Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fynwy

fynwy

Yna bydd y rhanbarth a gollodd gwyaf yn ennill camera fideo, felly mae hynny'n ysgogiad iddyn nhw!' Wel, mae sgwrsio gyda'r holl ferched, o Fôn i Fynwy, wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi.

Y mae cyhoeddi'r gyfrol ddeniadaol hon yn ddigwyddiad o bwys mawr i'r rheini sy'n ymddiddori yn nhestun Lladin Historia Regum Britanniae Sieffre o Fynwy.

Yr oedd tasg anferth o fawr o flaen y pwyllgor; trefnu ymgyrch trwy bob rhan o Gymru i oleuo ac addysgu a chreu argyhoeddiad ac at hyn trefnu'r gwaith manwl o fynd a ffurflen y Ddeiseb o dŷ i dŷ, nid yn y pentrefi Cymraeg yn unig ond hefyd yn yr ardaloedd poblog a Seisnig yn Sir Fynwy (Gwent erbyn hyn), Morgannwg a mannau eraill.

Rhys Stephen (Gwyddonwyson) gweinidog amlwg ym Manceinion a chefnogwr brwd i Ieuan Gwynedd a oedd yn hanu o Dredegar - fe ystyriwyd offeiriaid sir Fynwy hefyd yn fradwyr ar ôl i'w tystiolaeth i'r Comisiwn gael ei chyhoeddi.

Ni sonnir amdano yn chwedl Culhwch ac Olwen ac ym Mrut Sieffre o Fynwy yr ymddengys gyntaf yng nghymeriad y bradwr a dwyllodd Arthur gan ddwyn dinistr ar y deyrnas.

Dechreua'r hanesyn cyntaf yma gyda theulu mawr ym mhentref Tal-y-waun, sir Fynwy.

Drwy gydol y blynyddoedd hyn yr oedd sir Fynwy yng nghanol tanbeidrwydd y dadlau; a hynny, nid yn unig oherwydd maint y boblogaeth, ei symudolrwydd a'r broblem fawr o ddarparu addysg ar ei chyfer, ond hefyd oherwydd presenoldeb carfan gref o weinidogion amlwg a llafar iawn eu barn.

Gyda'r Ddeddf Uno, cysylltwyd Gwynllŵg a Gwent i ffurfio sir Fynwy, a Gŵyr a Morgannwg i ffurfio'r sir honno.

Cysylltai'r dirywiad materol a welodd yn sir Fynwy â'r duedd at derfysg cymdeithasol.

Cemais I mi, pentref glan mor ar arfordir gogleddol Mon yw Cemais, ond y mae'r enw hwn hefyd yn digwydd mewn nifer o fannau eraill yng Nghymru ar yr arfordir ac ar lawr gwlad o Feirionydd i Drefaldwyn ac o Benfro i Fynwy.

(yr oedd Sieffre o Fynwy wedi lleoli chwedl Brad y Cyllyll Hirion heb fod nepell o Gôr y Cewri) sydd yn awgrymu bod hynafiaethwyr y cyfnod yn dechrau amau ac yn gofyn am brawf bod y brad wedi digwydd.

Ar raglen Saesneg am Gymru, byddai'n holl-bwysig cofnodi'r ffaith fod dau gant o bobl yn mynd i golli eu gwaith mewn ffatri ym mhellafoedd Sir Fynwy; dylai golygydd y rhaglen Gymraeg, ar y llaw arall, fod yn ymwybodol y byddai llawer mwy o arwyddocâd i ddifianiad hanner cant o swyddi yn Nyffryn Ogwen neu Rydaman.

Ewch yn iach, Sieffre o Fynwy, clywsom atsain olaf eich Brut.

Ymhlith y pynciau a drafodid yn y pamffledi hyn yr oedd dyfodol y diwydiant alcam, Deiseb yr Iaith, trosglwyddo gweithwyr o Gymru i Loegr, status Sir Fynwy, cynllunio trydan, silicosis, Cyngor Undebau Llafur i Gymru ac ad-drefnu wedi'r rhyfel.

Nodwn yn unig mai elfennau sylfaenol yr hanes, gan ddilyn Sieffre o Fynwy yn ei Historia Regum Britaniae, oedd y chwedl-darddiad am Brutus, yr hanes am Gystennin yn Rhufain, hanes Arthur a'r brwydro yn erbyn y Saeson, gan gynnwys digwyddiadau megis Brad y Cyllyll Hirion.