Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fyrder

fyrder

'Roedd yn orfodol gweithredu prosesau gorfodi yn erbyn datblygu nas awdurdodwyd yn effeithiol ac ar fyrder er mwyn i reolaeth cynllunio fod yn effeithiol.

Yn ei ymateb i'r adroddiad Cymraeg nododd y pwyllgor nifer o bynciau y byddai'n briodol iddo eu harchwilio a datblygu polisiau arnynt ar fyrder.

Oni welir newid mawr yn y sefyllfa, a hynny ar fyrder, ni fydd cymdeithasau naturiool Cymraeg yn bod o fewn 30 mlynedd.

Gwelodd fod yr epigram Groeg yn ymddangos yn debyg i'r englyn Cymraeg mewn sawl ffordd - o ran ei arddull, ei fyrder a'i addasrwydd at wahanol destunau a swyddogaethau llenyddol a chymdeithasol, a hyd yn oed o ran mesur.

Yr ydym yn gadael rhigolau plaid am ein bod o'r farn mai mater tyngedfennol o bwys mawr yw sicrhau hunan lywodraeth ar fyrder" Dyna osod y pwnc yn ei le, ynghanol cymeradwyaeth frwdfrydig.

Rhaid i'r Cynulliad bwyso ar fyrder am Ddeddf Iaith 2000 i sicrhau y bydd y Gymraeg yn goroesi am fil o flynyddoedd eto.

Galwn ar y Cynulliad Cenedlaethol i ymateb ar fyrder i'r bygythiad sy'n wynebu ysgolion gwledig Cymru a chreu strategaeth gadarnhaol newydd a fydd yn diogelu eu dyfodol.

A fedrwn ni yn awr ddisgwyl gan Charles, pan ddaw (os daw) yn Frenin Cymru, y bydd, ar fyrder, yn rhoi Pardwn Brenhinol - o barch coffadwriaeth - i Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams?

Fe'u rhoed i hongian yn y granar ond drannoeth yr oedd y lle'n drewi yn y modd mwyaf dychrynllyd a bu'n rhaid eu claddu ar fyrder.

Mae yma fygythiad difrifol i'r tiriogaethau naturiol Cymraeg eu hiaith a rhaid wrth ymateb ar fyrder.

Mae aelodau'r Cyngor yn dal i aros am benderfyniad boddhaol ar faterion cyllidol sy'n ymwneud â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac maent yn ceisio cael eglurhad ar fyrder.

Mae angen i'r BBC ddatblygu camau nesaf y broses o drosglwyddo BBC Radio Wales i FM ar fyrder, i'w wneud yn fwy cystadleuol, ac o ran radio digidol, gwna'r Cyngor bopeth posibl i gefnogi nod pendant BBC Darlledu o ddarparu BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru digidol ar yr un pryd â fersiynau digidol gwasanaethau rhwydwaith y BBC.

Mae aelodau'r Cyngor yn parhau i aros am benderfyniad boddhaol ar y materion cyllidol hyn ac mae'n ceisio cael eglurhad ar fyrder.