Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

galonnog

galonnog

Roedd yr hin yn oer, ac wrth fynd ynghylch eu gorchwylion roedd yn anodd bod yn galonnog.

Ar ei fynediad i'r ystafell gafaelodd yr Yswain yn ei law, ac ysgydwodd hi yn galonnog a chroesawgar, a datganodd ei ofid am ei golled, a'i lawenydd am nad oedd Harri wedi derbyn niwed, a dywedodd yn ddistaw yn ei glust: `Oni bai mod i'n gwybod fod ti wedi cael llawer o arian ar ôl dy dad, mi f'aswn i yn dy helpio di i neud y golled i fyny.

"Mi fydd raid i ni blannu reis toc ybn lle tatws." Roedd JR ar fin gwneud sylw am y tywydd ond aeth y ffarmwr rhagddo yn galonnog.

Wedyn, mi fydd pob un ohonoch chi'n cael mynd allan am dro heb syrthio." A dyma'r dynion bach od yn edrych ar ei gilydd ac yn chwerthin yn galonnog.

Ond chwarddodd y twr bechgyn yn galonnog, a heb ddangos unrhyw ddig tuag ataf.

Yn wyneb hyn oll, a'r gwasgar a fu ar y gweithwyr ym Maulvi Bazaar o'i achos, gofidiwn yn ddirfawr nad yw Mr Jones yn ymddangos yn teimlo fod unrhyw radd o gyfrifoldeb arno ef am yr hyn a ddigwyddodd, nac yn datgan unrhyw ofid am ei ymddygiadau a'r anghysur a achosodd i eraill; a rhaid i ni ychwanegu ein bod yn rhyfeddu at dôn a chynnwys ei lythyrau diweddaf yn roddi adroddiad mor galonnog a brwdfrydig am y gwaith ar yr orsaf.' Haerid fod Pengwern wedi dweud ei fod 'yn teimlo ei fod yn gwneud i fyny'r hyn sy'n ôl o ddioddefiadau Crist' bryd hyn.