Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fwriadol

fwriadol

Wedi cuddio'r llawddryll yr oedd, meddai, gan fod ei dad wedi saethu'n fwriadol at griw o fechgyn yn Llanfwrog.

Un peth ydi bod yn fwriadol ddigri a pheri i eraill chwerthin þ mae yna orchest a boddhad yn hynny.

Ie, pysgota penhwyaid a physgota'r lasgangen sydd yn y parsel yma, nid eu bachu'n ddamweiniol achlysurol ym misoedd yr haf pan ar ôl prae arall - ond yn fwriadol systematig pan y maent yn anterth eu nerth.

Deuent iddi ar fflach, meddai, heb orfod chwilio'n fwriadol amdanynt.

Dros y blynyddoedd, fe fu rhai adrannau'n fwriadol yn peidio penodi Cymry Cymraeg.

Yn hollol fwriadol y'i galwyd yn 'rhamant hanesiol'.

Mae'r ola o'r caneuon, Sêr yn llawn egni ond oherwydd fod llais Alex, unwaith eto, yn tueddu i fod yn rhy dawel mae yr effaith fwriadol yn cael ei cholli ar geiriau felly braidd yn anneglur.

Mae'r arddull yn fwriadol 'fodernaidd', ac yn chwithig ac yn gwirclyd iawn ar brydiau.

Mae yn fwriadol yn gadael ar y sail nad yw yn gallu derbyn ffydd ei gymar/chymar.

Am y tro cyntaf, teimlodd ei fod wedi'i brifo'n fwriadol.

Yn yr un modd yn union, gwahaniaetha'r Hen Destament yntau yn fwriadol rhwng pobl a chenedl.

Mae'r Cwrdiaid yn gweld y cynllun hwn i godi argae Ilusu a boddi eu terfi a'u pentrefi fel rhan o strategaeth fwriadol Twrci i ddinistrio eu diwylliant a'u ffordd o fyw unwaith ac am byth.

'Does dim brys gwyllt.' Pwysleisiodd yn fwriadol, 'Pobl ddiarth, weldi.' Gŵr ifanc tal, tenau, yn gwisgo sbectol oedd o Edrychodd ar yr ymwelydd, ac edrychodd yntau'n ôl arno.

Nid yw'r camau sydd wedi arwain at dro%edigaeth wleidyddol Harri wedi eu llunio'n fwriadol ofalus yn y lle cyntaf, felly nid yw'n syndod ei fod yn diosg ei blisgyn Comiwnyddol mor hawdd.

Os oedd Ystorya Trystan, neu'n arbennig y darnau rhyddiaith, wedi cyrraedd ei ffurf bresennol yn gymharol ddiweddar, pan oedd y traddodiadau Ffrangeg wedi cael digon o gyfle i ymledu, gallwn dybio fod elfennau estron wedi eu gwrthod yn fwriadol.

Gwaetha'u modd nid oes llawer o orielau sy'n ddigon dewr i ddangos cylfyddyd fel hyn sy'n fwriadol Gymreig, yn hytrach na dangos sioeau diogel ac arddangosfeydd teithiol parod o'r South Bank.

'Rwy'n ychwanegu'r gair 'calon' at y gair 'meddwl' yn y fan yna yn hollol fwriadol.

Yn groes i holl gynghorion y swyddogion lles a diogelwch ar y teledu roedd wedi gosod y drych yn fwriadol yn y man hwnnw fel bod pob cwmwl o fwg-taro yn melynu'r gwydr.

Nid troi ei gefn yn fwriadol ar Gymru a wnaeth Elfed, serch hynny.

Yn fwriadol, aethpwyd â Talkback allan o'r stiwdio ac o'r herwydd roedd yn rhaglen hyblyg a allai ymateb i bynciau llosg y dydd ar amrantiad.

Yn yr un modd yr ydym yn fwriadol yn gwneud rhai pethau, a hynny'n reddfol bron, er mwyn sicrhau lwc dda.

Crynodeb byr yw'r canlynol o'r newyddion a gefais wrth bori trwy ddau bapur newydd yn unig y bore yma: Bavaria - tân wedi'i gynnau'n fwriadol mewn tþ a oedd yn gartref i deuluoedd Twrcaidd.

Dilynais chi i'r llyfrgell y diwrnod wedyn yn fwriadol i geisio dod i'ch adnabod a chael mwy o wybodaeth gennych, ac fe gefais hefyd!

Y troeon hynny, welais i neb erioed mor fwriadol greulon; wn i ddim a oedd hi'n mwynhau'r peth hyd yn oed..." "'Eisiau bod yn ffrindiau' - Anita fach, elli di ddim gweld pa mor greulon oedden ni?

Mae ymgais fwriadol ar droed, felly, i wneud y chwyldro yn fwy o hwyl i'r bobl ifainc.

Mae'r elusen hefyd yn honni bod hanner y boblogaeth yn adnabod rhywun sydd wedi anafu ei hun yn fwriadol.

ydych chi'n fwriadol yn mynd ati i ddinistrio'r stori fer a\ la kate roberts?

Mae batiwr Morgannwg a De Affrica, Jacques Kallis, wedi tystio bod y capten Hansi Cronje wedi dod ato fo a dau chwaraewr arall - Lance Klusener a Mark Boucher - cyn y gêm yn erbyn India ym Mis Mawrth a dweud ei fod wedi cael cynnig i gollir gêm yn fwriadol.

Mae'n ddrwg gen i, 'doeddwn i ddim yn bwriadu bod yn anfoesgar.' 'Roeddech chi'n swnio'n hollol fwriadol.' O'r gorau, bwriadol oedd o.

Ffaldi-rai-tai-to, mae'r Blw-byrd (dur) ar ben ei ddigon hefo Cymru fach - fel y gwcw lawen lwydlas ar ei nyth newydd, ac yn wir yn Sonnig, ar lannau Tafwys dlawd y trig mewn bwthyn bach distadl, yntau yno wedi agosa/ u cryn filltiroedd at Gymru o fro ei febyd yng Nghaint, wedi symud yno'n fwriadol i ragddisgwyl am y job.

Ond byddai'n aml yn dyfalu a oedd ensyniad Dilys yn fwriadol ai peidio; ac felly ar sawl achlysur arall.

Ei gred ef oedd eu bod yn troseddu am nad oedd dim i'w cadw'n ôl, ac nid am eu bod yn gwneuthur hynny'n fwriadol.

Efallai y teimlwch mod i'n fwriadol danseilio gwyddoniaeth wrth bwysleisio ansicrwydd y cyfryngau a'r mesuriadau a ddefnyddia'r gwyddonydd.