Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ganiataol

ganiataol

Er enghraifft, efallai y bydda'i'n trafod fformiwla y bydda'i'n cymeryd yn ganiataol eu bod yn ei wybod ac yn darganfod nad ydyn nhw ddim.

"Ma' hi'n edrych i fi fel pe bai rhai pobol ffordd hyn yn cymryd gormod yn ganiataol,' meddai Bethan.

Cymerwch yn ganiataol y bydd rhai yn dymuno gwneud a datgenwch fod croeso i bawb ddefnyddio'r iaith maen nhw'n dymuno ei defnyddio.

Yr oedd hefyd gynnig gwrthgyferbyniol, oddi wrth gangen arall yn ymyl y gyntaf, yn galw am fabwysiadu'n ffurfiol y polisi a gymerid yn ganiataol yn llawer o sgrifennu cyhoeddus rhai o'r arweinwyr, Polisi perchentyaeth

A chymerasid yn ganiataol rywsut nad ymadawai Wiliam byth â'i gartref ond i briodi.

Tuedd cyfrolau fel hon, er pob ymdrech i fod yn wrthrychol, yw clodfori, yw cymryd yn ganiataol fod pob sillaf o eiddo'r bardd yn gampwaith.

Onid oedd perygl felly y gallai farw yn ystod un o'r ysbeidiau hyn, ac na ddylai'r mudiad gymryd ei atgofion yn ganiataol?

Mae'n werth bod ychydig yn amheus, a chymryd yn ganiataol fod rhywbeth yn bod arni.

Cymerwyd yn ganiataol, mae'n debyg, mai ar sail bwriad yr awdur y dylid beirniadu'r nofel.

Nid oes gan y Deyrnas Gyfunol gyfansoddiad ysgrifenedig a'r traddodiad hwnnw o gymryd pethau'n ganiataol oni phrofir yn wahanol sydd i gyfrif am nad oes datganiad ffurfiol o statws swyddogol y Saesneg fel sydd ar gyfer ieithoedd eraill mewn gwladwriaethau sydd â chyfansoddiad ysgrifenedig.

Peidiwch â'i chymryd yn ganiataol y bydd cyfarfod yn ddwyieithog am fod cwpl o gyfieithwyr yn eistedd mewn bwth.

Yn aml iawn, caiff pobl eu gwahanu oddi wrth lawer o ffynonellau gwybodaeth a chyngor y mae'r gweddill ohonom yn eu cymryd yn ganiataol.

Cymerid ffyddlondeb cenedl i'w duw cenedlaethol yn ganiataol, ac felly cwbl wrthun yng ngolwg yr Hen Destament oedd anffyddlondeb Israel i'w Duw.

Cytunwn yn llwyr â'r Dr Rachel Bromwich fod tystiolaeth y Trioedd hynny lle cyfeirir at Drystan yn hynod bwysig, ond rhaid cofio nad yw cyfeiriadau o'r fath o angenrheidrwydd yn datgelu gwybodaeth am fwy nag un episod neu elfen stori%ol: ni allwn gymryd yn ganiataol eu bod yn adlewyrchu gwybodaeth am chwedl go iawn.

Mae rhywun yn cymryd yn ganiataol ei bod hi'n rhy ifanc i gofio y wefr gerddorol a sgubodd fyd cerddoriaeth ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.

Lischana Fy nhad a'm difethodd gyntaf - gwneud imi gymryd yn ganiataol y buasai rhywun i ddisgwyl amdanaf ac i'm hebrwng adref ym mhen draw pob taith hir ar draws y mynyddoedd: o Oerddrws i Islaw'r dref, o Lanbedr yn Ardudwy i Lanelltyd, o Gerrigydrudion i'r Ganllwyd o Gapel Curig i Groesor.

Pan fabwysiadwyd llyfrau'r Hen Destament gan yr Eglwys Gristionogol yn dreftadaeth iddi, wrth gymryd yn ganiataol fod parhad rhwng crefydd yr Iddewon a Christionogaeth, fe dderbyniodd yn rhan bwysig o'r dreftadaeth honno y syniad Iddewig mai diben Duw yn cael ei weithio allan mewn amser yw hanes.

Trawsffurfiodd yr hen Gomisiwn Eglwysig a'i droi'n Llys yr Uchel Gomisiwn a hwnnw'n gwbl wynebgaled yn defnyddio ddulliau hen chwilys yr Oesoedd Canol, yn gorfodi pob cyhuddedig i gymryd y llw ex officio a oedd yn caniata/ u i esgob yn rhinwedd ei swydd ofyn unrhyw gwestiwn a fynnai i'r cyhuddedig a phe peidiai hwnnw ag ateb, gellid cymryd yn ganiataol ei fod yn euog, er nad oedd un ditment wedi ei chyhoeddi yn ei erbyn cyn hynny na thwrnai'n bresennol i'w gynorthwyo.

Cymerid yn ganiataol fod cyfnod Cristionogaeth ar ben, ac ategwyd y farn honno gan un o'r caplaniaid a adnabu pan ddywedodd fod wyth deg a phump y cant o'r bechgyn dan ei ofal heb un arlliw o gysylltiad â chrefydd.

`Fedrwch chi ddim cymryd dim byd yn ganiataol!' meddai Gunnar.

Mewn byd masnachol ni fyddai'r cynhyrchydd yn cael gwaith ar ôl torri cytundeb, ond nid felly yn ganiataol yng Nghymru gan fod y berthynas yn un fwy clos.

Nid yw hyn yn rhywbeth y dylai rhieni ei gymryd yn ganiataol hyd yn oed yn dilyn digwyddiadau trist yr wythnos diwethaf.

Ond cymerwn yn ganiataol eich bod nid yn unig yn hanner-pan ond hefyd, drwy ryw ryfedd wyrth, yn Gymro a chanddo'r gallu i dalu am fferm yng Nghymru.