Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gadwai

gadwai

Y mae 'anllywoadraeth a lladrad', meddai ymhellach, yn sicr o lygru 'hil gŵr a nerth gwâr yn ei ôl', a 'hwnnw sy'n gyfion', yn 'geidwad', yn 'gadarn', yn 'gall' ac yn ŵr 'da'r synnwyr' yng ngherddi Wiliam Llŷn, os nad hwnnw a oedd ei hyn yn benteulu a gadwai drefn ddisgybledig ar ei dy a'i dylwyth ac a estynnai gortynnau ei warchodaeth i gylch ehangach ei gymdogaeth.

Gelwais gyda'i ferch a gadwai lythyrdy Pensarn a chefais gyfle i fwrw golwg dros ei lyfrgell a phrynu'r hyn a ddymunwn.

Er enghraifft, cynghorodd Dr William Davies (a gadwai athrofa Ffrwd Fâl ger Pumsaint), John Williams, mab Brownhill, Llansadwrn, os oedd yn meddwl am weinidogaeth mewn tref fel Llanelli, y buasai yn well iddo fyned i athrofa, ond os oedd yn meddwl am weinidogaeth yn y wlad, nad oedd angen iddo fyned i athrofa o gwbl.

Trwy gyfundrefn addysg a gadwai eu gorffennol yn guddiedig oddi wrthynt, ni wyddent ddim am y cyfoeth llenydddol enfawr sydd ar gael yn Gymraeg.

Peth wmbredd yn wir o lyfrau prin o'r ddeunawfed ganrif, rhai cannoedd o farwnadau o'r un cyfnod a hen gyhoeddiadau Cymraeg diddorol y Cymreigyddion a gadwai eisteddfodau mewn tafarndai ym Merthyr, Aberdâr a Dowlais.

Yr oedd yn byw yn Chapel Street yr adeg honno, ac fe gadwai "Bopty mawr" lle y byddai gwragedd Pentraeth yn dwad i grasu bara ac arferai llawer gael eu bara yn rheolaidd yno.

Pan oeddwn i'n grwt ar Gefnbrynbrain ddeugain mlynedd yn ôl yr oedd o leiaf dri gŵr yn y pentref a gadwai filgwn, a Dai Milgwn oedd ein henw ar un ohonynt.

Ar ben y rhestr daw dwy genedl gymharol fawr, y Pwyliaid, a gollasai eu hannibyniaeth yn ddiweddar iawn, a'r Magyariaid, a gadwai elfennau o statws awtonomaidd o hyd o dan Fien.

Roedd hi'n enedigol o Nantyffyllon, yn ferch i Howell a Mary Williams a gadwai siop groser yn y pentre ac yn selogion yng Nghapel Salem.

Ie, ie, dewis ei ffeithiau, dewis ei lluniau, dewis ei phrofiadau y mae hi fel pob llenor ni fynnir ac ni ellir gwadu hynny Ond yr oedd hi heb os yn llenor gwyddonaidd iawn, yn llenor a gadwai at galendr o ddigwyddiadau y gallem, pe mynnem, eu gwirio'n hanesyddol.