Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fyr

fyr

Tueddant i fod yn anwleidyddol, ond nid ydynt yn fyr o leisio safbwynt ar faterion dadleuol, nac o ddarparu arweiniad i'r gymuned pan fo angen hynny.

Os yw'r grug yn blodeuo yn Awst, bydd yr hydref yn fyr a'r gaeaf yn gynnar.

Dyna pam y penderfynwyd ar unedau hyfforddiant mewn swydd cymharol fyr yn hytrach na llyfr.

Yn fyr, felly, beth sy'n esbonio coelion gwerin ein cyndadau a pharhad llawer o'r coelion hyn heddiw?

Ni roddir ystadegau ar wahân am y ddau ryw, ond mae'n amlwg mai dim ond cyfnod cymharol fyr a dreuliai'r merched yn yr ysgol.

A rhoi'r peth yn fyr ac yn fras, awgrym Shelley ydyw fod y meddwl creadigol ar adegau'n cael hwb i weld yn amgenach nag arfer a hwb i fynegi'r weledigaeth yn amgenach nag arfer.

Yn anffodus bun rhaid i Geraint Roberts ai Fand ohirio ei ymddangosiad yn yr Wyl eleni ac ar fyr rybudd daeth Bedwyr Hughes i'r adwy.

Ymddiheuraf fod y rhybudd yn fyr, ond bu'r ffurflenni'n hwyr iawn yn dod i law eleni.

Roedd ei du mewn yn troi, ei anadl yn fyr a hithau'n ei gusanu'n galetach a chaletach.

"Yn Llangolwyn yma!" meddai, yn wen o glust i glust, ac yn fyr ei hanadl.

WS Owen, Cricieth, yn rhoi sgwrs ar Seicoleg ac yn ceisio egluro peth mor fyr yw breuddwyd er i ni feddwl ein bod wedi breuddwydio drwy'r nos.

Caiff dyletswyddau y Cyngor Darlledu eu rhestru yn Siartr y BBC. Yn fyr, maent yn cynnwys: sefydlu a monitror farn gyhoeddus am raglenni a gwasanaethau drwy ymchwil cynulleidfa; cynghorir BBC ar sut mae'r amcanion yn adlewyrchu buddiannau Cymru; cynorthwyor Gorfforaeth i lunio amcanion, eu monitro a helpur gwaith o ddosrannu cyllid ar gyfer rhaglenni a gwasanaethau o fewn cyllideb gyffredinol Cymru; cyflwyno barn i'r BBC os oes newid arwyddocaol yn sail adnoddur Gorfforaeth; gwneud yn siwr fod unrhyw sylwadau, cynigion a chwynion a wneir gan gynulleidfaoedd yng Nghymru yn cael eu trin yn addas; adolygu a mynegi barn am raglenni â gynhyrchir gan BBC Cymru fel rhan o'r Adolygiad Perfformiad Blynyddol; gwneud yn siwr fod anghenion talwyr y ffi drwydded yn cael eu diwallu yn gyffredinol; gwneud sylwadau ar y cyd-destun cystadleuol a gwleidyddol yng Nghymru i'r graddau y maen effeithio ar raglenni a gwasanaethau BBC Cymru.

Gan RT Jenkins y gwelais un o'r paragraffau hyfrytaf o fyr-foliant i werth diwylliadol y Beibl.

Beth fu'n gyfrifol am y fath newid mewn cyfnod mor fyr o'r Sioe Sir ym Medi i'r prawf cenedlaethol yn Ebrill?

Dyna'r dasg nesa.' Yr oedd ei frawddegau mor fyr â'i gamau, a'r geiriau'n cael eu poeri allan fel pe bai ei larings yn beiriant moto beic.

Dyma'n fyr sut y ffurfiwyd y gwahanol grwpiau.

Anodd deall sut y bu i hyfforddwr a fu mor eang ei weledigaeth ym mhopeth arall fod mor fyr ei olwg yn y mater hwn.

"Sgin i ddim amsar i gyboli hefo chdi," meddai hwnnw wrtho'n fyr ei amynedd.

I bechadur fel fi sy'n disgyn yn fyr iawn o gael deg allan o ddeg, mae hyn yn newyddion da iawn.

Ar fyr rybudd - pum awr yn wir - daeth y ddwy chwaer o Beulah atom ym mis Mawrth.

Yn y Rhagarweiniad trafodir yn fyr y dosbarthau gwahanol mewn Ieithyddiath : (i) Ieithyddiaeth Gyffredinol neu Ddamcaniaethol, yn gofyn cwestiynau cyffredinol, megis, beth yw iaith?; sut y mae iaith yn gweithio?; pa elfennau sy'n gyffredin i bob iaith?

Dyna'n fyr orffennol Cymru i mi.

Felly yn yr erthygl hon fe soniwn yn fyr am rai datblygiadau yn y meysydd hyn.

Doedd bosib fod Emyr yn credu ei bod hi wedi ei adael go iawn, ei adael am byth, jyst fel'na, ar fyr rybudd?

Dyma yn fyr beth yw ein bwriad ni yng Nghymdeithas Gymraeg Cambrian Caergaint.

wneud i chi deimlo ychydig yn brin o anadl ond ni ddylech fod yn fyr o anadl.

Mae'r haf mor fyr ei anadl.

Rhy fyr o amser?

Lle'r oedd Emli'n fyr ac yn dew, yr oedd hon yn dal ac yn denau; os oedd dwyfron Wmli'n llawn ac yn amlwg, prin y gwyddech chi bod gan y llall fronnau o gwbl; lle'r oedd Emli'n bendant ei cherddediad a phenderfynol yr olwg arni, edrychai'r llall yn swil a diymhongar a di-ddweud.

Gorfod ymarfer bob wythnos, mynd ar wyliadwriaeth un noson o bob wyth a bod yn barod i droi allan ar fyr rybudd.

Roedd Gareth Lloyd yn chwech ar hugain oed, fodfedd yn fyr o'r chwe troedfedd traddodiadol, ond nid angenrheidiol, yr heddlu, du ei wallt ond golau, os nad gwelw, ei wynepryd.

Dim ond ryw hanner awr barodd y sesiwn y tu ôl i ddrysau cauedig a roedden nhw'n falch o'i chadw'n syml ac yn fyr.

Yn y lle cyntaf, ni all model statig, diamser, ymdrin o gwbl ag un o'r problemau ymarferol pwysicaf sy'n wynebu pob pennwr polisi%au, sef problem amseru; ac yn yr ail le, yn groes i dybiaeth (vi), nid ydyw gallu cynhyrchu'r economi yn aros yn ei unfan hyd yn oed dros gyfnod cymharol fyr.

O gychwyn a'r safbwynt hwn, cam hawdd oedd datblygu system o nodau tymor-byr, y naill yn adeiladu ar sail yr un blaenorol, a phob un yn gyraeddadwy ar ôl cyfnod cymharol fyr o astudiaeth, a allai amrywio o ran hyd, adnoddau, gallu'r dysgwr, etc.

Fel rheol chi yw'r arwydd cynta i ddweud eich meddwl, ond rydych chi'n rhyfedd o dawedog yr wythnos hon, yn fyr eich tymer ac yn byw ar eich nerfau.

Arferai gario oriawr â larwm arni ac os digwyddai'r pregethwr fod yn un hirwynt ni fyddai'r oriawr yn fyr o'i atgoffa.

Ar wahân i Ystorya Trystan, sydd yn bryfoclyd o fyr ac yn anodd ei ddyddio, y cwbl sydd gennym yw'r cyfeiriadau yn y Trioedd a chan y beirdd, cyfeiriadau sydd, oherwydd eu cyd-destun, yn anorfod yn gwta iawn, er eu bod yn awgrymu fod stori fanylach y tu ôl iddynt, stori a fyddai'n gyfarwydd i'r bardd a'i gynulleidfa.

Rhoes ei stamp yn drwm ar y cylchgrawn mewn dwy ffordd, trwy fynnu cyfraniadau cymharol fyr, bywiog, graenus (cywirai a chwtogai'n gall), a thrwy ddenu awduron ifainc i gyhoeddi ynddo.

Trychinebau.' 'Trychinebau o law dyn a natur fel ei gilydd.' 'Ond sut gallsai pethau ddirywio mewn amser mor fyr ag oes dyn?' 'Sut gallsai pethau gynyddu o fewn yr un terfynau amser yn ystod y ganrif flaenorol?' Synnodd Mathew at rym ei ddadl.

Yn fyr, y broblem ydi hyn: mae rhywun neu rywbeth yn dwyn bwyd o'r gegin.

Daeth cymydog i'r drws ac meddai â'i anadl yn fyr o frysio yma, "Mae dy adwy isaf yn agored cofia ac mae'r defaid oddi yma i Pen Llyn acw ac yn y ffarm arall." Gellwch ddychmygu'r llifeiriant geiriau a ddaeth yn sgîl y sylw, "Pwy sy'n gyfrifol am hyn tybed?" Yn sydyn clywem sŵn traed yn llusgo am y t^y.

Morris yn barod i symud yno o Sylhet am gyfnod mor fyr â chwe mis; y drwg oedd bod Pengwern yn gohirio'i ymadawiad nes bod trefniant pendant wedi ei wneud i ofalu am ei orsaf.

Mewn cyfnod gweddol fyr, mae gwyddoniaeth wedi rhannu'r byd yn ddau.

cafodd williams gryn drafferth i ddeall stori 'r bechgyn gan mor fyr o wynt oeddynt, ond synhwyrai fod rhywbeth mawr wedi digwydd, ac yn raddol sylweddolodd fod ganddo, o bosibl, drychineb ar ei ddwylo ddwylo pwy ydi 'r ffred 'ma?

Yn fyr, roedd e'n gadel pob dime (ar ol y deg mil) i'w wraig yn ddiamod.

Roedd yn brofiad rhyfedd iawn - edrych allan o ffenest siop a gweld yr holl wynebau yn edrych nôl ata'i!' Pan alwyd cynrychiolydd y Groes Goch i Dohonan ar fyr rybudd, bu'n rhaid i Aled ddal yr awennau, yn trefnu lle diogel i gadw'r holl lori%au oedd yn cario nwyddau ac i oruchwylio unrhyw lwythi nwyddau eraill oedd yn cyrraedd yr ardal.

Caniatewch imi yn awr, er mwyn cyfiawnhau fy safbwynt, drafod yn fyr un mater technegol eithaf rhwydd.

Un tro roedd tîm Caernarfon braidd yn fyr a bu'n rhaid iddynt gael benthyg chwaraewr gennym ni.

Ac ar ei waethaf sylweddolodd iddo ar ambell egwyl ddistaw fod yn gweddio'n fyr ac yn gryno am gael y cyfle, y fraint ysbrydol, bron, o ddileu'r ymosodiadau gwaedlyd hyn.

Ambell dro byddai un o'r hogiau'n fyr o arian ac yn gofyn iddi newid siec.

Ac maen ymddangos mair unig un oedd wedi ei waradwyddo gan y canlyniad oedd John Toshack - a diolch i'r drefn doedd o ddim yn fyr o ddweud hynny.

Er bod ei lais yn ysgafn a'i anadl braidd yn fyr, fe glywodd pawb bob un gair yn glir.