Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gae

gae

Daeth yr awyren i lawr yn esmwyth gan redeg ar hyd rhyw gae.

Wrth lwc, roedd pridd y ffordd wedi sychu yng ngwres yr haul ac roedd fel gyrru trwy gae newydd ei aredig.

Ar y gorau, mae newyddiaduraeth fel cerdded trwy gae yn llawn landmines, rhai ohonyn nhw'n weddol amlwg, eraill wedi'u gosod yn ddiarwybod gan eich rhagfarnau eich hun.

Mae Penybont yn dipyn o dîm ar Gae'r Bragdy - dim ond Caerdydd sy wedi curo nhw lawr yna.

Dyma fi a Robin El, wrth ddžad adra o'r ysgol yn tynnu'u cyrc nhw, new yr oedd y lôn yn un foddfa o dar 'run fath â'r Trinidad Lake, ac yr oedd yn rhaid i drigolion y Waen fynd trosodd i gae Tai Croesion i fynd heibio.

Safai yno fel ceidwad y gol ar Gae Dafydd.

Mae'r clwb wedi cael caniatad i chwarae eu gemau cartre ble bynnag medran nhw ddod o hyd i gae tu llan i ardal y gwaharddiad.

Gae'r Gymdeithas yn bwriadu, trwy gynnal arolygon diogelwch, gwell Qweithdrefnau, hyfforddi a rhagweld synhwyrol gan reolwyr a gweithwyr i wneud cyfraniad sylweddol at atal damweiniau.

Gallwn brofi pwysigrwydd yr uned bentrefol trwy gyfeirio at nifer o enghreifftiau e.e.l. Pan unir capeli, gan gynnal gwasanaethau bob yn ail mewn gwahanol bentrefi, tuedda'r mwyafrif o'r gynulleidfa ddod bob amser o'r pentref y cynhelir y cwrdd ynddo e.e.2. Pan fydd plentyn yn cael ei symud - trwy ddewis rhieni - i ysgol pentref arall, tuedda'r plentyn golli cysylltiad cymdeithasol anffurfiol hefyd â gweddill plant y pentre e.e.3. Pan gae'r ysgol, bydd holl blant y pentre'n colli'r ymwybyddiaeth o fod yn griw y pentre wrth fynd i'r ysgol uwchradd ac felly'n colli'r ymwybyddiaeth o berthyn ar y lefel hon.

Ac yn Ail Adran Cynghrair y Nationwide, bydd Abertawe yn chwarae Brentford ar Gae'r Vetch.

Yr oedd popeth ynddi y dylid ei weld ar gae rygbi, heb yr ymgecru, yr ergydio a'r pystylad a ddigwydd yn rhy aml.

Penderfynwyd y dylid ail-chwarae'r gêm ar gae TNS.

Mae'r amaethwr gwael yn dal i feddwl pa gae i'w ddefnyddio heb son am gael y taclau i weithio.

'Fe ddwedon nhw wrthon ni ddeg diwnod yn ôl, gan fod cynifer o gemau 'da ni ar ôl 'tasan ni'n cael hyd i gae 'basan nhw'n fodlon i ni chwarae fanno.

Fe'i gwelais ar gae'r Eisteddfod ddoe.

Un bore Llun yn ystod yr Ail Ryfel Byd disgynnodd awyren fechan ar gae chwarae'r ysgol.

Ond roedd yna amheuon yr wythnos diwethaf sut gae sydd yn y stadiwm hwnnw.

Un o'r pethau a dynnodd fy sylw gyntaf wedi symud i'm cartref newydd oedd yr adeilad mawr - muriau uchel o'i gylch, a safai led dau gae oddi wrth ein tŷ ni.

Mae'n ddiddorol cofio mai wrth fynd i mofyn y gwartheg i'w godro gyda'r nos y daeth 'Mewn Dau Gae' i fodolaeth hefyd.

'Ond William Huws bach mae 'ma hogan yn hwylio i gal babi.' Fel y camai William Huws dros gamfa i gae, a'r hwch hanner o dan ei gesail, gwaeddodd y gyrrwr eilwaith.

Roedd hi'n noson ryfedd ar Gae'r Vetch neithiwr.

O fewn eiliade i ddechre'r ail hanner, bylchodd Roy Bergiers drwy amddiffyn Montreal, a hanner can llath o gae o'i flaen, a finne'n rhedeg nerth 'y nhraed wrth ei ochor yn barod i dderbyn pas pe bai angen.

Mae'n gae tair acer ar hugain ac yn codi cynhaeaf da o wair defaid bob blwyddyn.

Cafodd Penybont, sydd yn gyfartal gyda Chasnewydd a Chaerdydd ar frig y Cynghrair, fuddugoliaeth hawdd dros Cross Keys ar Gae'r Bragdy.

Neithiwr ar gae Heol Sardis fe guron nhw Glasgow, 41 - 18.

Yr oedd rhyw angladd mewn cymdogaeth wledig fel Cwm-garw y pryd hwnnw, lle'r oedd y tai yn anaml, yn beth i sôn amdano, ond heddiw dyma angladd cymydog, angladd perthynas, angladd hen ddyn yr oedd y gymdogaeth yn ei barchu a'i anwylo, - angladd ewyrth Richard Cwm- garw, yn codi o'r tŷ o fewn lled dau gae i'n tŷ ni.

Roedd cyffro mawr ar gae Sain Helen, Abertawe, neithiwr yn y Cynghrair Un-dydd Cenedlaethol wrth i Forgannwg a Sir Warwick orffen yn gwbl gyfartal.

Agorodd Mrs Eurwen Parry ei chartref i gynnal noson goffi, ac ar noson arbennig o braf ddiwedd Mehefin daeth tyrfa i Gae Bold i fwynhau loetran uwchben paned a sgwrs yn yr ardd.