Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gaffaeliad

gaffaeliad

Wn i ddim ydach chi wedi sylwi, ond tydy pib heb bysan fawr o gaffaeliad.

Fyddwn i ddim am i hynny ddigwydd gyda'r Geiriadur Idiomau gan y bydd yn gaffaeliad arbennig i ddysgwyr a fydd yn ei ddefnyddio yn llusern i'w goleuo am ddywediadau dieithr.

Er ei fod yn ymddangos yn gryn gaffaeliad siomedig, ar adegau, yw y Geiriadur Idiomau o safbwynt y rhai sy'n rhugl yn y Gymraeg.

Mae'r ffrâm oer yn gaffaeliad i bob garddwr.

Mae hi bron yn amhosib i lenor proffesiynol sy'n byw ar ei ysgrifbin neu'i brosesydd geiriau ennill ei damaid wrth ysgrifennu yn Gymraeg yn unig, er bod y sianel deledu Gymraeg yn siŵr o fod wedi bod yn gaffaeliad yn hyn o beth.

Ond yr oedd hyn yn gaffaeliad iddo pan alwai yn nhai'r aelodau, yn arbennig y rheini a deimlai hytrach yn swil ym mhresenoldeb gweinidog.

Byddai ymarferion pwrpasol ar ddiwedd pob pennod wedi bod yn gaffaeliad pellach - edrychaf ymlaen at weld cyhoeddi Llawlyfr yr Athro sy'n cyd-fynd â'r gyfres.

Mae pobol wedi bod yn dweud ei fod dipyn bach yn hen ond mae dawn sgorio goliau ganddo fe a dyna ydan ni eisiau - fe fydd en gaffaeliad i Abertawe.