Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fynych

fynych

Yn fynych cyfeiria'r sylwadau at ddynion a merched yn ddiwahân yn hytrach nag at un rhyw yn unig.

Ar y llaw arall y mae'r ymfudwyr yn fynych iawn wedi eu magu yn y gred mai rhan o Loegr yw Cymru ac mai bod yn amrwd ac anghwrtais y mae'r Cymry Cymraeg wrth fynnu siarad yr iaith.

Cadw eich Gwaith Fe ddylech gadw eich gwaith yn fynych, mae hyn yn lleihau'r posibilrwydd ichwi golli eich campwaith am byth.

O hynny ymlaen fe'i gwelid yn lled fynych yn mynd i mewn i'r Banc wrth wneud ei neges yn y bore.

Yn fynych iawn fe gai Cymreictod y Cymry ei wasgu ohonynt gan amgylchiadau economaidd a chan y drefn addysgol.

Cyhuddir cenedlaetholwyr yn fynych o ddymuno rhannu yn hytrach nag uno, gan bobl a ddywed, "Angen y byd yw undeb, nid mwy o raniadau%.

Oherwydd y rhan bersonol a gymerodd Gwynfor Evans yn yr helyntion hyn, ceir yn fynych oleuni newydd ar yr hyn a ddigwyddodd.

Ond anwybyddir hanes yr Eidal yn rhy fynych o lawer gan y sawl sy'n hoff o ddifri%o'r genedl.

'R'on i wedi ryw how feddwl, wedi i mi gyrradd Tu Hwnt i'r Afon, y baswn i'n ca'l cyfla i roi dwr i'r 'ffyla cyn mentro'r allt 'na.' Ond fe wyddai Obadeia, yn rhy dda, am fynych wendid y coetsmon a mentrodd ei atgoffa o hynny.

Yr oedd y galwadau arno o Gymru, i bregethu ac i bwyllgora, yn ddiarhebol fynych, a threuliai lawer iawn o'i amser felly yn gwasanaethu yn Gymraeg, yng Nghymru.

Onid yw hwn yn bwynt cyfarwydd ac un a ail-adroddwyd gennym yn fynych.

Yn fynych iawn, un o'r pethau cyntaf a wnaethpwyd i fuwch a ddioddai o glwy'r llaeth oedd tynnu pedwar neu bum chwart o waed!

Cyfansoddodd T.Gwyn Jones (Tregarth) gân leddf ar y geiriau, "Mae'r bechgyn wedi mynd i ffwrdd, Mae'n ddistaw hebddynt wrth y bwrdd..." a chenid hi gyda dwyster yn yr Undeb yn fynych.

I'm pwrpas i, fe fydd yn ddigon i chwi agor y Llyfr, ar ddamwain weithiau, ond yn fynych.

Ond gall ymdrin â chymdeithas tai fod yn broses hirfaith, gymhleth, a bydd yn fynych yn golygu bod gofyn i staff mewn llochesau ddatblygu gwybodaeth arbenigol mewn maes arall eto, a hwythau eisoes â gormod o waith a rhy ychydig o arian.

Y mae'n debyg fod hyn yn digwydd yn fynych iawn yn Castellamare, yn enwedig yn y gaeaf.

Yn fynych, bydd y person wedi cwympo ganol nos yn y toiled ac wedi torri asgwrn ei goes neu ei fraich.

Sonnir am y Llywelyn hwn yn fynych yn y cofnodion cyfoes, ac yn ol y llyfrau achau yr oedd yn arglwydd Llantriddyd a Radur.

Yn fynych ni allai'r beridd ddarlunio'r uchelwr yn llawnder ei gymeriad heb ystyried gwraig y plasty yn rhan hanfodol o'i wneuthuriad.

fwydo ei wynfyd, neu ar ddiwrnod pan ddisgyn y glaw megis rhaeadr o nodwyddau dur; eto yn fynych gorfod gostegu yw tynged y glaw o dan gryfder ynni a dirmyg gwynt a ddaw yn syth o'r fan lle mae crud a bedd yr oerni bythol wedi ymgartrefu ar y rhewfil sydd yn sgleinio'n ddiog, ac yn ddi-ildio.

Beth bynnag yw'r esboniad rhaid cyfaddef bod rhyw sail yn fynych i gred y cyhoedd, ac y mae'r uchod yn un o'r posibiliadau.

Er eu bod mor fynych ynghlwm yn ei gilydd, rhaid gwahaniaethu'n glir rhwng cenedl a gwladwriaeth.

Gwelir mor fynych y defnyddia'r Hen Destament yr ymadrodd "brenhinoedd y cenhedloedd" (e.e.

Gwaith papur fyddai hynny yn fynych - llenwi ffurflenni, llunio pwt o epistol Undebol, darllen y newyddiadur o bosib.

Y mae ei gamgymeriadau, meddai, 'yn difwyno llyfr hanes sydd, mewn cyfeiriadau eraill, yn gampus.' Y mae David Powel yntau yn cydnabod bod peth sail i'r amheuon ynghylch bodolaeth Arthur, un o gonglfeini'r hanes Brytanaidd, yn ogymaint a'i fod wedi'i gymysgu a 'ffug-chwedlau' a 'phroffwydoliaethau ynfyd Myrddin', ond eto i gyd, deil yn gadarn ei gred yng ngwirionedd sylfaenol yr hanes: 'y mae'n glir nid yn unig wrth y llu hen gofebau sydd wedi cael eu henw oddi wrth Arthur, ond hefyd wrth yr hanesion Sgotaidd a Sacsonaidd ac ysgrifeniadau'r mwyaf dysgedig ymhlith amddiffynwyr yr hanes hwn, fod yr Arthur hwnnw wedi bod yn frenin ar Brydain, yn ddyn amlwg ei glod mewn rhyfel, ac iddo'n fynych fod yn fuddugoliaethus ar ei elynion trwy ei gampau tra rhagorol'.

Cynhwysodd yn ei lyfr ddetholiad o'r ohebiaeth a fu rhyngddo a Lhwyd a'i holai'n fynych ynghylch ystyr a tharddiad enwau priod Cymraeg, ond rhaid cyfaddef, er bod Rowlands yn hyddysg yn namcaniaethau ieithyddol ei ddydd a'i fod yn rhannu holl ddiddordebau eang Lhwyd na ddeallasai ef arwyddocad dull gwyddonol ei gyfaill o weithio.