Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fyfyrio

fyfyrio

Gan fyfyrio ar flwyddyn o newid mawr ers sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol, rwyf yn ymfalchïo yn y ffordd y mae BBC Cymru wedi llwyddo i adlewyrchu datblygiad y corff newydd, ac effaith datganoli ar y wlad, gydag ystod o raglenni newydd ardderchog.

Doedd gen i ddim byd i'w wneud ond dal i fyfyrio ar stori Owen Owens.

Wrth fyfyrio ar Gymru y cynhyrchwyd Yn y Wlad, Er mwyn Cymru, a'r aeddfetaf a'r mwyaf hudolus o'i holl waith, Cartrefi Cymru.

Ie'n wir, bydd gan ddyn ddigon i fyfyrio arno'n ddiddig nes dychwelyd at iet y clos.

Gan fyfyrio ar flwyddyn o newid mawr ers sefydlur Cynulliad Cenedlaethol, rwyf yn ymfalchïo yn y ffordd y mae BBC Cymru wedi llwyddo i adlewyrchu datblygiad y corff newydd, ac effaith datganoli ar y wlad, gydag ystod o raglenni newydd ardderchog.

Nid hanes 'arwrol' a geir yma (er bod arwyr Dylan Phillips yn amlwg ddigon yn y naratif). Ymdriniaeth ddeallus a threiddgar ar ddatblygiad y Gymdeithas yw'r gyfrol hon, llyfr sy'n gorfodi'r darllenydd i fyfyrio'n ddwys uwchben y pwnc a gofyn cwestiynau anodd.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Canodd Cynan am y Tad Damien a fu'n gofalu am y gwahangleifion ar Ynys Molókai ym Moroedd y De, ond yn guddiedig-gyfrwys mae'n sôn am y Rhyfel Mawr ar yr un pryd, ac wrth fyfyrio ar aberth eithaf y Tad Damien yn myfyrio ar aberth y milwyr yn y Rhyfel Mawr yn ogystal.

Ni ellid ymddiried mewn lleygwr, hyd yn oed pe medrai'r iaith Ladin - a pheth prin i'w ryfeddu oedd hynny, i fyfyrio arno a'i ddehongli drosto'i hun.

Cyn pen chwarter awr arall o fyfyrio ar y groes o gyswllt gytbwys accenog yn nodiadau sych Wali, roedd Jabas hefyd yn chwyrnu'n braf.

Dechreuodd fyfyrio ynghylch arwyddocad enwau megis Bod Drudan a Myfyrion, ac am yr olion hynafiaethol a welid yno ac yng Nghaer Leb ac y tybid eu bod yn feddrodau ac yn allorau'r hen grefydd.

Er y toriad dros yr haf, daw cyfle eto'n fuan i fyfyrio ar "y pethau hyn".

Yn gynyddol, gallant fyfyrio'n annibynnol ar yr hyn a ysgrifennwyd ganddynt.

Carreg filltir yw blwyddyn newydd, cyfle i orffwys, cyfle i fyfyrio, cyfle i edifarhau, cyfle i ymadnewyddu.

Mewn llawlyfr sy'n cael ei gyhoeddi gan Fwrdd y Genhadaeth, mae'n briodol iawn i ninnau fyfyrio ar Iesu fel rhodd Duw i'r byd.