Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fynydd

fynydd

Clywais ddweud y bu hwn yn fynydd-tanllyd unwaith a bod ei greigiau lliwgar yn profi hynny.

Daeth Cwm Rhondda o'r golwg a'r ddau fynydd cyntaf i mi gofio eu gwld erioed, sef Penpych a Moel Cadwgan.

Yr oedd i'w glywed ym mhobman, mewn tŷ a siop, ar fynydd ac ar draeth, nes o'r diwedd i fasnachwyr llygadog weld cyfle i farchnata'r setiau bach i'w rhoi mewn poced a'u gwifrau'n cysylltu i gyrn ysbwng am y clustiau nes bod y gwrandawyr yn edrych fel pe baen nhw yn rhan o ryw 'dyrfa lonydd lan' a hanner gwen ar eu hwynebau a golau byd arall yn eu llygaid.

Dychwelodd adref i Fynydd Mwyn, troi llofft allan yn stiwdio, ac yno y bu yn paentio am y chwarter canrif nesaf.

Welais i erioed iâr-fynydd ar yr ucheldiroedd hynny.

gweddi%ais am gael bod yn un o'r merlod ar fynydd yr oerfa am byth byddai'n andros o oer yn y gaea wrth gwrs meddai Jo gan chwerthin rhyfedd bod ei lais y munud hwnnw fel cloch

'Dwi'n saff i ddweud 'dwi'n meddwl, mai o blith y gwþr sydd â'u gwreiddiau yn nhir Llanfechell ar Ynys Môn y mae'r un a gafodd y dylanwad mwyaf ar gwrs y byd llynedd - Mr Tristan Garel-Jones (mi fentra i y daw llythyr gyda throad y post yn cynnig ymgeisydd mwy teilwng - oedd hen nain Boutros Bourtos Ghali yn dod o Fynydd Mechell tybed?).

Darn o fynydd yn ymyl Pumlumon oedd Clwbyn y Glaw ac os oedd hwn yn weladwy roedd yn arwydd sicr o law.

Mae 11 o ddisgyblion blwyddyn 12 YSGOL GYFUN LLANHARI wrthi'n trefnu alldaith i Forocco, lle y bwriadwn ddringo fynydd ucha'r wlad.

Mae 'Gyda'r Nos Ar O^l Glaw' yn enghraifft ardderchog: yr awyr a'r tir, heb bobl nac adeilad yn y golwg, yn llawn symud ac awyrgylch; yr haul yn torri trwy dduwch cwmwl sydd fel talp o fynydd ar y gorwel.

b Prif ddigwyddiad hanes Israel ar ôl y waredigaeth o'r Aifft oedd y Cyfamod ar fynydd Sinai.

Pan ddechreuodd ei chanu dilynodd holl blant y dref ef a diflannu i mewn i fynydd.

Iesu ydyw fy Nghreawdwr -Creawdwr uffern, dae'r a ne' Y cwbl hefyd oll a wnaethpwyd Er gogoniant iddo Fe; Ynddo'r cyfan sydd yn sefyll, Ei fysedd yn eu cynal sy; Fy enaid, dyma'r Un a hoeliwyd Draw ar fynydd Calfari.

Edrychwch yn ôl i gyfeiriad Pen-yr-ole-wen a throwch yn araf yn eich unfan draw at y Tryfan, "llofrudd o fynydd" chwedl Gwilym R Jones, heibio dannedd y Gribin at unigeddau'r Glyderau a'r Garn.

Wedi clirio wyneb yr hen fynydd o'r cerrig rhydd roedd yn rhaid cael cynllun i dorri'r graig, ac hefyd rhyw fath o le gwastad fel y medrai'r dynion weithio'r cerrig.

Yna dechreuodd myneich Abaty Dore, dros y ffin yn Swydd Henffordd, gadw defaid ar Fynydd Epynt ar gyfer y masnach gwlân.

"Dwi wrth fy modd beth bynnag yn gweithio efo pobl ifanc," meddai'r ferch sy'n frodor o Fynydd Hiraethog yng Nghlwyd ond sydd bellach wedi hen ymgartrefu yn Harlech.

Mae'r ddwy ohonynt yn enethod lleol, sef Enid Parsons o Fethesda a Kaeli Williams o Fynydd Llandygâi.

Mae olion sefydliad llawer cynharach na'r pentref ar fynydd Yr Eifl, y tu cefn i Lanaelhaearn.

Gwelai Fynydd Troed unwaith eto a defaid Trefeca megis blodau bychain yn britho'i lethrau.

'Does dim mynyddoedd ffordd hyn.' 'O,' meddai'r plant i gyd, 'ry'n ni bob amser yn cael marc ychwanegol os rhown ni fynydd i mewn.' Faint sy'n cofio mwyach amdano yn nyddiau'r Coleg?

Bu'r Comisiwn Coedwigaeth yn plannu gwinllannoedd bytholwyrdd ac anniddorol ar Fynydd y Rhiw a Mynydd Cefnamwlch ac ambell i safle ddiffaith arall.

Llithrodd cadno ar hyd y llwybr defaid a groesai Fynydd y Glog gan beri cyffro sydyn yn y ddiadell wasgaredig, ond ni chymerodd ef yr un sylw ohonynt hwy.

Rhywle mewn ystafell ddirgel yn y Swyddfa Ryfel yn Llundain bu dynion yn gwyro uwch map o fynydd-dir Cymru, ac wedi astudio'r tirwedd a chyfrif erwau, daethpwyd i benderfyniad.

Yno, dim ond rhyw set ffilm o fynydd a wahanai ogledd a de, ac eisoes ynghanol y bore ysgubai afalansau cyson gannoedd o drodfeddi i lawr y pared gogleddol at lasier Porchabella.

Enillodd Taro Naw y wobr am y rhaglen newyddion a materion cyfoes orau yn yr Wyl Ffilm a Theledu Celtaidd gydag adroddiad teimladwy ar deulu o fferm fynydd Gymreig a orfodwyd i ymfudo i Ganada oherwydd yr argyfwng amaethyddol yng Nghymru.

Rhennir y plwyf bron yn ddwy adran gydradd o ran maint gan afon Wyre sy'n rhedeg o Fynydd Bach drwy Lledrod a Llangwyryfon i'r môr yn Llanrhystud; mae i honno ei changhennau a'i nentydd mân, ac y mae'n disgyn fil o droedfeddi o'i tharddell i'r môr; am hynny mae hi'n codi'n wyllt ar ôl glaw ac yn gostwng yr un mor sydyn pan ddaw hindda.