Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ganfod

ganfod

Maen nhw wedi datblygur ddawn o greu lle ac o ganfod bylchau yn hytrach na chyrff.

Brithir ei atgofion a'i fyfyrdodau gan gyfeiriadau at arwyr Iwerddon, yn enwedig wedi iddo ganfod fod carcharorion o Wyddyl wedi bod yn yr un gell ag ef o'i flaen.

Pe deuai gwybodaeth am ddamwain mewn pwll glo, dyweder, mor ddiweddar â phump o'r gloch y prynhawn, fe âi'r tîm newyddion ati ar amrant i ganfod peth o gefndir y lofa, yn ogystal ag anfon uned ffilmio allan ar unwaith.

Darparodd Ram Jam a Beks gynyrchiadau safonol i'r gwrandawyr, tra cymerodd Traciau Trobwynt olwg fwy mympwyol ar y ffordd y mae cerddoriaeth yn effeithio ar unigolion drwy ganfod y trobwyntiau ym mywydau pobl fel yu diffiniwyd gan gerddoriaeth.

Yn niffyg hynny, rhagwelodd y dydd pan fyddai'r to iau o weinidogion yn dihuno ryw fore i ganfod nad oedd ganddynt eglwysi o gwbl a dim gafael ynddynt:

Felly mae angen ymchwil i ganfod: - Manteision cognitif a chymdeithasol dwyieithrwydd; - Y ddelwedd sydd gan y Gymraeg.

Sefydlwyd project eisoes i'r perwyl hwn i ganfod yr anghenion galwedigaethol mewn rhai meysydd penodol ac i gynllunio rhaglen ddatblygol yn y sector addysg bellach is.

Amddiffynodd Hughes ei arddull cyn i'r cyhuddiad gael ei wneud ar bapur, beth bynnag: "...nerth ac anwadalwch, a dyfnder yr argyhoeddiad ar fy meddwl fy mod yn amddiffyn y gwirionedd, yn unig a bair i mi lefaru gydag eofndra a hyder, a lle y tybiaf bod genyf y gwir, yn y peth y mae y rhai a hoffaf wedi methu ei ganfod, cydnabyddaf y rhodd, a gostyngedig ddiolchgarwch a gau allan ymffrost", meddai.

Mae'n bosibl hefyd, a chofio y gall yr awdur fod yn fynach, fod awgrym ffurff o benyd cyhoeddus i'w ganfod yn y gorchymyn i adrodd yr hanes wrth bawb a ddêl i'r llys.

Synnwn i ddim na fyddai plant heddiw yn mynnu cael eu cwnsela cyn - ac yn sicr ar ôl - gwneud y daith hir i'r siop bapur i ganfod eu canlyniadau a chael eu cywilyddio weithiau yng ngwydd gwlad.

Yr oedd y pryf yn y pren i'w weld yn eglur iawn i'r sawl a oedd yn berchen ar lygaid i ganfod yr effeithiau chwarter canrif yn ôl, cyn i'r Rhyfel dorri allan.

I ganfod a wyt yn llwyddo i ddal dy afael arno tafla'r dis.

Honnodd Murry iddo ganfod ym mywyd ac yn llythyrau Keats '...

Ond doedd wiw i'r Gwylwyr ganfod hynny.

Yr heddlu yn defnyddio dull newydd o ganfod troseddwyr, olion bysedd.

Ar ôl cael ei ddychryn wrth gyflwyno'i raglen gyntaf ar deledu aeth un o newyddiadurwyr mwyaf gwylaidd ein cyfnod i olygu newyddion i'r BBC Yn fuan wedi cyrraedd yno, ac yntau'r prynhawn hwnnw wedi bod yn paratoi'r newyddion Saesneg, aeth i'r stiwdio sain gyda bwletin cyflawn dan ei gesail i ganfod nad oedd y darllenydd arferol wedi cyrraedd.

Newid bychan iawn a geir yn y tymheredd, ond yn sicr y mae'n newid y gall thermomedr eithriadol o sensitif ei ganfod.

Yn yr amgylchiadau nid syn yw clywed fod Daniel Owen wedi dechrau colli ei gwsg yn ceisio barddoni er mwyn cipio'r llawryf mewn gwahanol gystadlaethau: Nid oes edefyn cyson o ddylanwad a dynwarediad clasurol yn rhedeg trwy leynyddiaeth Gymraeg, o'r math sydd yn hawdd ei ganfod mewn llenyddiaethau eraill megis y Saesneg, y Ffrangeg neu'r Almaeneg.

Mae'n rhoi ystyriaeth i holl lyfrau a chyfieithiadau Theophilus ochr yn ochr â'r enwog Ddrych, ac yn mynd y tu cefn i'r llyfrau i ganfod y dyn ei hun.

Aeth a'i docyn aelodaeth i'w hen eglwys ym Methel, ond nid Bethel ei blentyndod a'i lencyndod mo'r pentref bellach ac y mae digon o dystiolaeth ar gael iddo ganfod hynny'n fuan.

Haedda T Gwynn Jones glod arbennig am ganfod natur eithriadol ' rhieingerddi', chwedl ynatu, ac am dynnu sylw atynt.

Mae Harri wedi ei ganfod ei hun yn wleidyddol mewn termau negyddol.

Ac ni buom yno'n hir cyn i mi ganfod mai felly y dychwelem adref oni ddigwyddai gwyrth.

Diau eu bod hwy yn eu gweld yn stori%au am farchogion llys Arthur, a disgwylient ganfod yn y categori hwnnw nodweddion cyfanrwydd yr ymchwil sifalri%aidd, lysaidd, ond o fewn y cyd-destun cyfeiriol hwnnw byddai rhaid i bob stori gynnal ei hapêl ei hun.

Mae'r gallu i weld yn ein helpu i ganfod lloches, bwyd a dwr, ac i adnabod perygl.

Nid oes ryfedd felly bod 'cenedl' a 'brenhiniaeth' (neu 'teyrnas', fel y cyfieithir yr un gair weithiau) yn ymddangos yn gyfochrog yn y Beibl, ac i bob pwrpas yn cael eu defnyddio fel cyfystyron - "chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid ac yn genedl sanctaidd" Ymddengys i Israel, o sylwi ar y cenhedloedd oddi amgylch, ganfod eu bod o ran eu trefn gymdeithasol yn deyrnasoedd neu'n freniniaethau, a daeth felly i ystyried meddu brenin fel un o nodau cenedligrwydd.

Byddaf yn troi'n ôl atyn nhw eto, nid heb beth betrusder ynglŷn â'r hyn y byddaf yn debyg o'i ganfod.

bydd angen dadansoddiad manwl yn nes ymlaen i ganfod a oes arwyddocaol rhwng asesiadau'r gwahanol ddogau.

Medrwch ganfod bron popeth rydych angen gwybod ynglyn ag un o fandiau Cymru, o'r newyddion diweddaraf a'r disgograffeg i luniau, pytiau sain a llawer mwy.

Er mai yn y bymthegfed ganrif a'r unfed ar bymtheg y cyrhaeddodd y proses hwn ei anterth, yr oedd eisoes i'w ganfod ar waith yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.

Y mae'r ateb i'w ganfod yn yr hyfforddiant a gafwyd yn y clybiau yn ystod y gaeaf.

Mi wn lle mae'r Sosban Fawr a'r Sosban Fach a gwn hefyd sut i ddilyn cyrn yr Arad i ganfod Seren y Gogledd, a dyna'r cwbl.

Mae'n driniaeth syml os ydy'r cancr yn cael ei ganfod yn fuan.

Go brin mai'r meddygon sy'n cwyno -- mae ganddynt hwy eu dull o ganfod gwir angen.

Gallai un anghyfarwydd â'r grefft synied bod y saer yn gwastraffu ei amser gan mor ychydig o gynnydd a datblygiad a ellid ei ganfod.

Mae ganddo'r gallu i weld y byd fel na all unrhyw un na gafodd ffydd ei ganfod.