Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ganed

ganed

Ganed fy nhad ym Mhen-dre, Ty Nant, Plwyf Llangwm, fferm fechan oddeutu hanner milltir o Benyfed.

O'u deall fel ymdrech gan Peate i gymathu Murry a'r traddodiad y ganed ef iddo, maent o'r pwys mwyaf.

Daeth y ddau i lawr i'r De o Ddinas mawddwy, un o'r pentrefi hyfrytaf a Chymreiciaf y pryd hwnnw cyn y mewnlifiad Saesneg iddo, ond yn Nant-y-moel y'm ganed i.

Er mai yn Lambeth yn Llundain y ganed ef, fe'i magwyd ym Mhen-y-groes ac acen hyfryd shir Gâr fu ganddo weddill ei oes.

Fe'i ganed yn Sir Drefaldwyn, ac ar ôl bugeilio'r ofalaeth am oddeutu naw mlynedd, dychwelodd i Sir Drefaldwyn, oherwydd gwaeledd ei fam.

Ganed merch fach Georgia, i Andrew a Sandra Duggan Edwards, Rhiwlas, chwaer fach i Mollie.

Ganed Grant Llewellyn ym 1960 yn Ninbych-y-pysgod, yn Ne Cymru.

Ac yn Wrecsam y ganed y mab hyna, Gwyn, a raddiodd yn y Gyfraith yn Aberystwyth, ac sydd bellach ers tro byd yn gweithio yn un o Swyddfeydd y Llywodraeth yn Awstralia.

Ganed Arshad Rasul, 45, ym Mhacistan ac ar hyn o bryd mae'n byw yn Harpenden, Swydd Hertford gyda'i wraig a'i ddau blentyn.

Fe'i ganed hi yn y Dinas, Rhondda yn ferch i Benjamin Rees o Eglwysilan ac Ann Butler o Landwyfog, Cwm Ogwr, ac yn Nhreorci, y Rhondda y digwyddodd i 'nhad a'm mam gael eu geni.

O ganlyniad, Gwent a gynhyrchodd Islwyn, bardd Cymraeg mwyaf y ganrif ddiwethaf, a ganed Daniel Owen, ein nofelydd mwyaf, yn Yr Wyddgrug, o fewn tair milltir i'r ffin Seisnig.

Ganed Richard Davies rywbryd yn ystod deng mlynedd cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg - ni allwn fod yn fwy pendant na hynny, gwaetha'r modd.

Ym Mhatagonia y'i ganed a doedd dim yn well ganddo nag adrodd hanesion - gwir a dychmygol dybia i - am ei blentyndod a'i lencyndod yn y Wladfa, yn enwedig ar brynhawn Gwener pan fyddai ambell un mwy hirben na'i gilydd yn ein plith yn gofyn cwestiwn neu'n gwneud sylw a fyddai'n cyfeirio meddwl 'Pat' i'r cyfeiriad iawn.

Fe'i ganed ac fe'i maged yn ardal Caernarfon, ond eisoes y mae ei waith wedi cael ei weld yn yr America a thrwy Ewrop.

Diflannodd ffermio cymysg traddodiadol a ganed 'agri-business' - o leiaf mewn rhannau helaeth o Brydain, y Cyfandir a'r Amerig.

I gynmdeithas a goleddai syniadau o'r math y ganed Syr John Wynn yng nghanol yr unfed ganrif ar bymtheg.

O'r dydd y'm ganed, y fam a'm dygodd i'r byd a fu'n brif elyn fy hapusrwydd, a hi sy'n eistedd gyferbyn â mi bob pryd bwyd.

Yn Llangywair y ganed yr ail fab, Huw, sydd bellach ar staff Ysgol Uwchradd Morgan Llwyd yn Wrecsam.

Fei ganed ar Ragfyr 18, 1947, yn Cincinnati, Ohio.

Ganed George i dynnu pobl i lawr.

Yn y castell hwn hefyd y ganed eu Tywysog, Llywelyn ab Iorwerth.

Ganed y Dr John Davies yn y Rhondda, ac fe dderbyniodd ei addysg yn Nhreorci, ym Mwlchllan, Tregaron, ac wedyn ym Mhrifysgol Caerdydd a Choleg y Drindod, Caergrawnt.

Fe glywais mai yn "Clai Coediog" Pentraeth y ganed ef, ac yr oedd yn un caredig a chymwynasgar.

Dewisais 'Pennar' am fod yr afonig Pennar yn llifo i'r afon Cynon lai nag ystaden o'r lle y'm ganed.