Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

galwodd

galwodd

Doedd o ddim wedi mynd i'r gwasanaeth: trefnodd ei fod yn recordio rhaglen, ac er bod Elsbeth wedi bwriadu mynd galwodd rhywun i'w gweld y funud olaf.

Galwodd ar y ddau ffariar a gofynnodd iddynt a allent wneud rhywbeth dros dro.

Mae yma i ddangos rhinweddau'r Hwn a'i galwodd o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni Ef ei Hun.

Cawn nifer o'r bechgyn yn ymweld â mi o bryd i'w gilydd, ac un diwrnod galwodd y Capten i'm gweld.

"Hitiwch befo, fe gawn ni fynd at yr afon fory." "Ac am bicnic ar y mynydd," galwodd Eira.

Honnid y câi ein blaenwyr ni eu gwthio oddi ar Barc yr Arfau y prynhawn hwnnw, ac i sicrhau na fydde hynny'n digwydd, galwodd Carwyn a Norman ar wasanaeth R.

Galwodd John Morris-Jones ef 'Y meistr mwyaf ar y gynghanedd o'r ymgeiswyr oll'.

'Dere ma ac fe gei di ysgub ar dy din?' galwodd Vera gan blygu i godi'r bag o'r palmant.

Galwodd Mrs Q D Leavis, gwraig y beirniad F R Leavis, sylw at ryfeddod y dosbarth hwn yn Lloegr, ac nid oedd ei ryfeddod yng Nghymru yn llai.

O gyfnod cynnar iawn galwodd y Normaniaid a'r Saeson y dref hon hefyd yn Brecknock neu Brechonia neu Brecon.

Dro arall, soniai am ddirgelwch annatod (hyd yma) disgyrchiant, neu'r llwch rhwng y galaethau sydd yn casglu ac yn troi'n 'nifylau tan', fel y galwodd hwy, yn ymgrynhoi yn ser, yn llosgi a chrebachu ac yna'n ail danio ac ymagor yn nifwl tan eilwaith.

'Dad, Dad,' galwodd Mali a chwifio'i dyrnau yn yr awyr.

Gan chwarae ar y gair Maynooth, sef coleg Gwyddelig ar gyfer hyfforddi offeiriaid Pabyddol, galwodd rhywun Littlemore yn Newmanooth.

Galwodd ar Geraint ato.

Yr Athro WJ Gruffydd oedd hwnnw: yntau wedi dod allan yn Bleidiwr amlwg yn sgil ei wrthwynebiad i'r Ysgol Fomio, ac wedi'i gynhyrfu cymaint gan y prawf yn Llundain nes cyhoeddi y byddai Cymru mwyach yn cyfrif pob Sais yn elyn; galwodd ar Gymru oll i foicotio coroni'r brenin Siôr Vl, ond nid oedd hyd yn oed fro enedigol Gruffydd ei hun yn aeddfed i ymwrthod a the parti'r dathlu pan ddaeth yr adeg.

Tua hanner awr wedi dau neu chwarter i dri, galwodd Ali yno a rhoi allwedd y fflat iddo oddi wrth Mary.

`Fe fyddwn ni'n ei dynnu pan fyddwn ni bum mil o droedfeddi o'r ddaear.' Cyn hir galwodd John ar Archie eto.

Galwodd W.

Trodd y Cyrnol a galwodd ar i un o'i is- gapteiniaid beri i'r ddau ffariar brysuro; yna aeth yn ei ol at yr heol fawr ac ailddechrau marchogaeth 'nol a blaen yn aflonydd.

Cyn y gêm galwodd Mike Smith i'n gweld ni am eiliad a dymuno'n dda i ni a i olynydd.

Yn fuan wedyn, galwodd Siôn Elias i weld Ellen Jones, Glasfryn, gan ddweud fod John y mab wedi'i saethu'i hun a'i fod am iddi hi fynd yno i ddiweddu'r corff.

Ar ôl yr oedfa galwodd un o'r blaenoriaid fi o'r neilltu.

Galwodd ar ei ôl :"Dw i'n chwilio am Dei.

Os byddi di wedi cael y profiad fyddi di ddim yn gallu ei gelu, ond mi fyddwn ni'n gwybod yn syth os byddi di'n deud celwydd.' Galwodd Bilo ar Dan Din i osod y dasg nesaf.

Mr Morgan!' galwodd.

'daeth', 'rhuthrodd', 'galwodd', 'archodd'.

Tua chwarter i ddeg fore Sadwrn galwodd y tad yn Shop Blac a chafodd ei gario'n ôl cyn belled â'r Coffee House, yng nghanol y pentref, ym moto Thomas Williams y cariwr.

'Hei, Sei,' galwodd a gwthio'r bygi draw ato.

Mynd allan hefo aelodau o'r PSB (yr heddlu). Galwodd Ms.

Wrth sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol, galwodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am bwyllgor llorweddol i'r Gymraeg yn hytrach na'i bod yn cael ei gosod mewn un pwyllgor pwnc yn unig.

Y prynhawn hwnnw, galwodd yn y London City and Midland Bank yng Nghaergybi i holi a allai rhywun godi'r ugain punt a oedd ganddo yno heb yn wybod iddo.

Galwodd y sant am gymorth o'r nefoedd a thrwy rhyw wyrth, trowyd y milwyr yn rhengoedd o gerrig.

Galwodd eto a daeth y bachgen allan o'r buarth ar gefn y ceffyl gwinau tal.

Deallodd honno'r tric, ymddigiodd yn aruthr, daeth i'r gegin, rhuthrodd ar Robin fel arthes, am daenu chwedlau o'r fath honno am ei mab hi - galwodd ar ei cherbydwr, ac archodd iddo horschwipio Robin o'r terfynau.

Beth y'ch chi'n neud?' galwodd ar eu hôl.

Roedd wrth ei fodd a galwodd ar Bleddyn.

Galwodd Awstin yr esgobion ynghyd i gynhadledd i weld a oedd modd uno'r eglwysi Celtaidd a'r eglwysi yr oedd ef ei hun yn eu sefydlu.

Ni chymerodd y pedwar arall ddim sylw ohono nes y galwodd arnynt.

Ymhen diwrnod neu ddau, galwodd Martin yn y tŷ i drafod pethau a chyhoeddodd Mary ac yntau eu bwriad i gyd-fyw cyn gynted ag y deuent o hyd i le.

Galwodd ar ei mab hynaf, a chlywodd ei lais wrth iddo drafod ei geffyl newydd.

Cyn iddynt ei gyrraedd galwodd Williams arno, 'Cei glywed diwedd y stori rywbryd 'to.' 'Edrych mla'n,' meddai gan agor y drws a gadael y gwynt oer i mewn i'r orsaf.