Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gampau

gampau

Yr unig wahaniaeth yw fod y Tywysog hwnnw yn cyflawni ei gampau ef mewn ysgol go arw ym mherfeddwlad Awstralia.

Pan fyddid yn sôn am ei gampau'n gwagio siopau o'u nwyddau oll byddai hithau'n dal dano'n dweud, 'Wel, ddaru o ladd neb, yn naddo?' A phan ddaru o ladd Huws Parsli am y tro cyntaf dyma hi i'r adwy eto: 'Toedd dda gen i mo'r hen gingroen afiach beth bynnag.

Yna, byddai'n cardota ei ffordd adref gan ddibynnu ar raffu celwyddau a phob math o gampau er mwyn cael bwyd a swUt neu ddau i dorri'i syched.

Nid yw hi'n son am gampau'r ci yr ochr hon i'r Iwerydd.

(Yn wir, ceisiwyd cyflawni'r un gamp yn ystod gwers symiau ar fore Llun ambell dro!) Clywsom am ei gampau anhygoel yn nofio afonydd, yn dal llama ac yn marchogaeth merlod y paith.

Er caleted ei beirniadaeth ohono ni bu erioed yn ddall i'w alluoedd a'i egni a'i gampau eithriadol.

Yn y rheini, gan amlaf, pwysleisir gogoniant y diwylliant a fu, a'i bwysigrwydd yn hanes Ewrob; fe roddir i ni ddarlun o gampau'r Groegiaid mewn celfyddyd, llenyddiaeth, gwyddoniaeth ac athroniaeth, gyda'r canlyniad y gwahoddir ni i'w hedmygu yn hytrach na'u deall.

Mae Cor Meibion y Rhos, Cor Meibion Ponciau yn dwyn i gof gampau Ben Evans, Edward Jones, John Owen Jones a John Glyn Williams.

Y mae ei gamgymeriadau, meddai, 'yn difwyno llyfr hanes sydd, mewn cyfeiriadau eraill, yn gampus.' Y mae David Powel yntau yn cydnabod bod peth sail i'r amheuon ynghylch bodolaeth Arthur, un o gonglfeini'r hanes Brytanaidd, yn ogymaint a'i fod wedi'i gymysgu a 'ffug-chwedlau' a 'phroffwydoliaethau ynfyd Myrddin', ond eto i gyd, deil yn gadarn ei gred yng ngwirionedd sylfaenol yr hanes: 'y mae'n glir nid yn unig wrth y llu hen gofebau sydd wedi cael eu henw oddi wrth Arthur, ond hefyd wrth yr hanesion Sgotaidd a Sacsonaidd ac ysgrifeniadau'r mwyaf dysgedig ymhlith amddiffynwyr yr hanes hwn, fod yr Arthur hwnnw wedi bod yn frenin ar Brydain, yn ddyn amlwg ei glod mewn rhyfel, ac iddo'n fynych fod yn fuddugoliaethus ar ei elynion trwy ei gampau tra rhagorol'.