Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gaeau

gaeau

Dywedir bod Edward Vaughan yn ormod o ddyn i basio barn ar gaeau ei gymdogion llai llewyrchus.

Ymlaen wedyn trwy filltiroedd sgwâr o gaeau siwgwr a'r dail gwyrdd yn disgleirio efo galwyni o ddŵr yn cael eu lluchio drostynt trwy bibau anferth o Lyn Victoria.

Er i lawer o gaeau gwair ddiflannu a thir gael ei drin neu ei ddefnyddio'n wahanol, mae'n dal yn bosibl dod o hyd i'r tegeirian tlws yma.

Sgriblo pentwr o lythyrau, symud gwartheg a defaid i gaeau ffres a chasglu'r buchod sydd agosaf at eni lloi i'r cae ger y buarth.

Ond trwy gydol ambell noson clywai Wil nadu'r ci o wahanol gaeau, rhyw udo ymarhous a dolefus, ac yna cyfarthiadau caled ac afiach.

Rwyn cofio hefyd, a minnau'n ddeuddeg oed, fynd yn groes i erfyniad fy nhad, i syrcas a oedd yn cael ei chynnal ar un o gaeau fferm y Neuadd sydd bellach yn fynwent.

Byddai'n dod yn ol yn gyson bob haf i gynaeafu'r gwair cwta ar gaeau Glanrafon.

Fe fu son y byddai Iwerddon yn chwarae'u gemau ar gaeau niwtral - ym Mharis, neu Barcelona.

Mae'r amaethwr wrth reddf yn ymwybodol o'r amrywiaeth priddoedd sydd rhwng ei gaeau, ac o fewn caeau unigol.

Gwelai gaeau a bryniau o flaen y castell, ond torrid ar yr olygfa gan wal arall.

Doedd o fawr o le er fod lliwiau ei wrychoedd a'i goedydd yn rhai na welodd o'r blaen ac roedd amryw o gaeau bychain o gwmpas a chul-lwybrau dyfnion yn ymestyn i'r pellter.

Y mae i'r plwyf hwn ei batrwm ffisegol yn ei nentydd a'i afonydd, ei ffyrdd a'i ffermydd, ei gloddiau a'i gaeau, ei bant a bryn, ei goed a'i ddrysni, ei lechwedd a'i wastadedd, ei wyndwn sych a'i rosydd corsiog.

Ceir nifer o gaeau bychain o dir glas niwtral a bylchau culion rhwng eu cloddiau pridd.