Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gadeiryddiaeth

gadeiryddiaeth

MERCHED Y WAWR YN DATHLU: Mewn cyfarfod ym Mhenuel, dan gadeiryddiaeth miss Menai Williams fe ddathlwyd chwarter canrif sefydlu mudiad cenedlaethol Merched y Wawr.

Yr oedd Cyngor y Coleg wedi penodi Pwyllgor Amddiffyn rhag Cyrchoedd Awyr o dan gadeiryddiaeth yr Athro Ifor Williams ac aeth hwnnw ati i sicrhau nad oedd yr un llewyrch o oleuni i'w weld trwy ffenestri'r adeiladau.

Ar yr un adeg, sefydlodd Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru weithgor, dan gadeiryddiaeth yr Athro Gwyn Thomas, i'w gynghori ynghylch Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio priodol ar gyfer y Gymraeg.

Yn dilyn ei anerchiad fe geir trafodaeth o dan gadeiryddiaeth Alun Llwyd, Is Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.