Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gallasai

gallasai

Gallasai adrodd yn llawen ambell dro, ac mi'r oedd yn dysgu partin aelwyd erbyn pob amgylchiad a weithiau yn gwadd y cymdogion i ganu efo ni.

Teimlais wedi darllen The Ascent of Everest y gallasai'r cyfeiriadau at fwyd yn hwnnw fod yn help i ddyn gwan ei stumog i adfeddiannu ei archwaeth.

Gallasai o leiaf fod wedi bod o gryn help wrth fwrw golwg dros waith William Morgan.

Gall craciau yn y selydd ollwng dwr i mewn fel y gallasai'r awdur fod wedi dysgu ar ei les yn y dyddiau cynnar.

gallasai syr william preece fod wedi dweud llawer o hanes david hughes wrth robert griffith, oherwydd am gyfnod buont yn gyfeillion agos, yn cydweithio'n broffesiynol ac yn cyd gyfarfod yn gymdeithasol tra'n byw yn llundain.

Yn yr un modd mewn ardaloedd di-Gymraeg, gallasai'r peuoedd hyn weithredu fel sylfaen i ail-sefydlu rhwydwaith o gymdeithasau Cymraeg allasai greu impetws ieithyddol deinamig.

Yn y Gymraeg y siaradai, gallasai fod yn ben tost i'r cyfieithydd ar y pryd ond mae'n siwr iddo gael y cwbl ymlaen llaw a throsi'r wybodaeth i'r iaith fain yn rhugl a rhwydd.

I b'le y gallasai hi fod wedi mynd?

Roedd y gwynt yn llenwi ei ffrag hi ac oni bai am y boen yn ei glustiau tybiai y gallasai fod yn hapus yno.

Gallasai fod wedi mynd efo ni yn y modur, ond buasai hynny'n golygu cyrraedd yn hwyr, yn fwy na thebyg, felly, cerdded wnai hi.

Pan gynhaliwyd gwyl genedlaethol yn Llanbed y tro diwethaf - yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1984 - cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith bapur o'r enw CYMRU 2000. Ein dadl ar y pryd oedd y gallasai cymunedau naturiol Cymraeg fod wedi diflannu ymron erbyn troad y ganrif, er y byddai dros 400,000 o unigolion yn dal i siarad Cymraeg.

Nid nad oedd yn hapus gyda'r Crosville, - yn wir, gallasai fod wedi cael cyfle i wella'i fyd yno.

'Waeth i mi fynd i Ddenmarc mwy na Llaneilian ddim." Gallasai ddweud hynny am iddo fod yn athro mor ffyddlon i Laneilian hefyd - i bob Llaneilian, i Laneilian pawb.

Yn y cyfwng hwn cymerodd at ddysgu rheolau barddoniaeth; ac yn hyn gallasai'n ddiamau ragori, pe daliasai ati.

"Petasai'r Gymraeg wedi llwyddo i fod yn iaith stori a drama'r glowr gallasai ddal ei gafael yng nghymoedd y De, ond methu a wnaeth," meddai.

Gallasai fod wedi bod yn haws i Abertawe.

Mae'n ddiau y gallasai gysoni'i fywyd gwleidyddol â'i grefydd draddodiadol, Hindwaeth, a chydnebydd ef ei hun ddylanwad Cristnogaeth arno, yn enwedig y foeseg a geir yn y Bregeth ar y Mynydd.

Mae hyn yn peri peth syndod, oherwydd gallasai Parry-Williams fod wedi dod o hyd i lawer o syniadau yng ngwaith yr hen feirdd a oedd yn gyson â'i syniadau ef ei hunan - yr amheuaeth ynglŷn â materion crefyddol neu athronyddol, y weledigaeth lem o flinder y cyflwr dynol, a'r cariad tawer at ddyn a natur heb wneud delfryd rhamantus o'r naill na'r llall.

Byddai'r hen bobol yn deud y gallasai Owain orchfygu mil o wþr wrth iddynt geisio dod i'r ogof.

Mae'n wir y gallasai cydweithrediad cynghorau sir Gogledd Cymru fod wedi codi trefn well er budd i'w broydd chwarter canrif yn gynt.

Os nad oedd Eingl-Gymro'n ddigon ffodus i gael y Gymraeg yn ail iaith iddo pan oedd yn ddigon ifanc ac i gael byw mewn ardal wirioneddol Gymraeg, 'ddaw o byth yn gystal llenor yn yr iaith honno ag y gallasai fod yn Saesneg.

Pe bai wedi cael mynd ymlaen i'r Ysgol Sir gallasai gael gyrfa academaidd, ond nid oedd amgylchiadau teuluol yn caniata/ u hynny, a daeth allan o'r ysgol yn dair ar ddeg mlwydd oed i weithio yn y gwaith tun.

Fel bod y problemau arbennig sydd yn wynebu ieuenctid heddiw yn cael eu datrys ac fel bod mynegiant mwy positif ac adeiladol o'u dyheadau, eu hofnau a'u hansicrwydd yn cael ei ddarparu, braf fyddai meddwl y gallasai pob Cyngor Bwrdeistref a Dosbarth yng Nghymru benodi Swyddog ieuenctid i fod yn gyfrifol am weithgareddau'r grŵp oedran hwn.

Gallasai rhai o'r lleill ddysgu oddi wrtho.