Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fychan

fychan

Doedd yna fawr o alw am ei wasanaeth ac roedd hynny o gyflog a gâi yn fychan iawn.

tra'r oedd y tri yn fychan iawn, yr oedd eu tad yn eu harwain ar hyd a lled y wlad i gynnal cyngherddau.

Yr oedd rhai ohonynt yn bur fychan - o safbwynt nifer yr ymgeiswyr a oedd yn sefyll eu harholiadau iaith - ac eraill yn gallu cystadlu â'r byrddau arholi TAU.

'Dwn i ddim pwy rôi i gi yno, heb sôn am blentyn." "Ia, 'ntê, a'r cyflogau'n fychan." "Bychan, i%a; meddyliwch chi rŵan am John yma, yn cael dim ond pymtheg swllt yn yr wythnos ar ôl gweithio blynyddoedd am ddim, a sefyll tu ôl i'r cownter o fore gwyn tan nos, a'r hen ddyn hwnnw'n cerdded o gwmpas y siop, efo'i hen lygada ym mhob man.

"Daeth fy mhrofiad o wneud colur yn handi, achos oedd angen gwneud y llygaid yn drawiadol, felly oedd e'n neis gallu gwneud hynny." Tra'n gwneud Twm Sion Cati gyda Chwmni Whare Teg, fe ddaeth i gysylltiad â Catrin Fychan - Gina yn Pobol y Cwm.

Cwt cymharol fychan oedd o, heb lun na phoster ar ei gyfyl.

Ers hynny bu nifer fychan o rai oedd yn bleidiol i'r iaith yn gweithio i sicrhau dyfodol iddi o fewn i'r cyfyngiadau gormesol a roed arni gan reolaeth sectyddol y llywodraeth yn y gogledd.

Yma, mae CLEDWYN FYCHAN yn disgrifio dwy daith ddifyr y gallwch eu gwneud yn rhannol mewn car ac yn rhannol ar droed.

Mae'r amrediad o anghenion addysgol arbennig yn eang iawn, ac yn amrywio o anawsterau dysgu cymharol fychan i anableddau dwys a lluosog.

Atyniad arall o fewn y Twr oedd y gwyliwr, Gethin Fychan o dylwyth Gwyn ab Ednywain o Eifionydd.

Gwyddom fwy am gysawdau'r gofod ac am fanion anhygoel fychan y cread nag a wybu unrhyw genhedlaeth o'n blaen.

Fel y gwelir ar y mapiau, plwyf tair anglog cymharol fychan o ryw bedair mil o gyfeiriau yw Llangwyryfon, ac y mae'r stori hon amdano yn cyfeirio yn rhannol hefyd at y pum plwyf sy dros y ffin iddo.

O ran hynny lleiafrif cymharol fychan o Annibynwyr sydd â syniad clir am ei natur, ei waith a'i awdurdod.

Roedd hi tuag ugain oed, yn fychan ac eiddil o gorff, ond ymddangosai'n wydn.

Ail fab Thomas ap Robert Fychan, Nyffryn, oedd Vaughan.

Nid oedd Rhodri'n fychan o bell ffordd a rhoddodd dacl i un o'n chwaraewyr ni a'i frifo.

Pan fo un plaid mewn awdurdod am ddegawd a rhagor yn ddi-dor gall y gweision sifil mewn adran gymharol fychan lithro i rigol meddwl sy'n eu dallu rhag gweld rhinweddau'r gwrthddadleuon.

Ac ymhellach, beth a barodd i Simwnt Fychan ddisgrifio plasty newydd un o'i noddwyr yn 'gyflawnder cyfiawnder' a 'derwen o wladwriaeth' os nad ei gred fod cynhaliaeth lawer amgenach na bwyd a llety i'w chael ynddo?

'Ac oherwydd anafiadau roedd nifer y garfan yn fychan - dim ond 17 chwaraewr oedd gynnon ni allan.

Ond ymddengys mai'r gerdd gynharaf sydd gennym i un o noddwyr y sir yw'r awdl farwnad a ganodd Casnodyn ei hun i Fadog Fychan o'r Goetref, yn Llangynwyd.

Tarddai'r tad o deulu o foneddigion o linach Ithel Fychan.

Mae planhigion sy'n tyfu mewn tir sy'n brin o nitrogen yn fychan ac yn aml yn felyn eu lliw.

Oherwydd hynny penderfynwyd fod yn rhaid wrth adeilad mwy - aethai'r hen gapel yn rhy fychan ers blynyddoedd.

Roedd y tyllau'n wahanol eu maint yn ôl sefyllfa'r graig; byddai twll gweddol fychan ei hyd yn ateb y pwrpas weithiau, tra byddai eisiau twll mwy dro arall.

Y diwrnod prudd hwnnw pan oeddem yn ei gladdu, a phan oeddwn yn ymwybodol yn hytrach nag yn gweld y cannoedd o bobl a ddaeth ynghyd yr wyf yn cofio fy mod yn synnu wrth feddwl i dwll mor fychan y rhoddid Abel, ac am y twll mawr a adawsai efe ar ei ôl na allai neb ei lenwi.

A^i Alice i'r ysgol pan oedd yn fychan iawn a dilynodd Garnedd Wyn hi'n ifanc wedi hynny.

Nid oedd Ann fawr o law ar y gwaith allan y gweithiai hi bob amser, ac yr oeddwn innau'n rhy fychan i fod yn fawr o gymorth.

Dro arall, fel yn 'Eryri o Fangor', mae'r cymylau caws llyffant anferth yn gwneud i'r mynyddoedd edrych yn fychan.

(a) ~le'r oedd cynulleidfaoedd y beirdd wrth eu swydd-- pa mor fychan bynnag oeddynt--yn llenyddol-ddeallus, yr oedd cynulleidfaoedd Pantycelyn a'i gyd-lenorion yn gyrnharol anwybodus a na%i%f yn llenyddol.

Mae'r ganolfan sglefrio bresennol yn rhy fychan.

Ac mae'r ffaith ein bod yn cael ein cystuddio heb beint neu ddau yn waeth na criwelti to animals, a does i ni ond un bai, ac mae hwnnw mor fychan fe aiff i mewn i las peint.

Ond roedd y pen yn wastad a chwerthinllyd o fychan.

faint o ddefaid oedd gan Richard Nannau, Cefndeuddwr, a faint o weision oedd gan Robert Fychan, Caerynwch.

Gellir dadlau bid siwr, mai cyfyngedig yw rhychwant teimladol a ffurfiol a thestunol y naill a'r llall o'r beirdd hyn, bod maint eu cynnyrch, ac amrediad eu harddull a'u profiad yn fychan.