Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ganddynt

ganddynt

Y modd o weithredu a ddewiswyd ganddynt i'r gymdeithas oedd cyhoeddi misolyn, yn bennaf i ymgyrchu yn erbyn egwyddor yr eglwys wladol, ond hefyd i hybu achosion radicalaidd yn gyffredinol.

Y mae ganddynt sawl gwâl yma ac acw mewn cilfachau cysgodol ac fel y try'r gwynt newidiant hwythau wâl i gyfateb i hynny.

Caiff eu noddwr ei foli ganddynt yn y dull traddodiadol, fel y gellid disgwyl, ac y mae'r hyn a ddywedir ganddynt am ei groeso brwd a'i ddiwylliant yn arbennig o werthfawr o safbwynt astudio'r traddodiad nawdd.

Canlyniad hynny oedd i athrawon a phrifathrawon ofni mabwysiadu polisi cryf parthed y Gymraeg gan iddynt gredu na fyddai ganddynt gefnogaeth yr awdurdod.

Cred y cyhoedd y cânt wrandawiad teg gan y bobl gyffredin hynny sydd yn aelodau o'r rheithgor ac mae ganddynt ffydd, felly, ym mhenderfyniadau'r rheithgor.

ond nid oedd ganddynt unrhyw ddiddordeb yn ei ddyfais ; efallai mai'r rheswm am hyn oedd y ffaith fod y fersiynau cynnar yn anodd i'w rhedeg yn gyson, oherwydd y gwneuthuriad ysgafn a oedd yn angenrheidiol er mwyn cael gweithrediad cyflym.

Ni welais i fy hun ddim o'r gwaith tyllu hefo llaw, felly rhaid bodloni ar hanes a glywais gan yr hen bobl, ac o bosib fod rhai yma heno sy'n gyfarwydd â'r gwaith ac y cawn dipyn o'r hanes ganddynt hwy ar y diwedd.

Nid oes gan TAC bolisi ffurfiol yng nghyswllt hawliau, ond fe fydd ganddynt bolisi ffurfiol yn y dyfodol agos.

Ni chofiaf gale cam gan neb ohonynt na chael fy ngwawdio ganddynt.

Oherwydd hyn mae'r ymateb a godir ganddynt - arswyd,gorfoledd, rhyfeddod, dirgelwch, ymgolliant - yn wahanol hollol i'r ymateb sy'n digwydd wrth ddarllen ac ystyried ehediadau dychymyg barddonol.

ansawdd yr addysgu - gan gynnwys maint a phriodoldeb disgwyliadau'r athrawon am y disgyblion a'r amrediad o strategaethau addysgu a ddefnyddir ganddynt i gyflwyno ffeithiau a gwybodaeth, i roi ymarfer mewn sgiliau ac i sicrhau bod disgyblion yn datblygu dealltwriaeth.

Yn niffyg hynny, rhagwelodd y dydd pan fyddai'r to iau o weinidogion yn dihuno ryw fore i ganfod nad oedd ganddynt eglwysi o gwbl a dim gafael ynddynt:

Bu digon o drafod ganddynt ar lên Cymru yn gyffredinol, o Ganu Llywarch Hen i Tywyll Heno, o Drws y Society Profiad i Un Nos Ola Leuad.

Lle bo'r safonau'n anfoddhaol, bydd disgyblion yn ddihyder wrth siarad ac yn methu cyfathrebu'n effeithiol; dealltwriaeth gyfyngedig sydd ganddynt o'r hyn a glywant ac ni allant gynnal sgwrs estynedig; cyfyngedig yw'r rhan y maent yn ei chwarae mewn cyflwyniadau a thameidiog yw eu cyfraniadau at drafodaeth grŵp a dosbarth.

CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Iechyd Amgylchedd fod y wasg wedi dangos cryn ddiddordeb yn adroddiad NURAS ar yr Arolwg Cyflwr Tai yn y Dosbarth a gyflwynwyd i gyfarfod arbennig o'r Pwyllgor ac ymatebwyd i nifer o holiadau ganddynt.

I gymharu â siroedd Penfro ac Aberteifi, ym Morgannwg roedd llawer o'r plant yn llai na phum mlwydd oed, a'r plant dros ddeg yn llawer prinnach, am fod cyfle ganddynt i fynd i weithio yn y gweithfeydd, a dyna a wnaeth i Lingen gefnogi nid yn unig ddeddfwriaeth yn erbyn gadael i blant bach weithio, ond hefyd i roi pwys ar ganolbwyntio ymdrechion i gael ysgolion babanod yn yr ardaloedd diwydiannol.

A ph'run bynnag, mae Preis wedi cyfaddef ei fod wedi cael cadwyn gwerth pum cant o bunnau ganddynt am eu helpu.

Am y gwyddant yn eu calonnau y dylai Cymru fod yn ymreolus y mae ganddynt gydwybod Gymreig na rydd lonydd iddynt, gan wneud gwarth eu hannheyrngarwch yn fwy llidus.

Rhaid fod ganddynt rywfaint o Ladin i fedru adrodd y gwasanaethau ond tebyg mai digon diddysg oeddynt fel dosbarth.

Pan ail agorwyd gwaith y Gwscwm adeg y Rhyfel Byd Cyntaf fe gefais i'r cyfle i fynd drwy'r hen waith draw hyd waelod y pwll a gweld mai'r Pillar & Stall oedd y dull o weithio'r glo ganddynt ac i edmygu'n fawr y grefftwaith ar y pwll oedd tua chan troedfedd o ddyfnder a deg troedfedd ar draws.

I'w gwarchod rhag y perygl hwnnw gofalwyd bod ganddynt eu puteindai eu hunain, a byddai'r puteiniaid proffesiynol a gedwid yn y rheini'n cael archwiliad meddygol yn gyson.

Wel, os oedd yn well ganddynt lyfu cadwynau eu caethiwed!

Heb fanylu gormod, 'roedd wedi ymddwyn mewn ffordd anwadal iawn tuag at yr Aifft, a'r gwledydd hynny a oedd â diddordeb arbennig ganddynt yng Nghamlas Suez, yn ystod y pedwar mis cyn yr argyfwng.

Ond mae llawer o'r hydrogen yn rhy bell o sêr i gael ei effeithio ganddynt.

Sicrhau bod y timau datblygu newydd yn effeithiol a bod ganddynt berthynas waith gref gyda'r rhwydweithiau yn Llundain.

'Mae'n rhaid bod ganddynt rywbeth dan y ddaear i symud y garreg yn ôl i'w lle,' sibrydodd Iestyn.

Byddwn yn mund i mewn i ambell dŷ a chael croeso Cymraeg ganddynt.

Nid oedd ganddynt gartref ysbrydol.

Yn hytrach maent yn cael eu talu'n uniongyrchol am y gwaith a wneir ganddynt.

Fe drwythir y Gymraeg ganddynt.

Ganddynt hwy y ceir moddion a phils y mae meddygon yn eu hargymell i'w cleifion.

Ni thalai twtio a chymhennu hwnt ac yma; rhaid oedd newid holl syniad beirdd a beirniaid Cymru am hanfod barddoniaeth, a chael ganddynt ddirnad pethau newydd.

Yr abad yw'r cyntaf a enwir o blith y rhai y gofynnir ganddynt am y rhodd wrth i'r bardd gyfarwyddo ei negesydd: 'Cyrch dai amlwg ...

Mae hawl gan ysgolion a cholegau recordio rhaglenni os oes ganddynt drwydded oddi wrth yr Asiantaeth Recordio Addysgol.

Hwyrach y cawn air ganddynt ar gyfer y rhifyn nesaf.

Yr oedd y wasg wedi dechrau brygawthan am 'rwyg' yn y Blaid, ac ateb y Gynhadledd oedd - unfrydedd tros bolisi cydnabyddedig y Blaid."' Nid oedd unfrydedd llwyr, a bod yn fanwl; ond mae'n debyg fod y rhai a oedd yn anghytuno â'r penderfyniad a basiwyd wedi cilio heb bleidleisio ar y cynnig, ar ôl i'r gwelliant a gynigiwyd ganddynt fethu.

Nid oedd ganddynt ronyn o amynedd tuag at grefydd na'r Eglwys gan fod y naill beth fel y llall yn eu golwg hwy yn gwbl amherthnasol.

Diaist, roeddwn yn meddwl fod well i mi gael y resipi ganddynt: buaswn yn gwneud ffortiwn ar faes Caernarfon ac yn Ffair y Borth.

Pan ddaeth amser cychwyn sylweddolodd arweinwyr a swyddogion y Cyngor nad oedd ganddynt fwyafrif.

Dro arall yn dod ar draws cragen fregus cranc y traeth, neu bwrs y for forwyn a'r trysor pennaf ganddynt fydd gwalc ddi fefl.

Yr oedd ganddynt dri o blant yn byw yn y carchar sef Josephine, Wilhelmina a Frederick.

I genhedlaethau o blant Y Felinheli a anwyd yn y blynyddoedd cynnar wedi'r rhyfel byd cyntaf, Miss Williams Bethel oedd athrawes y plant yn Ysgol Hen, ac felly y parhaodd i gael ei hadnabod ar hyd ei hoes ganddynt.

Anffurfir y gymdeithas leol gan y biwrocratiaid fel y treisir y gymdeithas genedlaethol ganddynt, canys fel hyn y mae pobl yn haws eu trin.

Yr hyn sydd ganddynt yn gyffredin serch hynny yw eu bod yn dibynnu'n gyfan gwbl ar hysbysebion, ac felly ar beirianwaith dosbarthu effeithiol.

Rywsut nid oedd ganddynt galon i boeni Dad am y cwch.

Roedd ganddynt saith o blant yn dod i'r ysgol yr un amser â minnau.

Roedd ganddynt ddiddordeb mawr yn y cynnig a byddai Mr Hughes yn rhoi'r mater gerbron pwyllgor cyllid y Cyngor Dosbarth.

Nid oedd fawr o debygrwydd felly y byddai brenhinoedd Sbaen yn coleddu'r heresi newydd ac 'roedd ganddynt bob cymhelliad i lynu wrth eu hen ffyddlondeb.

Yn ystod y cyfnod dan sylw cawsom ganddynt bortreadu cofiadwy o gyfnodau amrywiol o'r bedwaredd ganrif ymlaen.

Yr hyn sydd o bwys i ni yw fod swm y cynnyrch a gafwyd ganddynt yn brawf eglur o'u ffydd mewn llenyddiaeth.

Mae'r gofal a amlygwyd gan rai athrawon i sicrhau fod darllenedd y deunydd a ddarperir ganddynt ar gyfer plant yn addas i'r grwp targed, i'w gymeradwyo'n fawr ac yn rhywbeth y dylid ei ymestyn fel rhan o bolisi ysgol.

Yr oedd gwastad y buarth yn is na gwastad y stryd, ac yr oedd o dan y ddau dŷ seleri a ffenestri ganddynt yn edrych dros y buarth i gyfeiriad y stabal.

Malwyr y gelwid y dynion hyn; yr oedd ganddynt ordd fawr yn pwyso rhywbeth o un pwys ar bymtheg i un pwys ar hugain; math o erfyn oedd hwn a chanddo un pen fflat a'r pen arall wedi ei finio, a choes bren ryw ddwy droedfedd o hyd iddo.

Mae llawer yn ffieiddio'r pysgod hyn oherwydd yr unig brofiad sydd ganddynt o'u dal yw pan y maent yn mendio wedi'r claddu.

Nid oes ganddynt ddiddordeb o fath yn y byd yn ein dyfodol cenedlaethol.

Amcan gweddill y papur hwn yw ystyried yn fwy manwl, yn nghyd- destun gwasanaethau addysgol, pa unigolion a sefydliadau sy'n cyflawni gwaith o natur cyhoeddus a pha ystyriaethau ddylai lywio ffurf a chynnwys y cynlluniau iaith a ddarperir ganddynt.

Llyfr oedd hwn a luniwyd ganddynt trwy gyfuno eu nodiadau eu hynain ac eiddo myfyrwyr eraill o ddarlithiau Saussure.

Erbyn heddiw cerddodd y Khmer Rouge Comiwnyddol i fewn i'r wlad brydferth hon ac ar ôl rhyfel erchyll o ladd ac ysbeilio creulon fe'i trowyd ganddynt hwy yn wlad gomiwnyddol a newidiwyd ei henw wedyn i Kampuchea.

Ond cymerwch gysur, canys pe buasai'r cwrs hwn yn agored ichi buasech felly yn cael eich amddifadu o ddarllen llenyddiaeth ddychymyg wychaf y byd disgrifiadau estate agents o'r ffermydd sydd ganddynt i'w gwerthu.

Bydd disgyblion yn darllen amrediad eang o destunau llenyddol, anllenyddol a thestunau'r cyfryngau; gallant ddarllen yn gywir, yn rhwydd a chyda mynegiant priodol; bydd ganddynt ddealltwriaeth eglur o'r hyn y maent yn ei ddarllen ac yn ei weld, a gallant ymateb ar lafar ac yn ysgrifenedig i destunau o gymhlethdod cynyddol.

Ar hyn o bryd y tueddiad ganddynt yw ymateb i gynlluniau sy'n effeithio'r ardaloedd gan wneud awgrymiadau o blaid neu yn erbyn unrhyw gynllun.

Roedd yn anodd ganddynt gredu ei fod wedi cael tro%edigaeth o ddifrif, ei fod yn awr yn pregethu ac nid yn erlid pobl Dduw fel cynt.

yr oedd un cysur ganddynt y cawn chwarae teg gan fod athrawes y babanod yn Gymraes o Sir Feirionnydd.

Rwan, doedd dim byd a wani pobl ar fws yn ei synnu, na dim byd a adawyd ar ôl ganddynt.

Mae hyn yn dechrau achosi ychydig o ddrwg deimlad, gyda rhai o'r ffoaduriaid yn teimlo fod ganddynt hwy fwy o hawl drosom na'r lleill, mae'n anodd iawn ceisio cadw pawb yn hapus.

Ysgogwyd y tri i sefydlu'r Seren Ogleddol gan newid a ganfuwyd ganddynt ym mholisi golygyddol Seren Gomer, llais y Radicaliaid yn ystod y pymtheg mlynedd flaenorol.

Eisteddant blwc ar eu traed ôl gan ddefnyddio'u pawennau a'u traed blaen i ymladd â'i gilydd yn union fel pe'n paffio, ac yn wir y mae ganddynt ergyd rymus iawn.

Darganfu'r ffordd i'r ystafell fwyta lle y gorfu iddo rannu bwrdd gyda phar ieuanc nad oedd ganddynt fymryn o ddiddordeb ynddo, ond a barodd iddo ddyheu am gwmni merch brydferth.

o'u golygu a'u profi a'u caniata/ u ganddynt hwy, i'w hargraffu i'r fath nifer o leiaf fel y bydd un o'r naill fath a'r llall ar gael i bob Eglwys Gadeiriol, Golegol a Phlwyfol a Chapel anwes .

Mae'r ansoddau sy'n hoff gan awdur y Pedair Cainc, sef gostyngeiddrwydd, diweirdeb a ffyddlondeb, yn groes i ansoddau'r gymdeithas arwrol y datblygasai'r Prydeinwyr a'r Cymry ohoni ac a ddethlid ganddynt yn eu llenyddiaeth.

Cydgyfranogai'r ddau o'r un nwydau dynol, bid sicr, ond yma eto eu trin a wnai'r naill ūr a'i drin ganddynt a gâi'r llall.

Bellach, doedd straeon ddim yn cael eu gwneud os nad oedd ganddynt gysylltaid Cymreig cryf.

Roedd y cwbwl ar dâp - y dagrau, y gweiddi, menyw'n llewygu dan y gwres a'r emosiwn, wynebau oer a gynnau cadarn y milwyr Israelaidd, a baner y wladwriaeth Iddewig yn chwifio'n herfeiddiol ar dir y daeth yn amlwg imi nad oes ganddynt y bwriad lleia' o'i ddychwelyd i'w wir drigolion.

Roedd ganddynt bapur newydd Cymraeg, "Seren y Dwyrain".

Gosododd allan ystadegau profadwy yn dangos beth oedd y cyflogau wythnosol i weithwyr â sgiliau neu heb sgiliau ganddynt, gan geisio llunio cymhariaeth costau byw, i brofi bod rhieni'n ennill digon i dalu am addysg plant.

Ond rheola'r proffwydi yn rhinwedd yr afael gadarnach sydd ganddynt ar y sylweddau, yn rhunwedd eu gallu i dreiddio i mewn i'r sylwedd a'i amgyffred.

." Teimlais ei bod hi'n hen bryd iddynt wybod fy mod yno, rhag ofn iddynt ddweud rhywbeth y byddai'n edifar ganddynt amdano.

Pwy a all fesur ein dyled i'r Cymry hynny sy'n gwrthod gwerthu eu ffermydd i'w cyd-Gymry amharchus, gan ddewis yn hytrach ymddiried y tir sydd mor annwyl ganddynt i ddwylo'r sawl a rydd brawf digamsyniol o'i barch tuag at y tir hwnnw?

O na bai'n cael llonydd ganddynt i ddilyn ei briod waith ei hun: troi melinau gwynt i falu grawn yn fwyd i'r plantos, llenwi hwyliau gwynion llongau a'u gwthio dros groen yr eigion, dal ei law dan esgyll adar mawr a mân.

Mae ganddynt ddol sydd ar werth ym mhob man at gadw athreitus draw a chanant gan arbennig i'r ddol yma sy'n gofyn iddi beidio dal dicter tuag atynt.

Ac wrth ei dawnsio, llaesodd pob un o'r dawnswyr hynny o foesau confensiynol oedd ar ôl ganddynt.

Wedi i'r Beirdd ymgynnull wrth y maen, gweiniwyd y cleddyf ganddynt ac eglurodd y 'datgeiniad', sef llywydd y seremoni, Iolo Morganwg, na fyddai'r Beirdd yn arfer cario cleddyf noeth yng ngŵydd neb ac na fyddent yn caniata/ u i neb gario un yn eu gŵydd hwythau ychwaith.

Canlyniad hyn fu cyfodi o blith y gwŷr rhyddion Cymreig, nad oedd ganddynt at ei gilydd ond ychydig aceri ar eu helw er gwaethaf eu hachau urddasol, ddosbarth o ysgwieriaid llawer mwy cefnog, a elwir yn aml yn uchelwyr.

Y naill yn nofelydd a'r llall yn brifardd y mae Hywel Teifi yn disgwyl pethau gwych ganddynt er nad yw T.

Tai oedd testun y nifer ail fwyaf o gwynion ac eleni 'roedd y pryder ynglŷn â'r modd yr oedd rhai awdurdodau wedi bod yn dyrannu'r llety a oedd ar gael ganddynt.

Anaml y bydd disgyblion yn darllen a chul yw amrediad eu darllen; ni fyddant yn darllen yn rhwydd a dealltwriaeth rannol neu ansicr sydd ganddynt o'r hyn a ddarllenant.

Yn rhyfedd iawn, fyddai ganddynt byth gūn da iawn yng Nghwrt Isaf er cymaiant o ddefaid oedd ganddynt.

Yn ôl Iolo Morganwg, cafodd ei rybuddio ganddynt y byddent yn ymweld â'i gartref yn Nhrefflemin a mynd trwy ei bapurau.

Roedd yn amlwg nad oedd y rhain yn aelodau o'r llwyth, felly nid oedd ganddynt hawl i godi dŵr o'r ffynnon heb ganiatâd, yn enwedig gan fod gymaint ohonynt.

Dengys yr uchod mai bychan yw cyfraniad cymdeithasu tai o ran canran o'r stoc dai, er eu bod yn medru gwneud cryn argraff o safbwynt cyfanswm yr unedau a ddarperir ganddynt, ac ymateb i'r angen lleol.

Gwesteion y noson oedd Mr Dewi a Mrs Magdalen Jones o'r Benllech a chafwyd adloniant syber a phwrpasol iawn ganddynt, sef adrodd barddoniaeth gan Mr Jones a chanu hyfryd Mrs Jones.

Ni fyddai'n rhaid i neb fy ngweld yno, os oedd yn well ganddynt beidio.

Pan ail agorwyd gwaith y Gwscwm adeg y Rhyfel Byd Cyntaf fe gefais i'r cyfle i fynd drwy'r hen waith draw hyd waelod y pwll a gweld mai'r Pillar & Stall oedd y dull o weithio'r glo ganddynt ac i edmygu'n fawr grefftwaith ar y pwll oedd tua chan troedfedd o ddyfnder a deg troedfedd ar draws.

Nid oedd y ddau feddyg am ddod, gwell oedd ganddynt aros ar ôl.

Gwnant yr ymdrech oherwydd yr ymdeimlad o gyfrifoldeb at y gorffennol sydd ganddynt.

Mae yn Tros Gymru JE Jones ychydig gyfeiriadau cynnil dros ben at y barnau gwahanol hyn; ac mae'n sicr, wrth edrych yn ôl, fod yr awgrym sydd ganddo, mai crychni bach ar y tywod yn unig a adawyd ganddynt, yn weddol gywir.

Roedd ganddynt drowsusau gwyn a sandalau aur am eu traed, a gwregys llydan coch am eu canol.

Na, nid oedd ganddynt unrhyw wybodaeth am y materion hyn oherwydd nid oeddent wedi gweld y cytundeb.

Yn y dagell fyw, mae pad o silia gwahanedig sy'n symudol ac mae ganddynt guriad effeithiol sy'n rheiddio o ganol y pad.

Oblegid bod ganddynt draddodiad a hwnnw'n amlwg yn eu gwaith, gwedir eu hawl i weledigaeth.' Un rheswm am y dibrisio hwn, meddai, oedd y modd y dysgid Cymraeg yn y colegau: rhoddid pwyslais ar eirfa a chystrawen yr hen gywyddwyr, ond anwybyddid eu myfyrdodau ar y byd.