Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

galwn

galwn

Galwn ar i'r Cynulliad Cenedlaethol i ymddiheuro ac i ddatgysylltu ei hun yn llwyr oddi wrth y geiriau uchod gan wneud yn siwr na fyddant yn ymddangos yn y fersiwn derfynol o'r ddogfen a anfonir i Ewrop.

Un tro, bu farw gŵr hynod ddiog - fe'i galwn yn John Jones - ac fe'i corfflosgwyd.

Galwn ar yr holl ymgeisyddion sydd yn medru'r Gymraeg i ddangos eu hymrwymiad i'r iaith trwy ei defnyddio fel eu prif iaith yn y Cynulliad.

Galwn nawr ar i bob Cyngor Unedol arall ddilyn esiampl Ceredigion trwy greu Cynllun Addysg Cymunedol, sefydlu Is-Bwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg, a hybu datblygu Fforwm Addysg i Gymru.

Galwn ar yr holl ymgeisyddion i'r Cynulliad ddatgan eu hymrwymiad i'r iaith Gymraeg ac i roi statws cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg wrth ymwneud â'r cyhoedd.

Disgwyliwn i'r Cynulliad beidio canoli grym mewn un lle a galwn am ddatganoli'r Cynulliad ar dri safle drwy Gymru a galwn ymhellach am ddatblygiad o drefn wleidyddol lle datganolir grym i gymunedau Cymru drwy'r Cynghorau Cymuned a'r Awdurdodau Lleol.

Galwn ar i'r Cynulliad Cenedlaethol weithredu o ddifrif i greu deddfwriaeth newydd fydd yn gosod seiliau cadarn i drawsnewid sefyllfa'r Gymraeg a hynny o fewn ei dymor cyntaf.

Galwn felly am fabwysiadu strategaeth gynyddol i wneud y Gymraeg yn brif iaith gweinyddiaeth fewnol y Cyngor Sir - gan ddechrau yn syth yn yr Adran Addysg, ac yn ymledu dros gyfnod rhesymol i Adrannau fel Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyfathrebu, Cynllunio nes cwmpasu pob adran gan gynnwys Swyddfa'r Prif Weithredwr ei hun.

Mae fy ffrind - feu galwn yn Ieuan - o'r farn na ddylai neb byth dalur pris gofyn am unrhyw beth a dyma ei linell gyntaf wrth fargeinio.

Galwn ar y Cynulliad i ddileu y Quangos sy'n gweithredu yn y maes yma a chryfhau gallu ymarferol ein cymunedau i reoli eu dyfodol eu hunain drwy gefnogi mentrau cymunedol gydag adnoddau digonol.

Galwn ar y Cynulliad Cenedlaethol i ymateb ar fyrder i'r bygythiad sy'n wynebu ysgolion gwledig Cymru a chreu strategaeth gadarnhaol newydd a fydd yn diogelu eu dyfodol.

Galwn hefyd ar i'r Cynulliad ddatgan ei hawl foesol fel corff llywodraethol democrataidd ein gwlad i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg, a mynnu gweithredu arni yn hytrach na'i gadael yn San Steffan.

Galwn ar y Cynulliad i gadarnhau na fydd unrhyw ysgol yn cael ei chau nes y cynhelir adolygiad trylwyr o'r sefyllfa.

Galwn ar y Cynulliad i ymateb i'r her sydd ymhlyg yn y Ddeddf hon.

Er mwyn sicrhau llwyddiant ac effeithiolrwydd y Polisi Dwyieithog o'r diwrnod cyntaf, galwn ar y Swyddfa Gymreig i sefydlu Grwp Tasg i gydlynu ymdrechion a syniadau er mwyn ymbaratoi at gyflwyno Polisi Dwyieithog yn y Cynulliad.

Fel cam tuag at sicrhau hyn galwn ar y byd addysg yn y sir i wrthod cyd-weithio â'r Prif Swyddog Gweithredol ac unrhyw Ofalwr o Loegr a benodir i'w rheoli.

Bydd tipyn o bwyse ar ysgwydde Matthew Maynard a bydd galwn gywir bore fory yn bwysig iawn.

mae'r haul yn tywynnu ac erbyn amser cinio roedd Morgannwg, ar ôl galwn gywir a dewis batio, wedi cyrraedd 89 am un.

Fe aeth i weld, fe'i galwn ni ef yn Mr S (S am swyddog), i of yn iddo beth oedd y sefyllfa.

Galwn ar y Llywodraeth a'r Gwrthbleidiau i ddiwygio Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, a gosod seiliau cyfreithiol cadarn iddi, ynghyd â gweithredu strategaethau ymarferol a phellgyrhaeddol.

Roedd yr unigolion hyn (dros 250 o enwau i gyd, wedi eu casglu dros gyfnod o ryw dair wythnos), yn cytuno â'r datganiad hwn: GALWN AR Y CYNULLIAD CENEDLAETHOL I LUNIO STRATEGAETH GADARNHAOL I DDATBLYGU YSGOLON GWLEDIG.