Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fyddech

fyddech

'Mi ddeudson nhw na fyddech chi'n fodlon ...

Yma, doedd labeli cyfleus fel chwith a de ddim yn gwneud llawer o synnwyr; un o'r meini prawf oedd eich agwedd at y farchnad rydd - pa mor bell fyddech chi'n fodlon mynd.

Mae gennych chi le i ddiolch nad ydw i ddim yn cysgu mor esmwyth ag y bu+m i, neu fyddech chi ddim yma'n mwynhau brecwast yn yr haul ond yn yr ysbyty yn ymladd yn erbyn niwmonia.

Wrth edrych ar hyn gallwch weld yr amserau a'r lleoedd pan fyddech gwyaf tebygol o fwyta prydau neu orfwyta.

Os ydi'r Capeli a'r Eglwysi mewn lle mawr fel Bangor neu Aberystwyth, er enghraifft, yn penderfynu uno, a bod y capeli Pentecostal, Efengylaidd, yn Saesneg eu hiaith, beth fyddech chi'n dweud wrth y Cymry Cymraeg?

mae'r llyfr yn cynnwys popeth fyddech chi'n ddisgwyl mewn cyfrol o'r fath - yr holl straeon chwedlonol am antics meddw, ar blerwch alcoholaidd oedd yn fygythiad i yrfar grwp yn y dyddiau cynnar.

Cyn pen hir fe fyddech wedi hen alaru ar weld prynwr ar ôl prynwr yn cilio oddi wrthych dan regi a cheisio cymryd arno nad oedd newydd gael sioc ei fywyd.

Prynwch gylchgronau, record newydd, rhywbeth na fyddech yn ei brynu fel arfer.

efalle na fyddech chi'n gallu'i throi hi'n ôl i fod yn fenyw wedyn ...' ychwanegodd mewn llais tawelach, wrth weld y gwrachod yn rhythu'n ffroenuchel arno.

Pe byddech chi wedi gwrando'n astud ar Dafydd Wigley yn lansio ymgyrch ei blaid at yr etholiadau Ewropeaidd yr wythnos dwethaf, fe fyddech chi wedi clywed gwylanod yn y cefndir.

Gofynnai llawer un i mi pan gwrddem yn nes ymlaen: 'Pam na fyddech chi wedi aros i ni roi diolch i chi?'

Tybed a fyddech chwi'n cytuno mai gywyddoniaeth a'i llawforwyn weithredol, technoleg, fu'r cyfrwng pennaf i newid, yn wir, drawsnewid, ein byd a'n cymdeithas, byth oddi ar Chwyldro Wyddonol yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg?

Petai chi'n symud i fyw i dre' Castellnedd rhyw ddydd, mae'n debyg na fyddech chi yn eich cartre' newydd yn hir iawn cyn clywed cnoc ar y drws ffrynt.

Pa gasgliadau fyddech chi'n eu dwyn o'r fath ystadegaeth?

Os gwelsoch chi'r llunie teledu, fe fyddech chi'n gwybod pam.

Pa wybodaeth fyddech chi'n chwilio amdano a ble fyddech chi'n dod o hyd iddo?

Rhywsut, pan fyddech yn ei bwydo fe deinlech yr un mor sbeitlyd tuag ati hi.

Fyddech chi'n ei beirniadu nhw?

Mi 'roedd nhad yn gwylltio'n gacwn, am ychydig eiliadau, a wedyn fel bo cyffur hiwmor yn treiddio mewn i'w wythiennau a'i holl gorff a'i feddwl yn cael ei ddylanwadu, mi fydda fo'n mynd yn fud ac fel fyddech yn gweld, bron yn clywed, olwynion ei ymennydd yn troi ffwl sbid i geisio cynhyrchu llinell ddoniol i ddod allan o'r gwylltineb.

'Mae'n rhyfedd na fyddech chi wedi gwneud hynny ers talwm,' meddai Sioned.