Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fysedd

fysedd

Roedd yn gyfarwydd â llenyddiaeth glasurol Gymraeg a Saesneg, ac roedd y Beibl i gyd ar flaenau'i fysedd.

'Dydw i ddim yn dweud.' 'Pwy sy'n dy licio di, 'ta?' 'Wn i ddim.' 'Pwy sy'n caru dy wallt hir tywyll ac yn ysu am gribinio ei fysedd drwyddo?...Bertie?' Chwarddodd Bigw yn bryfoclyd.

Gwenodd ei daid wrth iddo redeg ei fysedd yn ysgafn hyd clawr y llyfr.

Teimlodd fysedd ei fam yn gwasgu, gwasgu ar ei fraich.

Cwpanodd ei fysedd amdani ac ar unwaith teimlodd drawiad o iâ ar hyd ei fraich.

Yn wyneb y dehongliad "treisgar" a roddai rhai pobl barchus ar dân Penyberth, yr oedd e'n tybio mai da fyddai pwysleisio'n gyhoeddus mai plaid gyfansoddiadol a heddychol oedd y Blaid; ond yn ôl y cof sydd gennyf i, nid oedd e'n sicr mai doeth fyddai codi'r mater i'r gwynt yn y Gynhadledd: tebyg ei fod yn ofni yr ai'n ddadl fawr ar y cynnig, a hynny'n fel ar fysedd y collfeirniaid o'r tu allan.

Taenodd ei fysedd dros ei grudd ac yna teimlodd ei gwefusau yn cyffwrdd ei ên ac yna'n dod o hyd i'w wefusau ef.

Mae pethau'n dechrau torri lawr rhyngon ni - elli di ddim gwadu hynny - a wela'i ddim sut y gall gadael i'n cariad ni farw gyfrannu mewn unrhyw ffordd at wneud iawn am farwolaeth Heledd." Rhedodd Marc ei fysedd drwy ei wallt du, cyrliog a dechrau cerdded yn ol ac ymlaen ar draws yr ystafell.

Gwasgodd ei fysedd yn ddwrn.

Sythodd Michael ei fysedd ac edrychodd allan drwy'r ffenestr.

Parhaodd ei feddwl a'i gof yn iraidd hyd y diwedd, a daliodd i daro'i deipiadur bach â'i fysedd diwyd, gan lunio ambell englyn a chân, neu bwt o lythyr cynnes i'w ffrindiau.

Trodd ei gwrthwynebiad yn sterics, a oedd yn fÚl ar fysedd y wasg.

Os haul yw pob rhyw seren sy'n gwibio yn y ne' Os cylch y rhain mae bydoedd, a lloerau'n cadw eu lle, Od oes trigolion ynddynt, neu ynte nid oes un, Y cwbl oll a grewyd gan fysedd Mab y Dyn.

Ni fendithiwyd yr un garddwr erioed yn reddfol â dewiniaeth yr hen gredo am "fysedd gwyrdd".

Iesu ydyw fy Nghreawdwr -Creawdwr uffern, dae'r a ne' Y cwbl hefyd oll a wnaethpwyd Er gogoniant iddo Fe; Ynddo'r cyfan sydd yn sefyll, Ei fysedd yn eu cynal sy; Fy enaid, dyma'r Un a hoeliwyd Draw ar fynydd Calfari.

Nid yw'r rhain ymhlith y pethau y gall y gwyddonydd eu trin â'i fysedd, na'u gweld â'i lygaid.

Ar hynny hyrddiodd ei hun arnaf fel ci a'r ennyd nesaf roedden ni'n dau yn ymdrybaeddu yn llwch yr iard, fy llaw dde fel crafanc yn tynnu yn ei wallt, a'i fysedd yntau'n bodio fy llygaid, a chledr ei law yn taro a phwyso nes bod y gwaed yn chwythu allan o'm trwyn.

Ac wrth i'r Rhaglaw wasgu llau yng ngwallt y Priodor: meddyliodd am y pen cymhenbwll oedd ganddo dan ei fysedd.

Chwarddodd wrth deimlo'r tethi'n caledi o dan ei fysedd.

Amseriad a chelfyddyd y garddwr yn hytrach na dewiniaeth unrhyw "fysedd gwyrdd" a dry bob ymgais yn llwyddiant.

Gwthiodd Rod fysedd i'w wyneb.

Byddai'r anhrefn amaturaidd yn fêl ar ei fysedd, ac yn gyfle iddo sôn yn sbeitlyd am ymdrechion bach Gwyn i ddifyrru cynulleidfa.

Gwelwodd, ond llwyddodd i wenu gwên fenthyg tra chwaraeai ei fysedd yn ddi-baid â'r beiro arian a'r pad ysgrifennu oedd o'i flaen ar y ddesg.

Fydd o byth chwaith yn gwthio'i fysedd dan y bondoeau ac yn codi'r toeau fel codi caead blwch.