Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gaerdydd

gaerdydd

Gan mai penwythnos yn unig oedd gen i, byddai'n ddelfrydol hedfan i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd felly dyma ddechrau ar y gwaith o holi am brisiau tocynnau i Gaerdydd a Bryste.

Bu Robert Jones yn fewnwr i Gaerdydd a 'doedd e ddim yn meddwl bod hyn yn sioc fawr.

Maen rhaid i Gymru gofio hynny yn ystod y deufis cyn y dawr Saeson i Gaerdydd.

Ers dros dwy flynedd buom yn casglu enwau ar ddeiseb fawr dros Ddeddf Iaith Newydd -- dewch i Gaerdydd i'w chyflwyno i'r Cynulliad ac i ddangos cefnogaeth i'r galwad.

Ond os daw o i Gaerdydd, tybed a fydd ymosodwr arall yn mynd?

Gyda dyfodol y Wembley newydd yn y fantol, mae Ysgrifennydd Undeb Rygbi Cymru Dennis Gethin wedi dweud y bydd yr Undeb yn cynnal trafodaethau â'r Gymdeithas Bêl-droed ynglyn â'r posibilrwydd o ddod a mwy o brif gemau pêl-droed Pydain i Gaerdydd.

Heb os amddiffyn gwych ddaeth â'r fuddugoliaeth hon i Gaerdydd.

Yn yr adran gyntaf y mae edafedd nifer o hanesion yn ymwâu trwy ei gilydd wrth i'r olygfa symud o lys Arthur yng Nghaerllion-ar-Wysg i Gaerdydd ac i helynt Edern ap Nudd.

Rhoddwyd gwasanaeth newyddion BBC Radio Wales ar brawf - a dangoswyd ei fod yn wasanaeth o'r radd flaenaf - pan ddaeth yr arweinwyr cenedlaethol i Gaerdydd yn ystod mis Mehefin ar gyfer Cyngor y Gweinidogion Ewropeaidd.

Aeth Stacey i Gaerdydd ac yn fuan iawn 'roedd hi'n caru gyda Cai.

Golyga hyn fod gan Gaerdydd gyfle i esgyn i'r Ail adran fel pencampwyr y Drydedd Adran.

Doedd dim clem gan Gaerdydd yn ystod y gêm, gydag 11 o newidiadau i'r tîm ers gêm dydd Sadwrn.

Dim ond rhyw bluen felen neu ddwy a fyddai ar ôl ohoni pan ddychwelai ein rhieni o Gaerdydd.

Dyw pethau ddim wedi bod yn hawdd i Gaerdydd yn erbyn y tîm o Orllewin Cymru yn ddiweddar.

Gan barhau âr thema gerddorol, darlledwyd Songs of Praise cyntaf y mileniwm newydd o Gaerdydd, lle daeth 72,500 o bobl o bob cwr o Brydain i'r stadiwm ar 2 Ionawr.

'Roedd Mr Roberts,Daufryn, yn fosyn arni, a chredai'n siwr y buasai'n medru cael bachiad imi fel decboi.Addawodd yrru teligram o Gaerdydd pe bai'n llwyddiannus.

mae'r gôlwr Mark Walton wedi cwblhau ei drosglwyddiad i Gaerdydd ar gytundeb dwy flynedd.

Heddiw cyfarfu dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg - oedd ar daith gerdded o Gaerdydd i Lundain dros Ddeddf Iaith - â chwmni ffôn symudol Vodafone.

Fersiwn o Gaerdydd ar stori sydd i'w chlywed ym mhob rhan o Gymru sydd isod.

Wedi tair munud o amser ychwanegol llwyddodd Robert Earnshaw i rwydo'n bert i sicrhau buddugoliaeth gyffyrddus i Gaerdydd.

Y marwolaethau olaf drwy fomio yng Nghymru mewn cyrch ar Gaerdydd.

Roedd Saran Nicholas o Gaerdydd yn ceisio talu am nwyddau werth £22.95 yn siop Howells yn y brifddinas.

Yn y pnawn roedd Meic Stevens yn perfformio ac er iddo fo ddweud ei fod wedi cerdded bob cam o Gaerdydd heb fy ffon yr oedd ei berfformiad yn gwbl bleserus - do, fe gafwyd y clasuron Dournanez a Môr o Gariad, ai lais rywfodd yn gweddu i awyrgylch yr Wyl.

Mae'r Gymraes o Gaerdydd, Tanni Grey-Thompson, wedi ennill ei phedwaredd medal aur yn y Gemau Paralympaidd yn Sydney, Awstralia.

Cyraeddasant Gaerdydd gyda'r hwyr, lGeg Awst.

Cafodd Dickerson ddau gyfle arall yn yr hanner cynta ond methodd fanteisio arnyn nhw ac er i'r cyfleon gorau ddisgyn i ran Llanelli wedi'r ail-ddechrau, Leo Fortune West sgoriodd yr unig gôl gan roi'r pwyntiau i Gaerdydd ond y clod i Lanelli.

Croeso, Dewi a Mair: Yr oedd yn braf gweld Mr Dewi Williams (Dewi six) o Gaerdydd a'i chwaer Mair ar ymweliad a'r teulu ym Mraichmelyn.

Mae son y bydd y golwr Celtic, Stewart Kerr, hefyd yn dod i Gaerdydd.

Roedd yn Llundain, yn loncian yn gynnar fore echdoe, pan ddaeth yr alwad iddo ddod i Gaerdydd i lenwi yn rhaglen neithiwr.

Mae Nick Walne o Gaerdydd yn di-sodli Matthew Robinson ar yr asgell dde.

'Mae'r ffaith nad yw Caerdydd wedi llwyddo i fynd ymhellach na'r wyth ola yn ffactor bwysig achos mae Peter Thomas a chlwb Caerdydd yn moyn i Gaerdydd wneud yn dda ac ennill Cwpan Ewrop.

Gwenan parry, yn gyrru ei char bychan o Fangor i Gaerdydd, neu fel arall.

Roedd Huw Gwyn wrthi'n llwgu ei hun, neu ar fin cerdded o Langefni i Gaerdydd neu rhywbeth; naill ffordd neu'r llall ro'n i'n recnio na fydda fo o gwmpas yn hir iawn a'i bod hi'n saff i mi ymaelodi -- ysywaeth...

Ymhen ychydig ddyddiau wedi i'r merched droi am adref hwyliodd y Maritime o Gaerdydd i Abertawe i lwytho ac o'r fan honno wedyn am borthladd pellennig.

Bu gan Fangor ei gyfraniad i'r maes hwn hefyd o'r dechrau bron, gydag uned ffilmiau yn anfon eitemau cyson i Gaerdydd neu Fanceinion ar gyfer 'Heddiw' yn y chwedegau cynnar.

Wel wrth gwrs da' chi'n gorfod cofio mai Sais Gymry oedd fy rhieni i ynte a phan symudodd fy nheulu o Gaerdydd, wel Morgannwg, i Gaergybi roedd fy nhad yn swyddog ar y llongau ac roedden ni yn ymdroi ymhlith y Saeson neu'r Sais Gymry ynte.

Ond wrth fynd drwy'r rhes negeseuon ar y peiriant ateb wedi dychwelyd i'm gwaith clywais lais Ffrengig Claudie Moyson yn fy atgoffa imi gytuno i ofalu am ‘gynrychiolaeth' o Lydaw fyddai'n dod i Gaerdydd i ddysgu popeth am deledu lleiafrifoedd.

Mae'n Rownd Derfynol Cwpan Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm yfory, a llygaid y byd ar Gaerdydd.

Yn ddarlithydd prifysgol cyn iddo ymddeol y mae un o'r awduron, Alun Rhys Cownie o Gaerdydd, yn ddysgwr ac yn awr yn byw ym Mhwllheli lle dysgodd Gymraeg.

Collon ni gêm i Gaerdydd y dylsen ni fod wedi ei hennill, a cholli i Gasnewydd - gêm arall dylsen ni fod wedi ennill.

yr wythnos hon mae gan gaerdydd gem gartref atyniadol yn yn rownd cwpan yr fa yn erbyn middlesbrough.

Roedd Castell Nedd yn gobeithio gwneud iawn am golli i Gaerdydd ym munud ola ei gêm ddechrau'r tymor.

Dyw e ddim yn rhad ond maen ffordd o ddiogelu y bydd Cwpan Lloegr yn dod i Gaerdydd a bydde colli'r gystadleuaeth honno yn ddrutach o lawer.

“Mae gan y chwaraewyr eu teyrngarwch i Gaerdydd a maen nhw am aros yma,” meddai Walkington.

"Dyma ni wedi dod yr holl ffordd o Gaerdydd er mwyn osgoi prysurdeb dinas, a dyma'r rhain ar ein gwarthaf ni.

Terfysgoedd mewn trefi ym Mhrydain yn lledaenu o Gaerdydd.

Y mathemateg cymharol syml i Gaerdydd yw os enillan nhw eu dwy gêm gartre bydd neb arall yn y grwp yn gallu eu cyffwrdd nhw.

Ond doedd hi ddim yn rhwydd i gyd i Gaerdydd.

I goroni noson ddiflas Abertawe mae sibrydion bod eu golwr rhyngwladol, Roger Freestone, ar ei ffordd i Gaerdydd.

Daeth y Gymdeithas Brydeinig er Hyrwyddo Gwyddoniaeth i Gaerdydd i ddathlu Wythnos Wyddoniaeth eleni, ac, yn awyddus i roi'r pwnc o fewn cyrraedd pawb, dangosodd BBC Cymru Mad on Science, a gynhyrchwyd gan Cambrensis, a sicrhaodd brwdfrydedd heintus y cyflwynydd Gareth Jones gynulleidfa fawr i bwnc difrifol.

Rowland Hughes adref i Gaerdydd o'r Nature Cure Clinic yn swydd Bedford, â'i obeithion am adferiad iechyd oddi wrth yr afiechyd blin a'i poenai, yn chwilfriw.

Mae'n llwyddo i agor ei chwedl yng Nghaerllion, cyflwyno ei arwr a mynd ag ef i Gaerdydd a'i gadw yno; ond wedi tynnu'r darllenydd yn ôl i Gaerllion mae'n anfon Edern o Gaerdydd i'r llys ac yn ein cadw ni, ei gynulleidfa, yno nes i Geraint ac Enid gyrraedd ac ymbriodi.

A'r canlyniad – roedd pris y ffleit yn ddrutach i Gaerdydd ac roedd llai o awyrennau yn teithio'n ddyddiol o Frwsel yno felly dyma droi at Faes Awyr Bryste.

Ar hyn o bryd mae yn gwneud gwaith tebyg yn y Gogledd, ond ym mis Medi bydd yn symud i Gaerdydd.

Mae'n dipyn o syndod bod Gareth Thomas o Gaerdydd wedi'i adael allan o'r garfan.

Parhaodd Mansfield ar y blaen am awr cyn i Gaerdydd sgorio cystal gôl ag a welwyd ar Field Mill.

Un o lwyddiannau cynta'r Bwrdd newydd oedd llwyddo i symud swyddfa o Gwrt y Groes Hir ar y ffordd allan o Gaerdydd am y dwyrain i le newydd uwchben yr hen farchnad yn union yng nghanol y ddinas.

Bu 50 o gefnogwyr yn cerdded gyda nhw y 15 milltir allan o Gaerdydd ddydd Sadwrn diwethaf ar y rhan gyntaf o'r daith yn dilyn rali wrth y Cynulliad.

Bechgyn ifenc fel Jamie Robinson o Gaerdydd sy'n whare'n gyson, meddai.

Ymosodiadau o'r awyr ar Gaerdydd, gorsaf y Llu Awyr ym Mhenrhos, Gwynedd, Doc Penfro a Llandarsi.

Gyda Chesterfield yn colli pwyntiau, yn sydyn iawn mae'n bosib i Gaerdydd nid yn unig esgyn i'r Ail Adran, ond esgyn fel pencampwyr.

Parhaodd y pwysau, ond ni ddaeth ail gôl i Gaerdydd.

Enillodd LES MILLS o Gaerdydd hefyd wobr am LWYDDIANT UNIGOL ARBENNIG.

Daeth mwy o newyddion da i Gaerdydd yn dilyn rownd derfynol y Cwpan ddydd Sadwrn.

Capten Scott yn hwylio o Gaerdydd i Begwn y De ar y Terra Nova.

Mae sibrydion bod Rhys Weston, amddiffynnwr Arsenal a chapten tîm dan 21 Cymru, ar fin arwyddo i Gaerdydd.

Dywedodd Huw Lewis, un o arweinwyr yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith, wrth baratoi am y daith gerdded gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg: 'Yr ydym wedi troi ein taith gerdded o Gaerdydd i Lundain yn daith noddedig er mwyn i'n cefnogwyr gael cyfle i gefnogi Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ariannol.

Gwelais ef yn cael sawl ffafr ar gamlesi'r cyfandir ar ffin lle'r oedd Almaenwyr ar ofalaeth, drwy esbonio mai Cymro oedd ef, yn gofalu am long wedi'i chofrestru yn Llanelli porthladd heb fod nepell o Gaerdydd!

Gofynnodd y Prif Gwnstabl am gael ei blismyn yn ôl o Gaerdydd a Thonypandy, hefyd.

Bydd Elgan Jones, yr asgellwr 19 oed, yn chwarae ei gêm gynta i Gaerdydd yn erbyn Caerffili heno.

Yno hefyd roedd Joan Ruddoch, cyn-lywydd CND sydd bellach yn Aelon Seneddol dros Lewisham, ond yn wreiddiol o Gaerdydd.

Bydd yn rhaid i Gaerdydd wylio rhag gwneud unrhyw gamgymeriadau di-angen, fel ag y gwnaethon nhw yn y gêm yn Cheltenham ddydd Sul.

Symudwyd y 'Welsh Assistant' o Gaerdydd i Fangor i fod yn Gynrychiolydd y BBC yng Ngogledd Cymru.

Er i Gaerdydd gael

Hanes bywyd a gyrfa'r gantores o Gaerdydd hyd yn hyn.

Sicrhaodd Frank Warren y ffeit a bydd yn gyfle i Dai Gardiner, sy'n rheoli Regan, gael pencampwr y byd arall dan ei adain yn ogystal a Steve Robinson, pencampwr pwysau pryf y byd, sy'n dod o Gaerdydd.

Amcanem at geisio rhoi cyfle i Gaerdydd brofi ei hawl i fod mewn gwirionedd yn brifddinas Cymru ac ennill lle iddi ei hun fel amddiffynnydd ac arweinydd diwylliant y wlad y mae eisoes yn ganolfan iddi mewn materion masnach ac economeg, a chyda hynny o hunan lywodraeth sydd gennym.

Cafodd y Saracens eu concro gan Gaerdydd am yr ail benwythnos yn olynol.

O leia, roedd mwy o gomisiynau'n dod i'w rhan erbyn hyn nag y gallent obeithio eu cyflenwi, byth er pan fu newyddiadurwyr 'Tŷ a Gardd' o Gaerdydd yn tynnu lluniau o Lety'r Bugail ar gyfer tudalennau'r cylchgrawn dethol hwnnw.

Mae Peter Rogers wedi bod yn amddiffyn ei resymau dros symud o Gasnewydd i Gaerdydd.

Efallai mai'r person mwyaf diddorol oedd Twi, dyn digartref o Gaerdydd a brofodd newid dramatig yn ei ffawd ei hun yn ystod y gyfres.

'Fe fysen i'n disgwyl i Gaerdydd ennill.

Doedd dim siap ar Gaerdydd y diwrnod hwnnw.

Dydi democratiaeth ddim yn golygu cael yr hawl i anfon Cynog i Gaerdydd yn lle Llundain.

Mae gan Gaerdydd bum blaenwr yn barod a thra bod y clwb wedi mynnu dro a thro na fyddan nhw'n gwerthu eu prif sgoriwr y tymor hwn - Robert Earnshaw - mae'n bosib y byddan nhw'n fwy parod i Leo Fortune-West, Kevin Nugent, Paul Brayson neu Kurt Nogan adael.

Sa i'n meddwl bod llawer o bobol wedi mynd lan yna a disgwyl i Gaerdydd ennill.

Ond mae Halifax wedi dechrau gwella a fydd hon ddim yn gêm hawdd i Gaerdydd.

Tebyg y byddan nhw'n fwy penderfynol ar ôl colli i Gaerdydd ar Barc yr Arfau ddydd Sadwrn.

Dywedodd Bob Phillips, prif-weithredwr y clwb, mewn cyfarfod stormus yn y ganolfan sglefrio neithiwr fod posibilrwydd y bydd yn rhaid i'r tîm a'r clwb symud yn ei grynswth o Gaerdydd i rywle arall.

Efallai mair person mwyaf diddorol oedd Twi, dyn digartref o Gaerdydd a brofodd newid dramatig yn ei ffawd ei hun yn ystod y gyfres.

Yn hytrach na chynnal Pwyllgorau Rhanbarthol, credwn y dylai gwaith dydd i ddydd y Cynulliad gael ei ddatganoli o Gaerdydd gyda gwahanol adrannau o'r Cynulliad yn cynnal canolfannau mewn gwahanol rhannau o Gymru.

Taflwyd cerrig at y trên hwn ar ei siwrnai trwy Gastell Nedd, wedi iddo gychwyn o Gaerdydd am hanner awr wedi deg y bore.

Fe ddaeth y gemau pan oedd Robert Earnshaw yn chwarae'n arbennig o dda i Gaerdydd a chael chwe gôl.

Daeth y Gemau Paralympaidd i ben yn Sydney ddoe gyda Tanni Grey-Thompson o Gaerdydd yn cario'r faner ar ran tîm Prydain yn y seremoni gloi.

Roedd hwn yn ganlyniad gwych ar ôl perfformiad penigamp gan Gaerdydd.

Dywedodd Huw Lewis un o arweinwyr y cerddwyr, ' Hyd yn oed os yw'r prinder tanwydd yn golygu fod llai o bobl yn gallu teithio i Gaerdydd i ffarwelio â ni, ac hyd yn oed os collwn ni ein cerbyd wrth gefn, fyddai yn ein gorfodi i gario ein holl baciau ar ein cefnau, yr ydym yn benderfynol o fynd yr holl ffordd i Lundain.

Os digwydd hynny bydd 80 pwynt yn ddigon i Gaerdydd fynd i fyny.

Creodd pobl ifainc o Gaerdydd a Phenrhys gerddoriaeth newydd ar gyfer ffilm gan Terry Chinn i nodi agor Canolfan y Celfyddydau Gweledol yng Nghaerdydd.