Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gadawyd

gadawyd

Gadawyd Enlli wedyn am hydoedd a theimlai y byddai unrhyw beth yn well na thawelwch llethol y gell unig.

Yn fuan fe'm gadawyd mor unig â phorthmon twyllodrus.

Gadawyd yr arch yn y cyntedd tan ei blodau.

Yn wyth oed cafodd ddamwain a thorri ei glun, ond ni soniodd am y peth ar y pryd a gadawyd ef yn anabl am weddill ei oes.

Mewn boneddigeiddrwydd gadawyd i'r rhai hynaf gymryd eu heisteddle wrth y bwrdd yn gyntaf, a chafodd pedwar o'r rhai ieuengaf eu hunain heb le i eistedd, sef Harri, Ernest Griffith, a dau arall.

Ar y wal hon, ger drws unigrwydd, ers cyfnod tiriogaethol Sbaen, a'r imperialwyr a ddaeth wedyn, yn ystod oriau'r nos, yn dawel a dirgel, fel petai'n drosedd, gadawyd plant gan eu rhieni.

Daeth yr argraffwyr i ben eu defnydd hanner ffordd trwy dudalen chwech, a gadawyd y gweddill yn wag, yn lle'i defnyddio i roi hysbyseb rhad ac am ddim i'r blaid.

Gadawyd fi'n unig eto ac yn nyfnderoedd iselder ysbryd.

Mae'n debyg fod Twm Dafis wedi mynd yn ol tra oeddwn i mewn rhan arall o'r ynys, ac mae'n bosib mai'r adeg honno y gadawyd y cŷn yn y cyntedd.

Roedd Sant Mihangel yn goleg rhagorol o dda ac rydw i wedi bod yn meddwl sawl tro pam y gadawyd ysbrydegaeth allan o'i gwricwlwm.

Am resyme sy ddim ond yn wybyddus i ddewiswyr Caerdydd, gadawyd y cryfa o'u rheng flaen, Mike Knill, allan o'r tîm; felly hefyd eu ciciwr gore, y Cymro o Lambed, John Davies, a oedd eisoes wedi torri'r record am sgori pwyntie i'r Clwb.

Gadawyd yr eglwys lle roedd cynifer ohonyn nhw wedi cael eu bedyddio, wedi canu, ac wedi cyfarfod â'i gilydd yn wag.

ond wedi'r adeiladu gadawyd llynnoedd newydd - ac fe ddatblygwyd y rheiny yn eu cyfnod i'w defnyddio i hamddena.

Ond fyddai Bilo a'i fêts ddim yn clywed sŵn y moto beic, diolch am hynny; fe'i gadawyd wrth y moniwment mewn llecyn parcio o flaen y siopau, ac ar ôl cloi'r gadwen am yr olwyn flaen, cerddodd efo Cen i gyfeiriad stad o dai lle'r oedd cartref a garej Bilo.

Gadawyd fy mam ar ol ar aelwyd y Thomasiaid am fod ei thad yn ei beio hi am yr amser difrifol o galed a gawsai ei mam wrth ei geni hi.

Yn 1999 bu Llew a Nia mewn damwain car ddifrifol a gadawyd Nia yn gwbl ddiymadferth.

Buan iawn y sylweddolodd Denzil a Maureen eu bod wedi priodi am y rheswm anghywir, sef i roi cartre i Gwen, merch Gina, a gadawyd Denzil ar ei ben ei hun unwaith eto ym mis Gorffennaf 1999 pan adawodd Maureen ef.