Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fynegiant

fynegiant

Y mae Ellis Wynne yn feistr ar holl ystrywiau dychan, ond tra mae Dante yn hamddenol ddwys yn tynnu llun pob amgylchiad yn drwyadl a manwl, a'i drwytho â chydymdeimlad sy'n arswydo dyn gan ei ddifrifoldeb, sboncio'n heini o lun i lun cartwnaidd y mae Ellis Wynne a hynny mor ddisglair ddigri ei fynegiant nes lladd pob ofnadwyaeth gan y pleser o ddarllen; ac yn y proses, lladd ei amcan hefyd, petai waeth am hynny.

Mae'r gweithwyr diwylliannol hyn yn darganfod bellach fod cyfyngiadau sylweddol hefyd ar fynegiant artistig yn economi%au marchnad rydd y Gorllewin.

Fel bardd rhoes fiwsig i'w fynegiant; fel pregethwr rhoes ergyd yn y miwsig; fel digrifwr rhoes wên yn yr ergyd; ac fel dyn rhoes ddeigryn yn y wên.

Y mae'r Beibl hwn, 'Beibl Genefa' fel y'i gelwir i'w osod gyda'r gorau yn ei gyfnod ar bwys ei gywirdeb ysgolheigaidd a'i fynegiant gafaelgar.

Roedd ei llygaid yn llwydlas fel llechi, a phan edrychent arnaf roeddent yn gwbl ddi-fynegiant bron.

Ond mwy real iddo ef, ac i'r dyneiddwyr eraill, na'r bygythiad gwleidyddol eang a gai fynegiant yn y syniad o ymdoddi ieithyddol llwyr, yw'r difrawder a'r troi cefn a welent ymhlith unigolion, y man foneddigion yn arbennig.

Aros yr o'n i i weld rhyw fath o ymateb neu fynegiant ymysg y blewiach.

Lawer tro dros y blynyddoedd rhoes barnwyr ar y fainc fynegiant hael i'w hedmygedd o'i adroddiadau.

Maent yn fynegiant o ofn cynhenid dyn; ei ddychymyg rhyfeddol; ei awydd angerddol am wybod yr anwybod; a'i ddyhead oesol am lawenydd a bodlonrwydd.

Amheuodd a oeddynt yn fynegiant o ysbrydolrwydd ac edifeirwch.

Fe ellid dadlau, wrth gwrs, nad oes unrhyw gysylltiad rhwng moderniaeth Cymru a'r modernismo y bu+m yn ceisio olrhain rhai o'i deithi, ac a oedd yn fynegiant pwysig o'r 'argyfwng byd-lydan' y cyfeiriodd Onis ato.

Os oedd obsesiynau enwadol yn fynegiant o egni ar y naill law, roeddent hefyd ar y llall yn awgrym o bobl oedd o ddifrif am bethau llai na phwysig.

Mentrais syllu ar ei lygad chwith, ac fe sylweddolais fod ei fynegiant ar ei drai olaf, heb gyffro dicter ynddo na gwenwyn dial.

Pan fu esgob Llandaf yn ei holi, flynyddoedd cyn hyn, am fod ei waith yn tramgwyddo rheolau'r eglwys, dywedodd Wroth wrtho, "Mae eneidiau'n mynd i uffern, f'Arglwydd, yn eu pechodau; oni ddylem ymdrechu ym mhob modd posibl i achub eneidiau?" Ac yn ei lyfr, Glad Tydings, rhoes Cradoc fynegiant eithriadol ddeniadol i'r genadwri Gristionogol, mynegiant sy'n rhoi awgrym inni o'r ysbryd a oedd yn ysgogi'r gweithgarwch o dan Ddeddf y Taenu.