

Y cwmni BP Chemicals yn cyhoeddi ei fwriad i gau gwaith Baglan a cholli 600 o swyddi.

Ei fwriad oedd ei holi ynglŷn â'i weithredoedd, mewn ymgais i geisio deall pam y'u cyflawnodd, ond roedd Josef Mengele yn gyndyn o drafod Auschwitz mewn unrhyw fanylder, heb sôn am ddangos unrhyw deimladau.

Er pan glywsai am fwriad John Edmunds i ddathlu sefydlu hunan-lywodraeth yn yr harbwr, ni buasai taw ar ei fremian, na wyddai'r cynghorydd y peth cyntaf am fywyd môr, mai dyn tir oedd o, o dras a diddordeb, mai esgus i gael ei weld oedd ei glochdar am gael dathliad yn yr harbwr am nad oedd sail i ddathlu dim arall yn y Porth.

Darllenais gyda diddordeb ei bod yn fwriad gan y Peoples Fuel Lobby i ailgreu y Jarrow March hanesyddol.

Prif fwriad Bwrdd yr Iaith Gymraeg wrth gyhoeddi'r strategaeth ymgynghorol oedd ceisio datblygu strategaeth mewn partneriaeth â'r cyhoedd, ac â'r sefydliadau sydd â chyfrifoldebau allweddol neu gyfraniad pwysig i wneud dros yr iaith.

Ei fwriad oedd cynnal llys yno i benderfynu'r mater.