Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gaeth

gaeth

Credant hwy fod yr ymdrech a wnaeth i ddiwygio'r drefn ar fin methu'n llwyr oherwydd ei fod ef yn rhy gaeth i'r hen sustem gomiwnyddol.

Arferai Mr Roberts weithio fel coitsmon mewn plasty ond erbyn y cyfnod hwn roedd mewn gwth o oedran ac yn gaeth i'r tŷ; a chofiaf Mrs Roberts yn egluro i mi fel yr arferai hi fynd i'r Belle Vue bob nos i geisio peint o gwrw i'w gŵr efo'i swper.

Parhaent yn genhedloedd er eu bod bellach yn gaeth a di-wladwriaeth.

Gan hynoted oedd ei oslef a chan mor arbennig oedd ei arddull, ac, ar un adeg, gan mor unffurf oedd ei wisg - crys coch a siwmper goch (ni hoffai siwt) - a chan ei fod mor gaeth i'w bibell a'i sbectol, yr oedd yn wrthrych parod i'r parodi%wr, er gofid mawr i'w fam, ac, weithiau, iddo ef ei hun.

Er ei bod ers canrifoedd yn gaeth a di-wladwriaeth, hen genedl yw Cymru.

Mae'r Cynghreiriaid wedi croesi'r ffin rhwng Belgiwm a Holand, ond gallech feddwl wrth y cwrs y byddwn yn gaeth yma am fisoedd eto.

Mae brest d'ewyrth yn gaeth iawn heddiw.

Nid athro wrth-ei-swydd ger desg gaeth a darllenfa gyfyng ydoedd, ond cennad dysgedig a oedd yn barod bob amser i ddarlithio i gynulleidfaoedd bach a mawr ym mhob man.

Maent wedi cau amdanat ac yn benderfynol o'th ddal yn gaeth.

Dyma rai dadleuon o blaid credu bod yr ymadrodd "nid yw yn gaeth" yn golygu mwy na rhyddhau o gyfrifoldeb darparu aelwyd.

Ond methodd Terry, druan, a dysgu nes mynd i dreulio mwy a mwy o'i fywyd yn Uned Gaeth Ysbyty'r Eglwys Newydd - llai erbyn hyn yn y twll 'ma.

Ymhob cenedl a fu neu sydd mewn safle trefedigaethol tebyg i Gymru ceir yr un ymlyniad ag a welir yn ein gwlad ni wrth y drefn orchfygol ar draul y genedl gaeth.

Rafflwyd y trefniannau sidan ar ddiwedd y cyfarfod a phenderfynodd yr enillydd, sef Mrs Jean Clarke, roi ei gwobr i gynaelod sydd ar hyn o bryd yn gaeth i'w thy.

Rhoddwyd £250,000 i Fyddin yr Iachawdwriaeth ar gyfer ei gwaith ymysg y rhai sy'n gaeth i gyffuriau yma yng Nghaerdydd.

Y mae pawb yn ddarostyngedig ac yn gaeth i'r ddeddf a'i dedfryd (gyda chyfeiriad yma at y ddeddf Iddewig a'i hordeiniadau, Rhuf.

Bu'r bardd yn un o golofnau'r achos dirwestol yn nyffryn Aman am flynyddoedd lawer, a bu'n areithio o blaid llwyr ymwrthod â diodydd meddwol ganwaith, er iddo yntau ar ei addefiad ei hun fod yn gaeth i'r arfer ar un adeg.

Tuedd y rhan fwyaf o lenorion Lloegr, hyd at yr Oes Ramantaidd, fu ystyried fod popeth Groeg a Rhufeinig yn rhwym o fod yn well na'r dulliau brodorol; ond yr oedd y Cymry, mewn cyferbyniad, yn dueddol o edrych ar farddoniaeth Gymraeg fel traddodiad clasurol arall, a oedd yn llawn mor hynafol yn ei wreiddiau, yn llawn mor gaeth a ffurfiol, an yn llawn mor deilwng o barch ac astudiaeth â'r traddodiad Groeg a Rhufeinig.

Gofynnwn i chi ddangos yma eich bod yn ymateb i anghennion Cymru'n hytrach na dilyn yn gaeth y llwybr o Lundain''.

Cymer drugaredd ar y rheini ymhlith ein pobl ifainc sydd ar ddisberod ac mewn ing ysbryd, rhai yn gaeth i gyffuriau, rhai yng nghrafanc alcoholiaeth, rhai'n distrywio eu bywyd trwy drachwant, rhai'n anobeithio am na allant gael gwaith a rhai'n teimlo fod bywyd yn wag a diystyr am eu bod yn gwrthod goleuni'r Efengyl.

Efallai bod ffeindio lle i barcio a dilyn y system un-ffordd gaeth yn junlle' - ond mae'r strydoedd yn rhyfeddol o belserus i'w cerdded.

Yn y padhâ (a ddeilliai o pdh) y rhyddhawyd y sawl a fu'n gaeth trwy i rywun arall dalu ffi drosto: Felly cymerodd Moses yr arian oedd yn iawn dros y rhai ...

I'r sawl sy'n gaeth i'w tai, darperir gwasanaeth pwrpasol ar eu cyfer hwythau hefyd, gydag ymweliad misol i'w cartref gan staff arbenigol.

Mae Prif Weinidog y wlad Mahendra Chaudry ac aelodau o'i Gabinet yn dal i gael eu dal yn gaeth gan wrthryfelwyr yno.

Y mae meddwl y gwyddonydd ei hun mor gaeth i reolau ffisegol â symudiad y piston ym mheiriant y car modur, Ar ba sail felly y gellir honni fod unrhyw ddamcaniaeth wyddonol yn "wir".

Ond yma nid yw y person yn gaeth.

Gellir dadlau fan hyn fod yr ymadrodd Nid yw y brawd neu chwaer yn gaeth yn golygu eu bod yn rhydd o'r cyfamod priodas.

Mae pob mudiad ymgyrchu sy'n ymdrechu i sicrhau newidiadau cymdeithasol o bwys yn gaeth i'w fytholeg arwrol ei hun i ryw raddau: canmolir yr arloeswyr, mawrygir y merthyron, a dethlir yr uchafbwyntiau a'r llwyddiannau.

Cafodd Griffith Jones, Castellmarch, y profiad annymunol o'i gipio'n gaeth gan griw o longwyr Cafaliraidd i Wexford, Iwerddon, ar ôl iddynt ymosod ar ei dy.