Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gadarnhau

gadarnhau

Ond treuliodd Herber ei huodledd i ddefnyddio hanes Penri i gadarnhau'r ymgyrch Datgysylltiad ac i gyhoeddi hefyd fod Penri 'yn un o'r gwladgarwyr penaf a fagodd Cymru erioed'.

Mae Glenn Hoddle wedi'i gadarnhau'n swyddogol fel rheolwr newydd Spurs.

Yn ychwanegol at hynny yr oeddent dros y blynyddoedd wedi llwyddo i gadarnhau eu hawliau crefyddol a dinesig mewn cyfres o ddyfarniadau ffafriol yn y llysoedd barn.

yn awr wedi gofyn i'r buddsoddwyr i gadarnhau eu bod yn fodlon buddsoddi'r arian gyda Cwmni Cig Arfon Cyf.

Mae'r Casiaid yn mynnu nad Indiaid mohonynt, ac mae edrych arnynt yn ddigon i gadarnhau hynny.

Cynhelir y Sioe yn Neuadd JP, Bangor, yn ystod mis Ebrill neu fis Mai - y dyddiad i'w gadarnhau gan Helga Morgan.

Disgwylir y bydd y trosglwyddiad yn cael ei gadarnhau er gwaethaf un broblem bwysig.

Mae Maharishi newydd gadarnhau eu bod am gymryd rhan yng Ngwyl Rhuthun ar Orffennaf 13.

Roedd Ynadon Conwy eisoes wedi gwrthod cais Mr Godfrey yn Rhagfyr 1998 ac mi gafodd hyn ei gadarnhau gan Lys y Goron Caer yn ddiweddarach.

Disgwylir i drosglwyddiad amddiffynnwr Lloegr, Rio Ferdinand o West Ham i Leeds gael ei gadarnhau yn ystod y dyddiau nesaf.

Fel y dengys hanes Cymru, ac fel y mae profiad Denmarc, Catalonia a gwledydd eraill yn ei gadarnhau, allwch chi ddim adeiladu'r Jeriwsalem newydd heb yr offer.

Galwn ar y Cynulliad i gadarnhau na fydd unrhyw ysgol yn cael ei chau nes y cynhelir adolygiad trylwyr o'r sefyllfa.

Gair i gadarnhau'r trefniadau ar gyfer y cystadlaethau uchod.

Ar un ystyr yr oedd y ffasiwn llenyddol a llenyddol-ysgolheigaidd yn Lloegr yn tueddu i gadarnahu barn llenorion a beirniad Cymru fod i Ddafydd ap Gwilym safle unigryw yn y traddodiad llenyddol Cymraeg, ond ar yr un pryd yr oedd yn tueddu i gadarnhau'r argraff o chwilio'n ddigon manwl, ddod o hyd i effeithiau dylanwadau cyfandirol arno.

Y cwbl wnaeth o gadarnhau mewn datganiad - oedd yn fawr o ddatganiad mewn gwirionedd - oedd fod trafodaethau'n cael eu cynnal ynglyn â gwerthu'r clwb.

Ac efallai oherwydd hyn, ymddengys mai tuedd oedd i'r rhan fwyaf o aelodau ifanc y Gymdeithas symud i ffwrdd nid yn unig o weithredu fel ffordd o gadarnhau eu cefnogaeth i frwydr yr iaith ond i ymbellhau oddi wrth y mudiad ei hun wrth iddynt ymbarchuso.

Bu felly am gryn flwyddyn a hanner nes i Gyngor y Gororau orchymyn Ferrar i gadarnhau Constantine yn ei swydd yn lle ceisio gwneud y gwaith ei hun.

Cafodd yr achos cynta o glwy'r traed a'r genau yn Ffrainc ei gadarnhau ddoe.

Cyd-drawodd penodiad Peate â dau ddigwyddiad ym mywyd diwylliannol Cymru a fu'n foddion nid yn unig i gadarnhau ei ddaliadau ynghylch hollbwysigrwydd cydwybod yr unigolyn ond hefyd i osod y daliadau hynny mewn cyd-destun Cymreig.

Daeth safle Scrum V, a sefydlwyd yn ystod Cwpan Rygbir Byd 1999, yn gyfleuster hynod o boblogaidd i ddilynwyr rygbi o bell ac agos, gan helpu i gadarnhau safle BBC Cymru fel cartref rygbi Cymru.

Wrth gadarnhau'r penodiad teimlad unfrydol y Pwyllgor Gwaith oedd fod swyddog rhagorol wedi cael ei benodi ar delerau rhesymol dros ben.

Dyfynnaf innau eiriau'r Crist ei hun i gadarnhau syniad J.

cytunwyd hefyd fod y das lafar yn bwysig i gadarnhau statws yr iaith gymraeg yn y cwricwlwm ac i gadarnhau pwysigrwydd gwaith llafar er mwyn cyflawni amcanion y cwricwlwm cenedlaethol cymraeg.

Daeth safle Scrum V, a sefydlwyd yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd 1999, yn gyfleuster hynod o boblogaidd i ddilynwyr rygbi o bell ac agos, gan helpu i gadarnhau safle BBC Cymru fel cartref rygbi Cymru.

Awdurdodwyd Cyfreithiwr y Cyngor i gadarnhau Gorchmynion gwyro i'r dyfodol lle na dderbynnir gwrthwynebiadau iddynt ond eu bod fel arall i adrodd yn ôl i'r Pwyllgor.