Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gafaelgar

gafaelgar

Oni bai am yr adroddiadau gafaelgar yn y wasg a'r lluniau grymus a ddaeth yn dystiolaeth feunyddiol o dynged y Cwrdiaid, dwi'n ofni mai troi cefn fyddai ymateb gwledydd y byd.

Byddai'n ddigon hawdd llunio beriniadaeth weddol arwynebol ar y ffilm hon a'i gadael hi ar hynny: miwsig nostalgaidd Michael Storey; actio gafaelgar Iola Gregory a Dafydd Hywel; adeiledd carcus-dynn y ffilm a delweddau canolog y madarch a'r rhosod; y garreg fedd glyfar ar ddiwedd y ffilm ar ddelw sgrin sinema a'r geiriau THE END yn cloi'r llun yn daclus thematig...

Mae Lyn Ebenzer, wrth addasu'r ddrama deledu a gyd- sgrifennodd gyda Sion Eirian, wedi llunio stori slic a gafaelgar, ac mi roedd troi'r tudalennau i mi yn angenrhaid.

Y mae'r Beibl hwn, 'Beibl Genefa' fel y'i gelwir i'w osod gyda'r gorau yn ei gyfnod ar bwys ei gywirdeb ysgolheigaidd a'i fynegiant gafaelgar.

Mae rhan gyntaf y llyfr yn fwy llafurus a llai gafaelgar.

Ar ei orau does dim yn fwy gafaelgar na llun.

Rhaid fod ei frawd Dafydd o oedd yn hŷn nag ef o ryw ddeng mlynedd, yntau, wedi chwarae rhan bwysig yn ei addysg, yn enwedig gan fod pob tystiolaeth yn cytuno fod Dafydd yn naturiol dalentog, fod ganddo gof gafaelgar a dawn ymadrodd, a'i fod wedi darllen 'llawer yn Gymraeg a Saesneg ar hanesyddiaeth, barddoniaeth a ffug-chwedlau'.

Llew Jones oresgyn y broblem honedig hon yn ddidrafferth trwy lunio stori ddigon gafaelgar i bontio unrhyw agendor.

Mewn ysgrifen boenus o ddestlus, gwbl unionffurf, fe geir un cwpled gafaelgar, os braidd yn adnabyddus, a buasech yn barod i haeru bod y gŵr a'i hysgrifennodd wedi cymryd ffon fesur i wneud yn siwr ei fod yn union ar ganol y tudalen.

Cafwyd anerchiad gafaelgar gan Mrs Eluned Ellis Jones ar y testun "Un Byd".

Y mae'r albym yn ddatblygiad o'r un flaenorol a mae'n dilyn yr un traddodiad o greu caneuon gafaelgar sydd mor nodweddiadol o gerddoriaeth Maharishi.