Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gadair

gadair

Ar unwaith distawodd y lleisiau fel swits Hwfer yn cael ei ddiffodd ac ar ol eiilad neu ddwy clywais gadair yn cael ei symud.

Un arall o'r cystadleuwyr aflwyddiannus oedd Dewi Emrys, a dyma'r tro cyntaf iddo gystadlu am y Gadair, mae'n debyg.

Roedd hyn yn gofyn am symudiad corfforol chwim, a chefais fy hun yn rhydd o'm trallod fel ag yr oedd y gadair nesa'n cyrraedd.

Dylid bod wedi atal y Gadair yn hytrach na gadael i gynganeddwr carbwl ac anystwyth fel D. Cledlyn Davies ennill.

Yr ail am y Gadair yn y gystadleuaeth drychinebus hon oedd J. Machreth Rees, sef Prifarddbuddugol y Gadair ym 1904.

Fyddai Roci byth yn crwydro o'i gynefin heb gwmni ei ast ffyddlon, ac aeth a hi i mewn i dy'r cymydog a'i sodro wrth ei gadair o flaen y tan.

"Wel, wel," meddwn i wrthyf fy hun, yn cymryd y gadair gyferbyn, "mae rhyw brofedigaeth lem wedi ei gyfarfod." Ofnais y gwaethaf.

Mae un cymal yn y rheolau sefydlog yma yn datgan na ddvlai yr un aelod gael ei ethol i Gadair y Cyngor am yr ail dro tra bod aelod arall heb fod yn y Gadair o gwbl.

a dyfod ac ambell un i'r wybodaeth ohoni yw un o brif amcanion y gadair y dydd heddyw'.

Y Gadair.

Deallwn y daw'r papur allan mor sych ag arfer yr wythnos nesaf.' 'A rwan, to business,' meddai'r Golygydd, gan eistedd eto yn ei gadair.

Dyma'r tro cyntaf erioed i gerdd vers libre cynganeddol ennill y Gadair.

Eistedda yn ei gadair a'i ben yn ei blu.

Sylwyd eisoes mor effro oedd i broblemau a digwyddiadau cyfoes, a rhoes arweiniad sicr o'i gadair olygyddol i'w fudiad ar gwestiynau llosg a phwysig ym meysydd gwleidyddiaeth, cymdeithas a chrefydd.

Wil yma am oriau yn canu grwndi - mae'n hoff iawn o gadair 'Nhad.

Mae'r Gadair yn holl bwysig a ddylai hi ddim cael ei defnyddio i hyrwyddo amcanion a mympwyon cylch bach o aelodau.

Estyn gadair, tyrd at y bwrdd a chyrraedd at y bwyd a'r ddiod.

Bu mwy nag un yn y Gadair Goch yn ystod y flwyddyn ddiwethaf heb ddyfod ohoni'n fyw.

Yma, mewn man gwag yn cynnwys fflagiau siâp hecsagon, taenwyd hen ryg Twrcaidd coch ar lawr ac ar y ryg roedd cadair olwyn, ac yn y gadair olwyn roedd gŵr oedrannus, yn amlwg yn darfod, yn ein gwylio ni'n dod gyda llygaid du y diffoddwyd yr holl dân ynddynt ers amser maith, ond a gynhwysai o hyd uniongyrchedd glo-ddu y llygaid yn y darlun a grogai uwchben y silff ben tân yn y cyntedd.

Wedi cyrraedd y Wernddu taflodd ei hun i gadair freichiau, ac adroddodd, mewn cyn lleied o eiriau ag a allai, hanes yr ymgyrch wrth ei chwaer Gwen.

Cerddi eraill: Waldo Williams oedd yr ail am y Gadair, ac fe'i ceryddwyd am ei frys a'i flerwch.

'Roedd Edward yn bwyta 'i ginio fel arfer, ac yn siarad gyda'r gath ar fraich ei gadair bob yn ail.

Rhoddwyd Dei i eistedd ar gadair fregus yng nghanol y garej, a cherddodd Bilo o'i gwmpas gan edrych arno fel pe bai'n edrych ar fuwch cyn ei phrynu.

Os yw hyn i'w gyflawni rhaid i'r Gadair hawlio parch yr holl aelodau a'r gymdeithas gyfan, bydd hynny yn ei dro yn caniat~ i'r person sydd ynddi eistedd yn gyfforddus ac yn eofn ynddi.

Roedd e'n gorwedd â'i wyneb i waered ac ar agor ar y llawr o dan y gadair.

Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith a dyfarnwyd iddo radd er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.

"Mi wnawn ni sgio i lawr at y lifft gadair acw ac wedyn cewch fynd lawr arni hi.

cododd e o'i gadair a mynd at y ffenestr.

Trafferthion parthed y Gadair ddigwyddodd yn y cyfarfod blynyddol yn ddiweddar.

O beth i beth daeth JR i eistedd i'r gadair freichiau, roedd pob gewyn yn ei gorff yn frau gan flinder.

Mewn buggy neu gadair olwyn fechan (push-chair) y caria mamau eu plant heddiw, neu mewn cwd ar y cefn neu wrth y fron.

Bwrdd, ambell gadair, cwpwrdd a gwely, un cul.

Am 1 o'r gloch Dydd Mercher Rhagfyr 1af ar stepen drws y Cynulliad Cenedlaethol ei hun bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio ei dogfen ddiweddaraf Arwain o'r Gadair.

Eisteddai mewn cadair fel hen gadair deintydd a chlampiau cryf am ei draed a'i freichiau.

Wedyn ciwio am y lifft gadair a phoeni braidd, sut i fynd arni.

Nid stori o'r bwthyn i'r palas, efallai, ond fe ddringodd Henry Jones o stol gweithdy crydd i gadair athroniaeth ym Mhrifysgol Glasgow.

Mae'r Athro Joseph yn gyfrifol am Gadair Ddaearyddiaeth yn y Coleg ac yn fab i Mr a Mrs Danny Joseph, Station St.

Breuddwyd Hedd Wyn oedd ennill y Gadair ond bu raid iddo frwydro yn erbyn nifer o anawsterau.

Awdl Idwal Lloyd a ffafriai Gwyn Thomas, awdl a fu'n aflwyddiannus yng nghystadleuaeth y Gadair ym 1957, 1959 a 1962.

Williams Parry, ennill gyda'i awdl ' Yr Haf' ym Mae Colwyn ddwy flynedd ynghynt, dyma un arall o'r to ifanc cyffrous newydd yn ennill ei gadair gyntaf ac yn creu hanes.

Bob nos ers tri mis bron ar ol iddi dywyllu, ac wedi iddo ef wneud ei bererindod fach olaf i weld ymhle'r oedd y creaduriaid ac i sicrhau fod pob drws a phob giat a oedd i fod i'w gau wedi'i gau, fe eisteddai yn ei gadair.

Cyn iddo fynd i Gadair y Cyngor bu am ryw bum mlynedd yn Gadeirydd y Pwyllgor Llenyddiaeth, yn gofalu am raglen gyhoeddi'r Eisteddfod ac yn gwirio a chadarnhau ei thestunau llên flwyddyn ar ôl blwyddyn gan gadw'r ddysgl yn wastad rhwng yr amryfal is-bwyllgorau lleol a'r canol.

'Barod, sarjant?' Nodiodd Gareth a chydio yn ei got fawr o gefn y gadair a'i dilyn at y drws.

Pregeth yn hyrddio'r meddwyn i ganol tragwyddol dân a brwmstan oedd y gyntaf, a chan fod aroglau'r ddiod felltigedig, y taranai'r diwygiwr yn ei herbyn, yn halogi'r ystafell ac yn gryf ar bob awel chwyrnol o'r gadair gyferbyn ag ef, teimlai Dan yn anghysurus wrth ei darllen.

Roedd y lifft gadair nesa' ar ei ffordd i fyny ac yn beryg o agos i mi.

Os ydi cynhyrchydd yn dweud 'Dwi isio cadair yn fama', rydach chi'n deud 'Pam?' Mae o neu hi'n deud wrthoch chi; iawn, dyma'r fath o gadair wnawn ni'i rhoi - oherwydd mae hi o fewn yr iaith weledol o'n i'n sôn amdani gynnau...

"Fedra i ddim bwyta yr un briwsionyn arall," meddai'r cardotyn ymhen hir a hwyr, gan wthio'i gadair oddi wrth y bwrdd.

(Os darllenir y llinellau hyn gan rywun, diamau yr ystyrir fi yn ffôl yn cofnodi pethau mor wirion.) Yr oeddwn yn gobeithio yr eisteddasai Dafydd yn hen gadair ddwyfraich Abel; ond ni wnaeth hynny, a chymerodd y gadair yr arferai efe eistedd arni pan oedd Abel yn fyw.

Machreth Rees, sef Prifarddbuddugol y Gadair ym 1904.

Ei dyddiad newydd yw Gorffennaf 12 -14, 2002 gyda dyddiadau cau cystadlaethau'r Gadair, y Goron ac yn y blaen yn symud ymlaen flwyddyn.

cododd lopez o'i gadair a dal braich debra.

Yr oedd D. J. Davies, Prifardd y Gadair ym 1932, hefyd wedi cystadlu.

Ond ers tri mis, bron, heb ddangos na digalondid ymosodol na dicter na phrudd-der ymwinglyd, fe eisteddai'n dawel yn ei gadair gornel fel hyn a myfyrio yng nghanol y mwg.

O holl amrywiaeth taclau'r gwareiddiad newydd, o raselydd i beiriannau golchi, mae'n debyg mai'r teledu ddaeth a'r chwyldro i'w anterth wrthi ganolbwynt yr aelwyd symud o'r lle tan, gyda'r gadair freichiau a'r setl a'r soffa yn gylch o'i gwmpas a phawb yn ei wynebu, i'r bocs yn y gornel, a phawb yn eistedd yn rhes a'u hochrau at y tan a'u hwynebau at y sgrin.

Gwyddwn y buasai'r teithiwr nesa' yntau'n methu dod oddiarni, neu y buaswn i'n cael fy nharo'n anymwybodol ganddo ef neu'r gadair.

Gwthiodd y bwtler gadair wiail laith yn erbyn cefn fy nghoesau ac eisteddais i lawr.

Wel, os oedd gen i ofn dod oddiar y gadair, roeddwn yn crynu wrth feddwl am yr hyn a'm gwynebai.

Dododd ei fedal a'r llun yn ôl yn ei focs, cau'r clawr ac eistedd ar y gadair â'i focs yn ei freichiau.

Ar y penderfyniad arall, yng ngeiriau JE Jones, "aeth Saunders Lewis o'r gadair .

Wedi dod yn rhydd o'r breichiau cryfion cafodd JR ei lusgo i'r gadair freichiau ger y tân a rhoddodd Laura Elin orchymyn siarp i'w mab Hywal, a eisteddai ar y stôl drithroed, yn pigo'i drwyn, i symud 'i hen betha oddi ar y bwrdd i'r gŵr bonheddig gal tamad yn 'i grombil.

Williams roi'r Gadair.

Yr ail am y Gadair oedd Tudwal Davies, Pwllheli, ac enillodd ei fab, H. Emyr Davies, y Goron yn yr un Eisteddfod.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn, 1995, yr enillodd Tudur Dylan ei Gadair Genedlaethol - gyda'i dad, fel Archdderwydd, yn ei gadeirio.

yna cofiodd hi ei bod hi wedi gadael ei bag llaw ar y gadair arall.

Rhaid i chi gael pump cadair yn lle un gadair.

Cerddi eraill: D. J. Davies, Prifardd y Gadair 1932, oedd yr ail, ac 'roedd awdl gan Dewi Emrys yn uchel yn y gystadleuaeth hefyd.

Sylwais ar Breiddyn yn eistedd yn y rhes flaen, a'i fraich dde dros gefn y gadair nesaf ato, mewn ystum gwrandawr o'r tu allan, fel petai.

Cerddi eraill: Gwyndaf, gyda cherdd vers libre cynganeddol, y tro cyntaf i gerdd o'r fath gyrraedd cystadleuaeth y Gadair, Caradog Prichard a Brinley Richards, gydag awdl ddychan ysgafn.

(WALI yn llamu o'i gadair freichiau i wynebu HEULWEN gyda'i wyneb yn llawn serch.

'Roedd y set mewn darnau - pot o flodau melyn; desg ysgol a chadair; mainc, overalls a manion eraill; côt-ddaliwr efo gwisgoedd; a basgiad fawr a dwy gadair.

Doeddwn i ddim yn mynd i godi o'r gadair fach yr eisteddwn ynddi er iddi wneud ei gorau glas i ryddhau fy nwylo oddi ar y breichiau.

Enillodd Pedrog y Gadair am awdl ddiflas hir yn nhraddodiad y ganrif flaenorol.

Cerddi eraill: Hedd Wyn oedd yr ail, ond iddo ef y dymunai J. J. Williams roi'r Gadair.

A pham nad oes merch wedi ennill y Gadair.

At hyn wrth gwrs, mae wedi cyfrannu gweithiau i antholegau, llunio nofelau a cherddi i oedolion ac ennill y gadair genedlaethol ddwywaith, yng Nglynebwy a Chaernarfon.

Dewi Emrys yn ennill ei Gadair gyntaf, ar ôl mynych gystadlu.

Cerddi eraill: Daeth Gwilym Ceri Jones (Prifardd y Gadair, 1955) yn ail am y Gadair.

Dymunai Gerallt Lloyd Owen roi'r Gadair i Emyr Lewis.

'Dwi ddim yn credu hyn o gwbl!' Taflodd Andrews ei gôt ar ei gadair â'i law rydd.

Ac mi aeth dyn y fan _'r hen gadair, yr hen gwpan, yr hen wely, a'r hen feic i ffwrdd yn y fan.

Pan aeth H. T. Edwards i'r gadair yr oedd Neuadd y Ddinas yn orlawn.

Wnaethon nhw ddim dweud mai eu rhestr Nhw oedd hi ond roedd Sam yn dweud ei bod hi'n eitha siwr mai dyna beth oedd hi.' Ar hyn tawelodd Dilwyn wrth weld Gary'n nesu tuag atynt ac yn eistedd ar y gadair wag yn ei ymyl.

Gan mai yn enw Cadair Morgannwg y cynhaliwyd yr orsedd gyntaf, sef gorsedd Llundain, priodol felly yw agor yr hanes trwy sôn yn gyntaf am orseddau cynnar y Gadair honno yn Llundain ac ym Morgannwg ei hunan.

Estynnodd ddwy gadair yn nes at y tân fel y gallent eistedd gyda'i gilydd Roedd hi'n mynd i fod yn noswyl hir iawn.

Dywedodd wrthyf ei fod wedi meddwl cystadlu am y gadair yn eisteddfod Blaenconin ar y testun 'Branwen Ferch Llŷr'.

'Roedd atal y Gadair a'r Goron yn broffwydol o feddwl fod cenhedlaeth arall ar fin cael ei haberthu ar allor Rhyfel.

Williams: Am ddwy neu dair blynedd wedi mynd i'r Gadair Gelteg...

Gwynn Jones y gadair genedlaethol ym Mangor â'i awdl enwog "Ymadawiad Arthur", ac yn yr un flwyddyn ymddangosodd erthygl gan John Morris-Jones yn Y Traethodydd, sef datganiad o gyffes ffydd lenyddol yr adfywiad.

Nid oedd haul y Tegla 'enwadol' yn machlud wrth iddo ymadael o'r Gadair ymhen y flwyddyn chwaith, oherwydd yn yr un Gymanfa fe'i dewiswyd--gan fod y flwyddyn ganlynol yn flwyddyn dathlu deucanmlwyddiant tro%edigaeth John Wesley-i siarad ar y pwnc hwnnw yng Nghymanfa'r flwyddyn ddilynol ym Mae Colwyn.

Davies, Prifardd y Gadair 1932, oedd yr ail, ac 'roedd awdl gan Dewi Emrys yn uchel yn y gystadleuaeth hefyd.

Roedd y cwbl yn dechrau troi, y ddwy lygaid almond yn troi'n gynt ac yn gynt, gan ffurfio un trobwll diwaelod a sugnai Meic o'i gadair nes ei fod yn plymio, plymio ...

Gwawriodd fore Llun, ac ar ol gosod y sgis cafwyd gorchymyn i fynd i fyny ar y lifft gadair - fesul un.

Eisteddodd Kirkley yn y gadair ar ochr arall y ddesg a'i wylio'n yfed.

Davies, Prifardd y Gadair ym 1932, hefyd wedi cystadlu.

Gwrthododd Cyngor Tref Blaenau â derbyn y cymal yma ac felly mae'r Gadair yn gogrdro rhwng cylch bach o Gynghorwyr, ac ymddengys fod y cylch yma yn mynd yn llai ac yn llai.

Mrs Nancy Thomas oedd yn y gadair a roddodd sylw i'r trip i Oriel Plas Glyn-y-Weddw.

Llithrodd y pen-teulu yn ddiymhongar i gadair y cerfiwr, a chymerth y misus ei hunan yr awenau yn y pen arall.

Alafon (Owen Griffith Owen) oedd yr ail am y Gadair.

Sarnicol a enillodd Gadair y Fenni.

Yno y bu+m innau lawer tro yn cael blas ar sgwrs gyda'r gof a'r saer athronydd hwn, un a allai fod wedi esgyn i gadair athroniaeth mewn rhyw goleg neu gilydd pe bai amgylchiadau wedi caniata/ u hynny pan oedd yn ifanc.