Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fygythiad

fygythiad

Rhowch wybod i ni os oes ysgol yn eich ardal chi sy' tan fygythiad.

Y maent wedi bod yn fygythiad i'r papurau lleol traddodiadol mewn rhai ardaloedd, drwy fod yn ffynhonnell newyddion lleol, ac aethan mor bell a ffurfio Cynghrair.

Ond o leiaf bydd hyn yn dangos teyrngarwch y cynghorwyr at y Gymraeg ac yn gosod sylfaen i'w ddefnyddio yn erbyn unrhyw fygythiad i newid cymeriad ardal gyda datblygiadau anghydnaws ac annerbyniol i'r gymuned leol.

mae'r llyfr yn cynnwys popeth fyddech chi'n ddisgwyl mewn cyfrol o'r fath - yr holl straeon chwedlonol am antics meddw, ar blerwch alcoholaidd oedd yn fygythiad i yrfar grwp yn y dyddiau cynnar.

Gyda dyfodol nifer o'r sefydliadau addysgol sy'n cynnal y canolfannau dan fygythiad, bydd angen i'r cyllid a ddyrennir ar gyfer project gydnabod yr holl gostau sydd ynghlwm wrth ei gyflawni, er mwyn sicrhau parhad y ddarpariaeth o adnoddau i'r dyfodol.

Yr unig broblem oedd malaria, sy'n tueddu i fod yn rhemp ar dir isel, ac sy'n fygythiad difrifol i bobl fu'n byw cyhyd yn yr ucheldir.

Eto mae'r symudiad yma'n gwneud dau beth - mae'n "datblygu% darn mawr i fan lle mae'n gallu bod yn llawer mwy o fygythiad nag oedd ar ei sgwâr ei hun yn ymyl y Brenin.

Llwyddodd carfan o arlunwyr i ddryllio cynlluniau yn ddiweddar i gynnal sioe deithiol i ddathlu ymwybyddiaeth o Gymreictod gan ei bod yn gweld y sioe yn fygythiad iddynt'.

Ond sut y mae'r Gymraeg wedi para mor hir yn wyneb y fath fygythiad cyson a phwerus?

Bellach dim ond yn ne a gorllewin Cymru y gwelir twyni þ yn Kenfig, Bae Oxwich, Burry, Towyn, Talacharn a Harlech, ac mae rhai o'r rhain dan fygythiad oddi wrth glaw asid.

Mae dyfodol y ganolfan - ac felly hefyd swyddi'r rhai sy'n gweithio yno - o dan fygythiad o hyd ac fe fyddwn i'n argymell i unrhyw un sy'n chwylio am le i gynnal cwrs, neu hyd yn oed am wyliau gyda chriw o ffrindiau, i fentro i'r ganolfan hyfryd hon yn y gorllewin gwyllt.

Ymgais oedd yr Adroddiadau hyn ar addysg i ddeall sefyllfa a oedd fel petai'n fygythiad i sylfeini cymdeithas.

O ganol y bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen cynyddodd graddfa'r marwolaethau ymhlith plant nes iddi ymddangos fod bywyd y teulu a dyfodol y ddynoliaeth yn gyffredinol dan fygythiad.

Bu dau gynnig brys: un yn datgan pryder y Gymdeithas ynglyn â phapur gwyrdd y Llywodraeth ar ddarlledu digidol, sy'n fygythiad gwirioneddol i S4C; a'r ail yn condemio'r BBC am eu newidiadau diweddar i Radio Cymru sydd wedi troi'r orsaf yn wasanaeth o raglenni Saesneg wedi eu cyfieithu.

Nid edrychai'n fygythiad i ddim ar y pryd wrth i'r perchnogion newydd balch eistedd o'i flaen am y tro cyntaf i wylio'r ceffylau yn neidio'r clwydi neu'r dawnswyr syber yn chwyrlio'u partneriaid fflownsiog ar loriau llithrig y neuaddau crand berfeddion nos.

Mi fydd yna lawer o Aelodau Seneddol - gyda mwyafrifoedd baychain - yn edrych yn betrusgar iawn ar y ffigurau hynny ac mi fyddan nhw'n beryglus iawn os fyddan nhw'n teimlo dan fygythiad.

Am fod Eglwys Loegr yn sefydliad gwladwriaethol Seisnig, ac y rhai a fynnai fod yn angymdeithas sifil Seisnig, ystyriwyd y rhan a fynnai fod yn annibynnol arni, boed y rheiny yn Annibynwyr, yn Fedyddwyr, yn Bresbyteriaid neu'n Grynwyr, yn fygythiad i'r drefn wladol Seisnig, gyda digon o reswm fel y dangosodd Cromwell.

Erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif y mae agweddau eraill ar yr hyn a gyflawnodd y llywodraeth yna, yn enwedig y gwasanaeth iechyd a chymorth i amaethwyr, dan fygythiad.

Unwaith y sefydlwyd Lloegr fel cenedl-wladwriaeth, yr oedd hi'n anochel y byddai'i brenhinoedd yn meddiannu Cymru, yn rhannol, wrth gwrs, am fod brenhinoedd yn y dyddiau hynny yn hoffi meddiannu llefydd, ond hefyd am y byddai Cymru yn fygythiad parhaus i Loegr, boed yn fygythiad uniongyrchol o du'r Cymry eu hunain neu o du gelynion tramor.

Y prif fygythiad i Menem yw cyflwr yr economi.

Mae'n rhaid i'r iaith ddod â phobl at ei gilydd, yn hytrach na'u gwahanu; dylai hi gael ei hystyried fel rhywbeth i ymfalchïo ynddi a'i defnyddio, nid fel niwsans neu fygythiad.

Mae celf sy'n ymwneud â maerion perthnasol, er enghraifft, â chynefin a hunaniaeth sydd dan fygythiad, yn perio poen.

Mae gweirgloddiau, sy'n bwysig mewn rhannau o Ddyfed ar gyfer cadwraeth rhai mathau o bili pala a thegeirian, hefyd dan fygythiad.

Anrhefn llwyr; ac eto does dim teimlad o gwbl o fygythiad i'r dieithryn.

Nid yw ryfedd yn y byd, felly, ein bod ni sy'n caru Cymru fel Cymru ac sy'n dymuno gweld yr hen ddiwylliant a'r iaith yn ffynnu, yn ystyried y Cymydog Mawr yn fygythiad.

Eryrod, cathod gwylltion a llwynogod yw eu gelynion naturiol hwy yn yr Alban ac os bydd y gelynion hyn yn fygythiad gwirioneddol mewn cylch arbennig, ymfuda'r ysgyfarnogod i ddiogelwch rhyw gylch arall.

Yn ôl Syr Paul Condon mae'r broblem yn aros, ac mae'n fygythiad gwirioneddol i'r gêm.

Yn eu hadroddiad Her Bio-amrywiaeth rhaglen ar gyfer ymgyrch gadwriaethol ym Mhrydain ceir rhybudd bod amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid gwyllt a'u cynefin dan fygythiad.

Mae yma fygythiad difrifol i'r tiriogaethau naturiol Cymraeg eu hiaith a rhaid wrth ymateb ar fyrder.

Da oedd bod cnewyllyn o Gymry cadarn a deallus na chydymffurfiai â'r Wladwriaeth Seisnig yn ei gwedd grefyddol, ac a fyddai'n arddel radicaliaeth a ystyriwyd hefyd yn fygythiad i'r drefn.

Mae nhw wedi mabwysiadur dacteg o ledu ar draws y cae er mwyn ymateb i unrhyw fygythiad.

A minnau wedi disgwyl gweled y baedd yma hefyd yn ffornochio ac yn codi ei drwyn tua'r nef mewn ysgrech o fygythiad, a dangos cil- ddannedd fel cilbostiau adwyon wedi eu gwneud gan yr hen bobl.

Mae cael morgais yn ddigon o faen melin heb wahodd rhagor o fygythiad i ddiogelwch eich cartref.

Yn wir, gallai pwysigrwydd cynyddol Technoleg Gwybodaeth mewn gweinyddu a chynnal busnes beunyddiol ymhob sector ddod yn fygythiad difrifol o ran hyblygrwydd corff i weithredu'n ddwyieithog, gan mai yn Saesneg yn unig yn aml y mae'r deunyddiau ar gael.

Er i'r Ffrancwr arall Nicolas Fabiano gael ei ddanfon o'r maes am benio Danny Carter ac Abertawe'n gorfod chwarae gyda deg dyn yn unig yn yr ail hanner 'doedd gan Ferthyr fawr o fygythiad yn y llinell flaen.

Roedd pawb yn weddol siwr y gallai Gary wireddu'i fygythiad, gyda help ei dad.

Mae'r tiroedd gwlyb sydd dan fygythiad yn cynnwys tir gwelltglas yn Ynys Môn, Pen Llŷn a Lefelau Gwent a chorsydd megis Cors Fochno a Chors Caron.

Mae gan RSPB Cymru dros 40,000 o aelodau sy'n cydweithio i achub cynefinoedd a rhywogaethau sydd o dan fygythiad.

Cyfyngodd ar hawl yr undebau i fynd ar streic, collodd miloedd o weithwyr sifil eu swyddi wrth i fiwrocratiaeth gael ei chwtogi, a chafodd pob gwrthwynebiad i'r chwyldro newydd ei ateb gan fygythiad y rhoddid awdurdod llwyr yn nwylo Menem pe bai angen.

Yn hyn a'u denai oedd y pwyslais a roddai Beca ar bynciau diwylliannol, ar gymunedau ac amgylchedd dan fygythiad, ac yn enwedig ar bynciau Cymreig.