Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gamu

gamu

Efallai ei fod wedi ei daro'n wael ac wedi ei gymryd i'r ysbyty, meddyliodd wrth gamu i mewn i'r ystafell.

ond hei lwc na fyddai angen hynny, a chamodd tuag at ei gerbyd, neu, o leiaf, dechreuodd gamu.

Rhaid imi groniclo profiad dieithr a ddaeth i'm rhan wedi inni gamu eto i'r goleuni a'r heulwen.

Ac roedd hynny o arian a feddai wedi'u cadw'n ddiogel mewn cwdyn lleder, main a gyd-darai'n gyson â'i geilliau wrth iddo gamu trwy'r dorf gan wthio rhwng un ceffyl a'r llall.

Ond, yn wir i chi, yng Nghaerdydd yma doedd y tywydd ddim ffit ichi gamu allan o'r ty.

Gwthiodd ei ddwylo i'w bocedi a chrwydro o gwmpas, gan gamu dros y ffeiliau a mynd at un o'r silffoedd.

Cydiodd pob un yn ei arf gan gamu o gysgod y graig i aros am yr ymosodiad.

Wrth gytuno'n llwyr â hynny, fe ddywedwn innau y bydd y broblem hon yn un o'r pynciau pwysicaf a fydd yn wynebu Huw Jones wrth iddo gamu i'w swydd newydd.

(Saib fer, cyn i GARI gamu ymlaen, codi LIWSI a'i chwyrli%o o gwmpas yn ei freichiau.)

O gamu ymlaen i Eisteddfod Genedlaethol Nedd ym 1994, mae Gerwyn Williams yn un o gerddi'r dilyniant 'Dolenni' hefyd yn sôn am un o ddelweddau mwyaf dychrynllyd rhyfel Fietnam yn ei gerdd 'Washington'. Mae'n mynd â ni yn ôl at y llun o'r ferch fach Phan Thi Kim Phuc yn ffoi, dan lefain, o gyfeiriad ei phentref, ac yn rhedeg yn noeth, a llosgiadau'r napalm i'w gweld ar ei chroen.

Wrth gwrs, ni all y bardd (mwy na ninnau) groesi o'r presennol yn ol at y profiad; ni all, pan fynno, ddiflannu o'r Fan-a'r Foment-yn-Awr ac iengeiddio am bob ysbaid o gamu'n ol drwyddi.

Mae'n amlwg oddi wrth ei holl gynnyrch, er gwaethaf ei barch at reswm, at drefn, at ffurf mewn bywyd a chelfyddyd, nad pleidiwr llythyren farw'r ddeddf ydyw o gwbl, oherwydd mae'n barhaus yn herio'i gymeriadau i gamu y tu hwnt i gylch cyfyng eu harferion traddodiadol a gweithredu'n greadigol er mwyn meddiannu gwirionedd uwch.

Ysgubai awel oer dros ei wyneb wrth iddo gamu'n ôl oddi wrth y garreg.

Gobeithiai eto fod golwg teithiwr profiadol arno wrth gamu i mewn i'r cerbyd a chyhoeddi mewn llais annaturiol o gadarn: 'Victoria.'

Tan yr eiliad olaf, hyd nes i mi gamu ar y gangway i'r awyren, dywedwn wrthyf fy hun: Cansla, telegram tri gair ac fe fyddi di'n rhydd o'i afael!