Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fynnwn

fynnwn

Ni fynnwn farw%.

Ni fynnwn er dim bod yn faich arnynt, ac er eu bod yn blant digon annwyl, ni theimlwn yn arbennig o agos atynt.

Ond yn ei sicrhau na fynnwn wneud mynydd allan o domen.

Mae cariad wedi taflu rhwyd O sidan am fy nwyfron Per swynol rwyd o wead serch Y ferch a bia 'nghalon Ac yn y rhwyd 'rwy'n byw a bod Ni fynnwn fod ohoni Ac yn y rhwyd y gwnaf barhau Nes gwnawn ein dau briodi.

Er mor agos at fy nghalon yw'r wlad - ac ni fynnwn er dim fyw yn unman arall - byddaf ar brydiau'n teimlo fy maich yn ysgafnhau wrth deithio tua'r dwyrain a chael rhodio daear gysurus Henffordd neu Amwythig.

Ni fynnwn fod yn annheg o ysgubol.

Ni fynnwn honni am eiliad fod Morgan Llwyd yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd o leiaf, yr oedd ei reddfau llenyddol yn ddigon cadarn i sicrhau fod pob ystyriaeth ramadegol yn cyd-uno i ddiogelu'r effaith a'r dôn y mynnai eu consurio.

Ni fynnwn fod yn sentimental wrth ddweud hynny.