Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gadawsant

gadawsant

Pan ymadawodd y Rhufeiniaid gadawsant wacter ac ansicrwydd o'u hôl, a chyn pen dim llamodd y Pictiaid rhyfelgar yn baent i gyd dros Fur Hadrian a dechrau difrodi'r wlad.

Ond buont yn ein tŷ ni ryw dro, a gadawsant rywbeth ar eu hôl, ac y mae darllen yr hyn a sgrifenasant yn eu dwyn i gof - pwy, sut, o ba le, yr oeddynt, ac yn sgîl hynny lu o bethau eraill.

Ar ôl bwyta dyma ddychwelyd at y car i ail-gydio yn y siwrnai adref, ond pan ddaethant at y lle y gadawsant y car, nid oedd yno, ac ar ôl chwilio yn ddyfal trwy'r maes parcio a thrwy'r dref, nid oedd lliw nag arlliw o'r car yn unman.

phan welsant ar etholiad y `Rail-splitter o Illinois' [Abraham Lincoln], ys gwelid ef, fod tebygolrwydd y buasent hwy bellach yn colli llyw y peiriant o'u dwylo, gadawsant Washington mewn dicter a soriant - wedi moni: symudasant gyda'i gilydd i ganolbarth gwlad y cotwm; yna sefydlasant ym Montgomery, prifddinas y dalaith hon, a gosodasant i fyny lywodraeth fawr o'r eiddynt eu hunain, ac etholasant cotton planter o dalaith Mississippi yn ben arnynt - `yn engineer in chief' - i redeg y peiriant.

Gadawsant gapel eu cymdogion am uchel nef yr Eglwys Anglicanaidd.

Gofynnais i'r swyddogion am gael mynd i'r geudy, a gadawsant i mi fynd, gan fy nilyn gyda'u cleddyfau yn noethion at y drws (ond ni chawswn fynd pe gwybuasent pa beth oeddwn yn ei wneud yno).