Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ganiata

ganiata

Gyda golwg ar sicrhau rheolaeth effeithiol ar y treuliau pasiwyd yn unfrydol nad oedd neb i ymgymryd ag unrhyw agwedd ar y gwaith ariannol heb ganiatâd y Pwyllgor Cyllid.

Cysga'r gweision yn y tai allan (outbuildings), gan fyned i'w gwelyau pan fynnont; gofyn y morwynion am ganiatâd i fyned allan yn y nos ac yna cyferfydd y dynion â hwynt yn y tafarndai; yn y ffordd hon ceir llawer o anfoesoldeb.

Dywedodd hefyd fod y ddirprwyaeth yn cael mynd i Rwmania am fod yr Undeb Sofietaidd wedi caniata/ u hynny yn gyfnewid am ganiatâd gan Brydain i gomisiwn Sofietaidd ddod i'r Eidal.

Ro'n i'n dal i ystyried faint o raff yr oedd y lliw personol, yr angen i adrodd profiad, yn ei ganiata/ u pan gyrhaeddais Mogadishu.

Bu'r gaeaf yn garedig wrthynt gan ganiata/ u i fwy nag arfer ohonynt fyw.

O dan yr ymagweddu hwn ceid cronfa o ragrith siofenistaidd a ganiatâi ryddid, os nad penrhyddid, i ddynion, ond a gollfarnai'n chwyrn a diarbed unrhyw ferch, boed honno'n briod neu beidio, a hawliai'r un rhyddid iddi'i hun, neu a syrthiai'n ysglyfaeth i ysfa rywiol dyn.

Mae'n anodd meddwl am neb a fuasai'n awyddus i hawlio'r cyfansoddiadau hyn fel ei waith personol, ond mewn oes pan oedd llên-ladrad yn rhemp, dysgodd y Meudwy drwy brofiad chwerw, mae'n rhaid, y dylai ddiogelu ei gynhyrchion, a dyma paham y ceir 'Entered at Stationer's Hall', 'All Rights Reserved' ac 'Ni ellir argraffu y cyfansoddiadau hyn heb ganiatâd yr awdur' ar bob un o'i lyfrau.

Daeth i'm meddwl eleni mai'r garddwyr mwyaf llwyddiannus yw'r rheini a all addasu eu syniadau ar gyfer yr hyn ganiatâ'r tywydd iddynt ei wneud yn hytrach na dilyn dyddiaduron garddio a rhaglenni'r cyfryngau.

Gofynnodd am gael cyflwyno'i achos o'u blaen; ac ymhen hir a hwyr fe gafodd ganiatâd i wneud hynny.

Fel rheol arferaf blannu tatws yn yr ardd allan yn ystod yr wythnos gyntaf neu ail o Fawrth ond nid oedd cyflwr y pridd yn ddigon sych eleni i ganiata/ u gwneud hynny felly bu ymarfer ymenydd (gwell ymadrodd na 'crafu pen') i geisio dull o ddod dros ben hynny.

Yr oedd un neu ddau o gynghorwyr lleol pur brofiadol yn bresennol, a gofynnodd un ohonynt am ganiatâd i gyflwyno'r cynllun i'w gyngor ef, yn gynllun a awgrymwyd iddo gan arbenigwr, ond heb enwi'r Blaid; yr oedd e'n ffyddiog y byddai ei gyngor yn ei dderbyn ac y byddai'r aelodau'n barod i'w gymeradwyo i gynghorau eraill.

Gellir dadlau fod yma achos o ganiata/ u ysgariad arwahan i odineb.

Ar ddiwrnod cynta'r ffilmio; fe wrthododd ganiatâd inni ffilmio murlun anferth o Che Guevara yn Sgwâr y Chwyldro, gan esbonio fod y llun ar ochr pencadlys gwasanaethau cudd y wlad.

A phan weli'n dda ganiatâu i'r stormydd ein taro ac i'r gwyntoedd ruo o'n cwmpas, fe'n gorfodir i sylweddoli pa mor wan yw nerthoedd dyn er ei holl wyddoniaeth a pha mor frau yw ein bywyd ninnau.

Rhoes ganiatâd iddynt bregethu'r ffydd Gristnogol ac i droi pobl i'r ffydd honno.

Yna, gwelir newid yn naws y darn fel y mae'r rhythm yn newid i ganiata/ u i Hiraethog ledu'r ffocws er mwyn y gomedi.

Dim ond yn raddol bach yr oedd problemau fel hyn yn dod i'r amlwg, gan ganiata/ u i'r newyn ddal ei afael pan ddylai fod wedi'i lacio.

Eto, rhywsut, roedd y Beirutis yn dal i ganiata/ u i fywyd fynd yn ei flaen.

Roedd yn amlwg nad oedd y rhain yn aelodau o'r llwyth, felly nid oedd ganddynt hawl i godi dŵr o'r ffynnon heb ganiatâd, yn enwedig gan fod gymaint ohonynt.

Gofynnais i feddyg eiddil o dan fwrn ei ddiferion chwys - mewn oerni unig ynglŷn â chyflwr claf arall - am ganiatâd i roi chwistrelliad o gyffur cry' i arbed poen i'r bachgen deunaw oed a oedd yn cynhyrfu am fod ei lygad de yn hongian allan o'i ffynnon goch ac yn gorffwyso'n flêr ar ei rudd lwyd; ac yn disgleirio yn las tuag ataf .

Cafodd ganiatâd i ddefnyddio'r ffôn ond doedd ganddi ddim syniad pwy i'w ffonio.

Yna dywedodd wrthyf, Edrych, fe ganiatâf iti ddefnyddio tail gwartheg yn lle carthion dyn i grasu dy fara.

Roedd pedwar reslwr yn eistedd yn y maes awyr yn Karachi, a phedwar arall yn Bombay yn disgwyl am ganiatâd i fynd i Oman.

"Pwy roddodd ganiatâd iddyn' nhw?" holodd yn biwis.

Fel un 'a faged yn nhraddodiadau'r Hen Radicaliaeth Gymreig', chwedl yntau mewn man arall, ni allai Gruffydd dalu gwrogaeth ond i draddodiad Anghydffurfiol a ganiatâi wrthryfel parhaus yn erbyn pob awdurdod.

Rhoddwyd iddo hefyd drwydded gyffredinol i bregethu, fel nad oedd angen iddo chwilio am ganiatâd pob esgobaeth i bregethu ynddi yn ystod ei ymweliadau.

Cafodd rhai o'r Tseineaid y tu allan i'r gwersyll ganiatâd i anfon ychydig o fwyd a ffrwythau i ffrindiau y tu mewn, ac ymhlith y rhai a dderbyniai ambell ffafr o'r fath roedd swyddog o'r enw Capten Lewis, a oedd yn enedigol o Gwrt-y-Betws, Sgiwen, ac nid anghofiaf byth ei garedigrwydd tuag ataf yn rhannu â mi o'i ychydig prin.

Rhoes y brenin ganiatâd i Bec hefyd wneud eglwysi prebendaidd ohonynt, neu i berthyn i eglwysi a oedd yn brebendaidd yn barod.

Wedi'r cwbl, ni allai'r method ganiata/ u hunanlywodraeth i unrhyw ran o realiti.

(a) Rheolaeth Datblygu o ddydd i ddydd yn gyffredinol gan gynnwys (ond nid er cyfyngu ar hawliau'r Pwyllgor mewn unrhyw fodd) ymdrin â'r rhelyw o geisiadau unigol am ganiatâd cynllunio neu dystysgrif defnydd sefydlog neu faterion o'r fath a phob gweithrediad yn deillio o'r cyfryw a hefyd pob mater ynglŷn â gorfodaeth yn codi o'r Deddfau Cynllunio ac unrhyw Is-ddeddfau a Rheoliadau a wneir dan y Deddfau hynny gan gynnwys rheolaeth ar hysbysebion, coed, adeiladau rhestredig a materion o'r fath.

Gofynnais iddo ganiata/ u i ferch mor ddawnus â Miss Derwent gael mynychu Cynhadledd y Cilgwyn, Castellnewydd Emlyn, a oedd wedi ei threfnu ar gyfer y penwythnos olaf ym mis Medi.