Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gafaelodd

gafaelodd

Syrthiodd ei dors allan o'i boced ac wrth iddo ymbalfalu o'i gwmpas amdani gafaelodd ei ddwylo yn rhywbeth a oedd yn debyg i brennau.

Gafaelodd yn ei law ac meddai, 'Mae'n ddrwg gen i Merêd...mi ddifethis i bopeth on'do?'

Gafaelodd y weledigaeth ~nddo--fe'i gwelodd, ond oblegid ei ofn a'i Iwfrdra ni feddiannodd y fendith trwy ddilyn y weledigaeth i'w phwynt eithaf.

Ar ei fynediad i'r ystafell gafaelodd yr Yswain yn ei law, ac ysgydwodd hi yn galonnog a chroesawgar, a datganodd ei ofid am ei golled, a'i lawenydd am nad oedd Harri wedi derbyn niwed, a dywedodd yn ddistaw yn ei glust: `Oni bai mod i'n gwybod fod ti wedi cael llawer o arian ar ôl dy dad, mi f'aswn i yn dy helpio di i neud y golled i fyny.

"Neidia ar ei gefn, Deio," meddai Idris, "i ti gael marchogaeth i'r Cwmwd." "Na wnaiff wir," meddai Cadi yn yr un llais yn union â'i mam, "ddim yn ei ddillad gorau." Gafaelodd Deio ym mwng Llwyd a cherdded ymlaen felly.

Gafaelodd yn benderfynol yn y dwrn pres, a'i droi.

Gafaelodd mewn cangen a dorrwyd i lawr gan y gwynt i'w helpu i glirio'i ffordd drwy'r drysni.

Gafaelodd yn Gary gerfydd ei wddf a'i wthio yn erbyn un o waliau'r toiled.

Gafaelodd yn ei dwylo a'i thynnu'n ddiseremoni ar ei thraed a chyn iddi hi ddeall yn iawn beth oedd yn digwydd, cododd hi'n gorfforol a'i chario 'nôl i'r bwthyn.

Gafaelodd Ifor yn ei llaw i'w thynnu yn ôl i'r presennol, a phwyso drosti.

`Rydw i wedi blino.' `A finne,' meddai Debbie, `Fe fydda i'n falch i ...' Ni chafodd gyfle i orffen yr hyn yr oedd hi'n mynd i'w ddweud oherwydd gwthiodd dyn heibio iddi, gafaelodd yn y bag arian a rhedodd lawr y stryd.

"Mae yna ddarn o bysgodyn ym mhen draw'r cawell." Gafaelodd Wyn yn ysgwydd Einion a dywedodd wrth y lleill am fod yn ddistaw.

Gafaelodd yn dynn amdani a phwysodd hithau ei chorff yn ei erbyn.

Gafaelodd yn ei war a'i godi'n glir oddi ar y llawr cyn ei daflu i du ôl y fen ar ôl y sach.

Wnei di rannu'r cyfrifoldeb efo fi?" "Gwnaf wrth gwrs, mi wyddost y gwnaf i." Gafaelodd y ddau yn dynn yn ei gilydd.

Ar ol iddo gael ei anwybyddu am sbel hir, gafaelodd o'r diwedd yn un o'r dynion a oedd yn brasgamu heibio a holodd pam tybed nad oedd neb yn cymryd sylw ohono ac yntau'n brif arweinydd y wlad i gyd?

Mae'n wir ddrwg gen i.' Gafaelodd yn dyner yn ei garddwrn i'w hatal rhag rhwbio.' Rydw i'n fwy pengaled na chi, mae'n amlwg.

Fe agora i e.' Gwthiodd Paul, y bachgen hynaf, y lleill i'r ochr a gafaelodd ym mwlyn drws y wardrob.

Gafaelodd mab hynaf Thomas a Maria yn y gwaith a phenderfynodd adeiladu tŵr cerrig sylweddol yng nghanol Parc Glynllifon fel claddfa i'r teulu.

Gafaelodd Elystan yn y pen bychan a'i droi oddi wrth wres y fflam.

Gafaelodd yn ei goler wrth iddo blygu i fynd i mewn i'w sedd.

Fedrwch chi ei gario ef i ddiogelwch?' Gan na fedrai weld rhagor o bobl yn y dŵr a chwyrli%ai o'i gwmpas gafaelodd Mr Parker yn y babi ac ymlwybrodd drwy'r llong tuag at y fan lle roedd yr ychydig bobl a oedd yn dal i fod yn fyw yn mynd i mewn i'r badau achub.

Cafodd y dyn y tu ôl i'r ddesg em paciau er mwyn eu llwytho ar yr awyren - gafaelodd yn ein cêsus a'u towlu y tu ôl i'w ddesg.

Gafaelodd mewn brws a dechrau brwsio'i gwallt yn wyllt.

Gafaelodd yn dynn yn fy mraich a'm harwain i fyny grisiau y gwesty ac ar hyd coridor hir.